Seremoni ailddatgan addunedau
Mae seremoni ailddatgan addunedau yn gyfle i gyplau sydd wedi priodi neu wedi ymrwymo mewn partneriaeth sifil i ailddatgan eu addunedau. Nid oes gan y seremonïau hyn statws cyfreithiol.
Bydd cofrestrydd yn cynnal y seremoni ar eich cyfer a byddwch yn derbyn tystysgrif goffäol.
Mae'n bosib cynnwys eich dewis o ddarlleniadau a cherddoriaeth yn y seremoni. Ond, nid yw'n bosib cynnwys darlleniadau na cherddoriaeth grefyddol.
Ffioedd 2019-2020
Ffoniwch 01766 771000
Bydd angen talu ffi na all gael ei ad-dalu er mwyn cadarnhau'r dyddiad a'r lleoliad gyda'r gwasanaeth cofrestru. Gallwch dalu gweddill yr arian unai i'r cofrestrydd pan fyddwch yn cwrdd o flaen llaw i drafod y seremoni mewn manylder, neu ar ddiwrnod y seremoni. Gallwch dalu gydag arian parod, cerdyn debyd / credyd, archeb bost neu siec yn daladwy i 'Cyngor Gwynedd'.
Ffioedd seremoniau 2019-2020
Mwy...
Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01766 771000.