Cwestiynau ac atebion - priodas grefyddol

 

Pwrpas rhybudd ffurfiol ydi sicrhau eich bod yn breswylydd cymwys yn y sir ac eich bod yn rhydd ac yn gyfreithlon i briodi.

Bydd y rhybudd ffurfiol yn cael ei arddangos ar hysbysfwrdd cyhoeddus yn Siop Gwynedd Caernarfon. Bydd y Gwasanaeth Cofrestru yna’n paratoi eich tystysgrifau, sef y dogfennau sy’n rhoi awdurdod cyfreithiol i chi briodi. 

Mae'r tystysgrifau y byddwch yn eu derbyn ar ôl rhoi’r rhybudd ffurfiol yn ddilys am flwyddyn o'r diwrnod y cafodd yr hysbysiad ei roi. Er enghraifft – pe baech yn rhoi y rhybudd ffurfiol ar 2 Ebrill 2019, bydd y tystysgrifau ar gael ar 1 Mai 2019, a byddant yn ddilys hyd 2 Ebrill 2020. 

Gall y seremoni gael ei chynnal ar unrhyw ddyddiad o fewn y cyfnod dilys (gweler cwestiwn uchod). Fodd bynnag, bydd rhaid i chi roi gwybod i'r Gwasanaeth Cofrestru er mwyn cytuno ar ddyddiad newydd. Ffoniwch 01766 771000. 

Os byddwch yn penderfynu newid lleoliad y seremoni wedi i chi roi y rhybudd ffurfiol, ni fydd eich tystysgrifau yn ddilys. Bydd rhaid cyflwyno rhybudd ffurfiol o'r newydd a thalu'r ffioedd y byddwch wedi eu talu eto. Cysylltwch â ni ar 01766 771000. 

Er mwyn priodi mewn capel yng Ngwynedd, bydd angen i chi fod yn aelod o'r capel hwnnw, neu fod wedi byw yng Ngwynedd am o leiaf 7 diwrnod cyn rhoi y rhybudd ffurfiol. 

Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen i Gofrestrydd fod yn bresennol yn y gwasanaeth.  Fodd bynnag, mewn rhai capeli fe benodir swyddogion lleol (Personau Awdurdodedig) i weithredu ar ran y Cofrestrydd. Yn yr achos hwn, dylid trafod ffioedd y seremoni a chofrestru gydag awdurdodau’r Capel dan sylw. 

Na - nid oes gan unrhyw un arall hawl i roi hysbysiad ar eich rhan. Bydd angen i'r 2 ohonoch gyflwyno rhybudd ffurfiol.

Byddwch angen i chi ddod â:

  1. Unai pasbort neu dystysgrif geni (efallai y byddwn angen dogfennau eraill hefyd, mae’n bwysig i chi ofyn i’r Cofrestrydd beth yw’r gofynion diweddaraf).

  2. Prawf o'r cyfeiriad lle rydych yn byw: dogfen rhent neu dreth cyngor, bil gwasanaeth cyhoeddus diweddar/datganiad banc

  3. Statws priodasol / partneriaeth sifil (os yn berthnasol) 
    -  mewn achos ysgariad/gwahanu – tystysgrif archddyfarniad terfynol
    -  mewn achos profedigaeth – tystysgrif marwolaeth y cyn bartner

Mae'r rhestr uchod yn cyfeirio'n benodol at ddinasyddion y Deyrnas Unedig. Os oes un ohonoch yn ddinesydd o wlad arall a/neu wedi cael ysgariad mewn gwlad arall, dylech holi'r Gwasanaeth Cofrestru cyn trefnu apwyntiad i roi rhybudd ffurfiol.

 

Ffioedd Seremoniau

Mwy o wybodaeth

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i ateb i'ch cwestiwn ar y tudalennau hyn, cysylltwch a ni drwy ffonio 01766 771000.