Crwner

Mae crwneriaid yn cofnodi ac yn ymchwilio i farwolaethau sydyn, annisgwyl a threisgar. Yr Uwch Grwner Ei Fawrhydi dros Ogledd Cymru (Gorllewin) ar gyfer Gwynedd a Môn yw Ms Kate Robertson LL.B (Anrh) sy'n gyfreithiwr.

Nid yw pob marwolaeth yn cael eu hadrodd i'r Crwner; ym mwyafrif yr achosion, gall Feddyg Teulu neu feddyg ysbyty roddi Tystysgrif Feddygol o achos y farwolaeth fel y gellir ei chofrestru gan y cofrestrydd.

 

Dylid adrodd am farwolaeth wrth y Crwner pan fydd meddyg yn gwybod neu ag achos rhesymol dros amau bod honno’n farwolaeth:

  • o ganlyniad i wenwyn, defnyddio cyffur rheoledig, cynnyrch meddyginiaethol, neu gemegyn gwenwynig;

  • a ddigwyddodd o ganlyniad i drawma, trais neu anaf corfforol, p'un ai a achoswyd yn fwriadol ai peidio;

  • sy’n gysylltiedig ag unrhyw driniaeth neu weithdrefn feddygol neu debyg ei natur;

  • a ddigwyddodd o ganlyniad i hunan-niwed, (gan gynnwys methiant gan y sawl a fu farw i gadw ei fywyd ei hun) boed yn fwriadol neu fel arall;

  • a ddigwyddodd o ganlyniad i anaf neu glefyd a gafwyd yn ystod, neu y gellir ei briodoli i, gyrfa waith y sawl a fu farw;

  • a ddigwyddodd o ganlyniad i ddamwain, gwenwyn, neu afiechyd hysbysadwy;

  • a ddigwyddodd o ganlyniad i esgeulustod neu fethiant o ran gofal gan berson arall;

  • a oedd fel arall yn annaturiol.

Dylai'r Crwner hefyd gael gwybod os:

  • digwyddodd y farwolaeth yn y ddalfa neu fel arall yng ngharchar y wladwriaeth - o ba bynnag achos;

  • na fu ymarferydd meddygol i weld yr ymadawedig ar unrhyw adeg yn y 14 diwrnod cyn y farwolaeth a bod dim ymarferydd meddygol ar gael o fewn cyfnod rhesymol i baratoi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth;

  • na ŵyr neb pwy yw’r ymadawedig;

  • nad yw’n hysbys beth oedd achos y farwolaeth.

Pan fydd marwolaeth wedi ei hadrodd i’r Crwner bydd yn rhaid i’r cofrestrydd aros i’r Crwner orffen ei ymholiadau cyn y gellir cofrestru’r farwolaeth. Gall yr ymholiadau hyn gymryd amser, felly cymeradwyir cysylltu â swyddfa’r Crwner cyn gwneud unrhyw drefniadau ar gyfer angladd.

Bydd y crwner yn ceisio sefydlu achos meddygol y farwolaeth. Os bydd amheuaeth ynglŷn â’r achos yn dilyn post mortem, fe gynhelir cwest. Os bydd yr archwiliad yn dangos bod y farwolaeth yn un naturiol, mae’n bosib na fydd angen cwest ac fe wnaiff y crwner anfon ffurflen at y cofrestrydd marwolaethau fel y gall perthnasau gofrestru’r farwolaeth a fel y gall y cofrestrydd roi tystysgrif claddedigaeth.

 

Cwestau

Cynhelir cwest i gofnodi:

  • Pwy oedd yr ymadawedig

  • Pryd, ble a sut y digwyddodd achos meddygol y farwolaeth

Pan ddeuir i gasgliad, bydd y Crwner yn cofnodi’r manylion sydd eu hangen er mwyn cofrestru’r farwolaeth.

Nid yw cwest yn penderfynu ynglŷn ag atebolrwydd sifil neu atebolrwydd troseddol ar ran rhywun a enwir.


Cwestau ar y gweill

 

Cwest Ysgrifenedig - wythnos yn dechrau 16/05/2025:-

Christopher James Whitlow – 47 oed, marw Ysbyty Prifysgol Frenhinol Stoke ar 23/01/2025

 

19-21/05/2025 – Siambr Dafydd Orwig, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH:-

Cwest Llawn:

09:30 – Etta Lili Stockwell-Parry – 4 diwrnod oed, marw Ysbyty Arrowe Park ar 07/07/2023

 

19/05/2025 - Siambr Dafydd Orwig, Stryd Y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH:-

Cwest Llawn:

13:00 - William Morris Jones – 92 oed, marw Criccieth ar 29/12/2024

 

20/05/2025 – Siambr Dafydd Orwig Chamber, Stryd Y Jêl, Caernarfon LL55 1SH:-

Agoriad ffurfiol - 13:00

Mair Eluned Jones – 94 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 12/5/2025

 

Cwest Ysgrifenedig - wythnos yn dechrau 20/5/25:-

Gwilym David Owen – 90 oed, marw Ysbyty Gwynedd ar 12/1/2025

 

Cwest Ysgrifenedig - wythnos yn dechrau 21/5/25:-

Dewi Wynn Williams – 74 oed, marw Ysbyty Gwynedd, ar 12/4/2025

 

 

Cofrestru Marwolaethau

Os penderfyna’r Crwner bod angen cynnal cwest, ni chaiff y farwolaeth ei chofrestru nes bod y cwest wedi ei gwblhau, fodd bynnag rhoddir Tystysgrif Marwolaeth Dros Dro gan y Crwner hyd nes y gellir cofrestru’n llawn.

Wedi’r cwest, bydd y Crwner yn cofrestru'r farwolaeth gyda chofrestrydd yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth. Dyma lle mae swyddfeydd cofrestru Gogledd Cymru (Gorllewin):


Swyddfa'r Crwner

Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Crwner yn defnyddio'r manylion isod:

Cyfeiriad: Swyddfa Crwner Ei Mawrhydi, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH

E-bost: crwner@gwynedd.llyw.cymru  

Rhif ffôn: 01286 672 804