"Compact" (Cytundeb Partneriaeth) Cyngor Gwynedd a'r 3ydd Sector

Beth yw’r Compact?

Mae’r “Compact” yn gytundeb cydweithio rhwng Cyngor Gwynedd a’r Trydydd Sector (sef elusennau, mudiadau cymunedol, a grwpiau gwirfoddol). Ei nod yw cryfhau’r berthynas rhwng y Cyngor a’r sector, gan sicrhau bod cydweithio, cyfathrebu ac ymddiriedaeth yn sail i’r ffordd rydym yn gweithio gyda’n gilydd er budd pobl Gwynedd.

Darllen y Compact

 

Pam rydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn?

Rydym am sicrhau bod y “Compact” yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau gwirioneddol y rhai sy’n gweithio yn y trydydd sector a’r gymuned. Drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, gallwch helpu i sicrhau bod y cytundeb yn:

  • Ymarferol ac ystyrlon
  • Yn cefnogi cydweithio teg ac agored
  • Yn cynnig manteision go iawn i gymunedau lleol

Bydd eich ymatebion yn cael eu defnyddio i lywio’r fersiwn derfynol o’r Compact, a fydd yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor a’r Trydydd Sector. 

 

Rhoi eich barn

Cwblhau'r arolwg ar-lein 

Dyddiad cau: 28/11/2025

I gael copi papur drwy'r post neu gopi mewn fformat arall cysylltwch â ni:

  • trydyddsectorgwynedd@gwynedd.llyw.cymru
  • 01286 679029 

 

Datganiad Preifatrwydd

Byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth a gyflwynir i bwrpas dadansoddi’r holiadur yn unig. Byddwn yn rhannu atebion yr holiadur gyda Mantell Gwynedd at bwrpas eu dadansoddi a bydd unrhyw adborth yn mynd at ddibenion adolygu y cytundeb yn unig. Bydd unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw am 12 mis ar ôl dyddiad cau'r holiadur.

 

Diolch yn fawr am eich cyfraniad.