Arolwg Heneiddio'n dda yng Ngwynedd

Mae Cyngor Gwynedd eisiau clywed am brofiadau, barn a dyheadau pobl y sir am lle a sut mae’n nhw eisiau byw wrth iddynt heneiddio.

Mae’r Cyngor yn cynllunio ar gyfer anghenion llety i bobl hŷn yn y tymor hir, ac i’r pwrpas hwn yn awyddus i gael gwybod pa fath o gartrefi mae pobl leol yn byw ynddynt ar hyn o bryd a pha fath o gartrefi yr hoffent fyw ynddynt wrth iddynt heneiddio. Mae’r Cyngor hefyd eisiau gwybod pa gefnogaeth, gwasanaethau ac adnoddau mae pobl ei angen er mwyn byw yn gyfforddus i’r dyfodol.

Mae demograffi Gwynedd – fel siroedd gwledig eraill – yn newid, gyda cyfran uwch o bobl dros 55 oed. Yn ogystal, diolch i welliannau meddygol a newidiadau cymdeithasol eraill, mae pobl yn gyffredinol yn byw i fod yn hŷn.

O’r herwydd, mae’n rhaid i awdurdodau fel Cyngor Gwynedd addasu er mwyn cwrdd ag anghenion y boblogaeth. Mae hyn yn cynnwys sicrhau darpariaeth ddigonol o lety addas, er enghraifft tai gofal ychwanegol, tai gwarchod ac eiddo wedi ei addasu.

 

Rhoi eich barn

Mae cyfle i chi gymryd rhan yn y gwaith ymchwil, drwy lenwi holiadur syml isod:

Arolwg ar-lein: Heneiddio’n dda yng Ngwynedd

Mae copïau papur o'r arolwg ar gael yn y dair Siop Gwynedd ac ym mhob llyfrgell yn y sir. 

Neu, i ofyn am gopi papur o'r arolwg drwy'r post, cysylltwch â:

Dyddiad cau yr arolwg: 7 Rhagfyr 2025