Cynllunio mwynau a gwastraff

Mae Cyngor Gwynedd yn aelod o Wasanaeth Cynllunio Mwynau a Gwastraff Gogledd Cymru.

Mae’r Gwasanaeth yma yn darparu arbenigedd cynllunio yn bennaf ar faterion mwynau a gwastraff i Awdurdodau Cynllunio Lleol ar draws gogledd Cymru.

Yma yng Ngwynedd, mae’r tîm yn gyfrifol am:

  • cynnig cyngor ar faterion cynllunio mwynau a gwastraff, e.e. gweithgareddau chwarelu, datblygiadau rheoli gwastraff fel cyfleusterau ailgylchu, compostio ac ati
  • ymdrin â cheisiadau cynllunio ar gyfer gweithgareddau cloddio ac ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff. Mwy o wybodaeth: Gwneud cais cynllunio
  • monitro safleoedd i sicrhau cydymffurfiaeth gydag amodau
  • ymchwilio i gwynion lle honnir bod rheolau cynllunio yn cael eu torri. Mwy o fanylion: Cwynion: torri rheolau cynllunio
  • rhoi mewnbwn i’r Cynllun Datblygu Lleol ar faterion polisi cynllunio mwynau a gwastraff
  • rhoi mewnbwn i faterion cynllunio mwynau a gwastraff rhanbarthol a chenedlaethol

Am ragor o wybodaeth am y drefn gynllunio yng Ngwynedd, ewch i: Cynllunio


Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth neu gyngor cysylltwch â ni:

  • Ar-lein: Ymholiad cyffredinol am gynllunio

    (Y tro cyntaf y byddwch yn cysylltu â ni ar-lein bydd angen i chi greu cyfrif)
    Bydd eich cyfrif yn eich galluogi i anfon ymholiad i ni, cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'ch ymholiad a'n galluogi ni i anfon ymateb i chi.

  • Ffôn: 01766 771000 

Neu gellir cysylltu â’r Gwasanaeth Cynllunio Mwynau a Gwastraff Gogledd Cymru yn uniongyrchol wrth e-bostio: