Dyddiad cau: 22 Mai, 2026.
Grant ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol Gwynedd ydi’r Gronfa Cefnogi Cymunedau. Y nod yw cefnogi cynlluniau a fydd yn gwella ansawdd bywyd trigolion, grwpiau a chymunedau’r sir.
Y bwriad yw galluogi’r trydydd sector i chwarae rôl gyflawn yng nghymunedau Gwynedd drwy adlewyrchu un neu ragor o’r amcanion canlynol:
- Annog cymunedau i gymryd rôl fwy rhagweithiol yn eu hardaloedd
- Adnabod ac ymateb i anghenion cymdeithasol. ieithyddol a diwylliannol y gymuned
- Hybu buddsoddiad a datblygiad yr economi leol
- Gwella lleoliadau sy’n bwysig i gymunedau
- Cynyddu cyfleoedd gwaith, datblygiad sgiliau ymhlith unigolion o fewn cymunedau a hybu cyfle cyfartal i bawb
- Cefnogi gwirfoddolwyr a hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli
- Annog gwarchod a chyfoethogi'r amgylchedd.
Mae’r Gronfa’n cynnig grantiau sy’n adlewyrchu amcanion a thargedau Cynllun y Cyngor a chynlluniau adfywio lleol Ardal Ni
Gwybodaeth am y gronfa
Gwneud cais
Canllawiau Caffael
| Cyfanswm yn cynnwys TAW (£) | Dull Caffael |
| Hyd at £10,000 | Dylid cael o leiaf un dyfynbris ysgrifenedig gan y cyflenwr sy'n cynnwys manylion y gwasanaeth, y cyflenwad neu'r gwaith i'w ddarparu, ynghyd â'r pris a'r telerau talu. |
| £10,000 - £100,000 | Dylid cael o leiaf tri dyfynbris cystadleuol ysgrifenedig, ynghyd ag esboniad o'r rhesymau dros ddewis y contractwr llwyddiannus. |
| Dros £100,000 | Dylid hysbysebu'n agored fel rhan o broses dendro ffurfiol, a dylid paratoi adroddiad cynhwysfawr sy'n nodi'r sail dros unrhyw benderfyniadau i ddyfarnu contractau ffurfiol. |
Cysylltu â ni
- CistGwynedd@gwynedd.llyw.cymru
- 01286 679870