Ardal Ni: Cynlluniau Adfywio Lleol
Bwriad Fframwaith Adfywio Gwynedd yw sicrhau bod camau rhagweithiol yn eu lle er mwyn sicrhau cydweithio i wella ardaloedd yn economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol ac yn ddiwylliannol.
Ein gweledigaeth yw datblygu a chefnogi cymunedau cynaliadwy sy’n iach, llewyrchus ac egniol gyda’r hyder i fentro, a gyda’r awydd a’r gallu i gyfrannu eu hatebion eu hunain i anghenion lleol ac i fanteisio ar gyfleoedd newydd.
Yn rhan o’r Fframwaith mae’r sir wedi ei rhannu yn 13 Ardal Adfywio Lleol a chynllun gweithredu wedi ei greu ar gyfer pob un o’r ardaloedd.
Bydd y cynlluniau yn ddogfennau byw a fydd yn cael ei diweddaru'n flynyddol yn dilyn sgyrsiau parhaus gyda rhanddeiliaid yn y cymunedau lleol.
Mae’r cynlluniau gweithredu yn adnabod prosiectau sy’n ymateb i flaenoriaethau lleol.
Cynlluniau gweithredu
Mae Ardal Y Bala a Phenllyn wedi ei leoli yn rhan dwyreiniol y Sir, gyda tref Y Bala yn ganolog i’r ardal. Mae’r ardal yn cynnwys cymunedau tref Y Bala, Llandderfel, Llanuwchllyn, Llangywer a Llanycil.
Y prif flaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod yn y Cynllun Gweithredu ydi:
- Cynlluniau i sicrhau tai sy'n addas i anghenion bobl leol
- Cynlluniau i gynnal a datblygu llwybrau cyhoeddus a llwybrau beicio a datblygu llecynnau gwyrdd
- Datblygu cynlluniau i gwrdd ag anghenion pobl ifanc yr ardal.
- Cynlluniau i gefnogi busnesau a mentrau lleol a hyrwyddo cynnyrch lleol fyddai hefyd yn denu mwy o fusnesau fydd yn creu swyddi gwerth uchel i’r ardal.
- Cynlluniau i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus lleol sy’n hygyrch, integredig ac addas i anghenion lleol.
- Ardal yn fwy gwyrdd - ynni adnewyddol, lleihau’r defnydd o blastig, pwyntiau gwefru ceir, cynlluniau plannu coed ac ati.
- Cynllun Twristiaeth Gynaliadwy effeithiol i gael gwell rheolaeth ar dwristiaeth a gwneud y mwyaf o’r potensial economaidd i bobl leol
- Cynlluniau a chefnogaeth i weithgareddau sy’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’r diwylliant ac sy’n cefnogi dysgwyr yr iaith
- Cynlluniau i warchod y diwydiant amaeth yn yr ardal.
- Uwchraddio Is-adeiledd band eang
- Cynlluniau i gryfhau’r ddarpariaeth gofal i bobl hyn a phobl fregus.
Mae mwy o wybodaeth am y prosiectau sy'n cefnogi'r blaenoriaethau hyn i'w gweld yn y Cynllun Gweithredu llawn isod:
Cynllun Gweithredu Ardal Y Bala a Phenllyn
Mae ardal hanesyddol Bro Ardudwy wedi ei leoli ar arfordir Meirionnydd sydd yn cysylltu Bae Tremadog gyda mynyddoedd Rhinogydd Eryri ac yn cynnwys trefi Harlech i’r gogledd ac Abermaw i’r de. Mae’r ardal yn cynnwys cymunedau Abermaw, Dyffryn Ardudwy, Harlech, Llanbedr, Llanfair, Talsarnau a Talybont.
Y prif flaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod yn y Cynllun Gweithredu ydi:
- Cynlluniau i gefnogi busnesau a mentrau lleol a hyrwyddo cynnyrch lleol byddai hefyd yn denu mwy o fusnesau fydd yn creu swyddi gwerth uchel i'r ardal
- Cynlluniau i sicrhau tai sy'n addas i anghenion bobl leol
- Cynlluniau i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus
- Cynlluniau i ddatblygu safle Maes Awyr Llanbedr
- Cyflwyno deddfwriaeth i reoli'r maes tai haf ac ail gartrefi yn effeithiol
- Cynlluniau i ddatrys problemau parcio a thraffig
- Ardal yn fwy gwyrdd - ynni adnewyddol, lleihau'r defnydd o blastig, pwyntiau gwefru ceir, cynlluniau plannu coed ac ati
- Uwchraddio adeiladaeth band eang
- Cynlluniau i wella llwybrau beicio a cherdded yr ardal
- Gwelliannau i harbwr Abermaw
- Cynlluniau i wella cyfleusterau ac adnoddau cymunedol lleol er mwyn dod a phobl at ei gilydd
- Cynlluniau i ddatblygu gwell darpariaeth chwaraeon yn yr ardal a chymorth i ganolfannau hamdden cymunedol
- Cynlluniau a chefnogaeth i weithgareddau sy'n hyrwyddo'r iaith Gymraeg a'r diwylliant ac sy'n cefnogi dysgwyr yr iaith
- Cynlluniau i ddatblygu sgiliau a hyder ymysg aelodau cynghorau cymuned, grwpiau a mentrau cymdeithasol a hybu gwell cydweithio.
Mae mwy o wybodaeth am y prosiectau sy'n cefnogi'r blaenoriaethau hyn i'w gweld yn y Cynllun Gweithredu llawn isod:
Cynllun Gweithredu Ardal Bro Ardudwy
Mae Ardal Dolgellau wedi ei leoli yn Ne Eryri a thref Dolgellau yn ganolog i’r ardal. Mae’r ardal ar gyfer y cynllun hwn yn cynnwys cymunedau Llanelltyd, Ganllwyd, Mawddwy, Brithdir, Llanfachreth, Rhydymain, Dolgellau, Arthog a Chorris.
Y prif flaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod yn y Cynllun Gweithredu ydi:
- Cynlluniau i gryfhau’r adnoddau iechyd a gofal yn lleol
- Cynlluniau i sicrhau tai sy'n addas i anghenion bobl leol
- Cynlluniau i sicrhau gwaith a swyddi gwerth uchel
- Cynlluniau i gefnogi busnesau lleol i sefydlu a ffynnu
- Ardal yn fwy gwyrdd - ynni adnewyddol, lleihau’r defnydd o blastig, pwyntiau gwefru ceir, cynlluniau plannu coed ac ati
- Cynlluniau i barchu a mwynhau amgylchedd yr ardal
- Uwchraddio is-adeiladaeth band eang
- Cynlluniau i ddatblygu'r sector fwyd yn lleol
- Cynlluniau i wneud gwell defnydd o adeiladau cyhoeddus a Swyddfeydd Penarlâg yn Nolgellau
- Cynlluniau i daclo tlodi
Mae mwy o wybodaeth am y prosiectau sy'n cefnogi'r blaenoriaethau hyn i'w gweld yn y Cynllun Gweithredu llawn isod:
Cynllun Gweithredu Ardal Dolgellau
Mae Ardal Bangor wedi ei leoli ar lannau’r Fenai gyda dinas Bangor yn ganolog i’r ardal. Mae ardal y cynllun hwn yn cynnwys Cyngor Dinas Bangor, a Chynghorau Cymuned Glasinfryn, Pentir a’r Felinheli.
Y prif flaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod yn y Cynllun Gweithredu ydi:
- Cynlluniau i ddatblygu ac adfywio’r Stryd Fawr
- Datblygu cynlluniau i gwrdd ag anghenion pobl ifanc yr ardal
- Ardal yn fwy gwyrdd -ynni adnewyddol, lleihau’r defnydd o blastig, pwyntiau gwefru ceir, cynlluniau plannu coed ac ati
- Cynlluniau i gadw cymunedau’r ardal yn lan a thaclus
- Cynlluniau i daclo agweddau negyddol a magu balchder yn y ddinas a’r ardal gyfagos
- Cynlluniau i gynnal a datblygu llwybrau
- Rhoi mwy o sylw i'r ardaloedd tu hwnt i ganol dinas Bangor
- Cynlluniau i drefnu a hyrwyddo mwy o ddigwyddiadau fel ffeiriau yn lleol
Mae mwy o wybodaeth am y prosiectau sy'n cefnogi'r blaenoriaethau hyn i'w gweld yn y Cynllun Gweithredu llawn isod:
Cynllun Gweithredu Ardal Bangor
Mae ardal Caernarfon wedi ei leoli rhwng glannau’r Fenai a mynyddoedd Eryri. Mae tref hanesyddol Caernarfon yn ganolbwynt i’r ardal sydd hefyd yn cynnwys cymuned Y Bontnewydd.
Y prif flaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod yn y Cynllun Gweithredu ydi:
- Cynlluniau i wella edrychiad yr ardal - tacluso, mwy o finiau, blodau gwyllt ac ati
- Cynlluniau i greu gwaith a swyddi gwerth uchel yn yr ardal
- Cynlluniau i gefnogi busnesau a mentrau lleol i sefydlu ac i ffynnu
- Cynlluniau i sicrhau tai sy'n addas i anghenion bobl leol yr ardal
- Mae angen darparu rhagor o gyfleusterau ar gyfer pobl ifanc yr ardal a’u hannog i gymryd rhan fwy gweithredol yn y gymuned
- Cynlluniau i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Ardal yn fwy gwyrdd - ynni adnewyddol, lleihau’r defnydd o blastig, pwyntiau gwefru ceir, cynlluniau plannu coed ac ati
- Cynllun Twristiaeth Gynaliadwy effeithiol i gael gwell rheolaeth ar dwristiaeth a gwneud y mwyaf o'r potensial economaidd i bobl leol
- Cynlluniau i gynnal a datblygu llwybrau cyhoeddus, llwybrau beicio a cherdded yr ardal
- Cynlluniau i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus lleol sy’n hygyrch, integredig ac addas i anghenion yr ardal
- Mae angen gwell darpariaeth o fewn y maes iechyd a llesiant yn yr ardal yn ogystal a datblygiad hwb cymunedol i gyfeirio unigolion at wasanaethau addas
Mae mwy o wybodaeth am y prosiectau sy'n cefnogi'r blaenoriaethau hyn i'w gweld yn y Cynllun Gweithredu llawn isod:
Cynllun Gweithredu Ardal Caernarfon
Mae Ardal Pen Llŷn wedi ei leoli yn rhan Gorllewinol y Sir, nodweddion arfordirol a gwledig Pen Llŷn yn ganolog iddo. Mae’r Ardal yn cynnwys cymunedau Nefyn, Llanengan, Botwnnog, Aberdaron, Llanbedrog a Thudweiliog.
Y prif flaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod yn y Cynllun Gweithredu ydi:
- Cynlluniau i sicrhau tai sy'n addas i anghenion bobl leol
- Cynlluniau i gefnogi busnesau a mentrau lleol a hyrwyddo cynnyrch lleol byddai hefyd yn denu mwy o fusnesau fydd yn creu swyddi gwerth uchel i'r ardal
- Cynlluniau i sicrhau gwaith a swyddi gwerth uchel
- Cyflwyno deddfwriaeth i reoli’r maes tai haf ac ail gartrefi yn effeithiol
- Ardal yn fwy gwyrdd - ynni adnewyddol, lleihau’r defnydd o blastig, pwyntiau gwefru ceir, cynlluniau plannu coed ac ati
- Cynlluniau i gryfhau’r adnoddau iechyd a gofal yn lleol
- Adolygu Polisïau Cynllunio
- Cynlluniau i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy’n hygyrch, integredig ac addas i anghenion lleol yr ardal
- Cynllun Twristiaeth Gynaliadwy effeithiol i gael gwell rheolaeth ar dwristiaeth a gwneud y mwyaf o'r potensial economaidd i bobl leol
- Mwy o gynlluniau ar gyfer darparu gweithgareddau a chefnogaeth i bobl ifanc
- Cynlluniau i daclo tlodi
- Uwchraddio adeiladaeth band eang
- Cynlluniau i gynnal a chryfhau'r Gymraeg
Mae mwy o wybodaeth am y prosiectau sy'n cefnogi'r blaenoriaethau hyn i'w gweld yn y Cynllun Gweithredu llawn isod:
Cynllun Gweithredu Ardal Pen Llŷn
Mae Ardal Pwllheli wedi ei leoli yn rhan gorllewinol o’r Sir, gyda thref arfordirol Pwllheli yn ganolfan bwysig i’r ardal. Mae’r ardal yn cynnwys cymunedau Pwllheli, Buan, Pistyll, Llannor, Llanystumdwy a Llanaelhaearn.
Y prif flaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod yn y Cynllun Gweithredu ydi:
- Cynlluniau i sicrhau tai sy'n addas i anghenion bobl leol eu prynu a’u rhentu
- Cynlluniau i ddod ag adeiladau gwag yn ôl i fewn i ddefnydd
- Cynlluniau i gefnogi busnesau lleol sefydlu a ffynnu ac i greu gwaith a swyddi gwerth uchel yn lleol
- Deddfwriaeth er mwyn cael gwell reolaeth ar dai haf ac ail gartrefi
- Datblygiad gwesty (cwmni cenedlaethol) ym Mhwllheli
- Ardal yn fwy gwyrdd - ynni adnewyddol, lleihau’r defnydd o blastig, pwyntiau gwefru ceir, cynlluniau plannu coed ac ati
- Cynlluniau i gryfhau’r adnoddau iechyd a gofal yn lleol
- Cynlluniau i gynnal a datblygu llwybrau cerdded a llwybrau beicio’r ardal
- Cynllun Twristiaeth Gynaliadwy effeithiol i gael gwell rheolaeth ar dwristiaeth a gwneud y mwyaf o'r potensial economaidd i bobl leol
- Presenoldeb mwy amlwg gan yr heddlu yn yr ardal
- Cynlluniau i gadw cymunedau'r ardal yn lan a thaclus
Mae mwy o wybodaeth am y prosiectau sy'n cefnogi'r blaenoriaethau hyn i'w gweld yn y Cynllun Gweithredu llawn isod:
Cynllun Gweithredu Ardal Pwllheli
Mae Ardal Dyffryn Ogwen wedi ei lleoli yn rhan ogleddol o’r Sir, ac yn cysylltu arfordir Glannau’r Fenai gyda mynyddoedd Eryri. Mae’n ardal hanesyddol oedd hefyd yn ganolog i dwf diwydiant llechi sydd wedi dylanwadu’n fawr ar ddatblygiad yr ardal, gyda thref Bethesda yn ganolbwynt i’r fro. Mae’r ardal hefyd yn cynnwys cymunedau Bethesda, Llanllechid, Llandygai ac Abergwyngregyn.
Y prif flaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod yn y Cynllun Gweithredu ydi:
- Cynlluniau i ddarparu mwy o gyfleusterau ar gyfer pobl ifanc
- Cynlluniau i ddatrys problemau cyflwr ffyrdd, traffig a pharcio ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr
- Ardal yn fwy gwyrdd - ynni adnewyddol, lleihau’r defnydd o blastig, pwyntiau gwefru ceir, cynlluniau plannu coed ac ati
- Gwella darpariaeth o siopau ac unedau manwerthu yn lleol
- Cynlluniau i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus lleol sy’n hygyrch, integredig ac addas i anghenion yr ardal
- Cynlluniau i ddatrys problemau cyffuriau yr ardal
- Datblygu twristiaeth gynaliadwy yn lleol er mwyn cael y budd gorau i gymunedau e.e., manteisio ar Safle Treftadaeth y Byd
- Cynlluniau i wella cyfleusterau ac adnoddau cymunedol lleol er mwyn dod a phobl at ei gilydd
- Hybu gwell cyd-weithio rhwng grwpiau, mentrau cymdeithasol, cynghorau cymuned a Chyngor Gwynedd i ddatrys problemau lleol
- Mwy o bwysau ar sylwadau lleol i geisiadau cynllunio
Mae mwy o wybodaeth am y prosiectau sy'n cefnogi'r blaenoriaethau hyn i'w gweld yn y Cynllun Gweithredu llawn isod:
Cynllun Gweithredu Ardal Dyffryn Ogwen
Mae Ardal Bro Peris wedi ei leoli wrth galon Eryri gyda’r Wyddfa yn ganolbwynt. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys ardaloedd Waunfawr, Caeathro, Llanrug, Cwm-Y-Glo, Llanddeiniolen, Llanberis, Nant Peris, a Betws Garmon.
Y prif flaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod yn y Cynllun Gweithredu ydi:
- Cynlluniau i sicrhau tai sy'n addas i anghenion bobl leol
- Cyflwyno deddfwriaeth i reoli’r maes tai haf ac ail gartrefi yn effeithiol
- Cynlluniau i wella rheolaeth parcio ar gyfer ymwelwyr a phobl leol
- Cynlluniau i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus lleol sy’n hygyrch, integredig ac addas i anghenion yr ardal
- Ardal yn fwy gwyrdd - ynni adnewyddol, lleihau’r defnydd o blastig, pwyntiau gwefru ceir, cynlluniau plannu coed, ac ati.
- Cynlluniau i gynnal a datblygu llwybrau cyhoeddus a llwybrau beicio
- Cynlluniau i wella edrychiad yr ardal – strydoedd glan, mwy o finiau, blodau stryd ac ati
- Cynlluniau i gefnogi busnesau i sefydlu a ffynnu yn lleol ac i greu gwaith a swyddi gwerth uchel
- Cynllun Twristiaeth Gynaliadwy
- Cynlluniau i ddarparu rhagor o gyfleusterau ar gyfer pobl ifanc a hŷn
- Cynlluniau a chefnogaeth i weithgareddau sy’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’r diwylliant ac sy’n cefnogi dysgwyr yr iaith
Mae mwy o wybodaeth am y prosiectau sy'n cefnogi'r blaenoriaethau hyn i'w gweld yn y Cynllun Gweithredu llawn isod:
Cynllun Gweithredu Lleol Bro Peris
Mae lleoliad Bro Ffestiniog yn ganolog i’r Sir ac i fynyddoedd Eryri. Mae’n ardal hanesyddol oedd hefyd yn allweddol i dwf y diwydiant llechi sydd wedi dylanwadu’n fawr ar ddatblygiad yr ardal, gyda thref Blaenau Ffestiniog yn y canol. Mae’r ardal hefyd yn cynnwys cymunedau Ffestiniog, Trawsfynydd a Maentwrog.
Y prif flaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod yn y Cynllun Gweithredu ydi:
- Cynlluniau i sicrhau gwaith a swyddi gwerth uchel
- Cynlluniau i gefnogi busnesau a mentrau lleol a chynlluniau i drawsnewid delwedd y Stryd Fawr
- Cynlluniau i sicrhau tai sy'n addas i anghenion bobl leol
- Cynlluniau i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy’n hygyrch, integredig ac addas i anghenion lleol yr ardal
- Cynlluniau i daclo tlodi
- Ardal yn fwy gwyrdd - ynni adnewyddol, lleihau’r defnydd o blastig, pwyntiau gwefru ceir, cynlluniau plannu coed ac ati
- Mwy o gynlluniau ar gyfer darparu gweithgareddau a chefnogaeth i bobl ifanc
- Cynllun Twristiaeth Gynaliadwy effeithiol i gael gwell rheolaeth ar dwristiaeth a gwneud y mwyaf o'r potensial economaidd i bobl leol
- Cynlluniau i gryfhau’r adnoddau iechyd, gofal a llesiant yn lleol
- Cynlluniau i ddatblygu’r Ganolfan y dref
- Cynlluniau a chefnogaeth i weithgareddau sy’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’r diwylliant ac sy’n cefnogi dysgwyr yr iaith
Mae mwy o wybodaeth am y prosiectau sy'n cefnogi'r blaenoriaethau hyn i'w gweld yn y Cynllun Gweithredu llawn isod:
Cynllun Gweithredu Ardal Bro Ffestiniog
Mae ardal hanesyddol Bro Lleu Nantlle wedi ei leoli yn rhan Gogledd-Orllewinol y Sir ac yn cynnwys ardal ddaearyddol Dyffryn Nantlle. Mae’r ardal yn cynnwys tref Penygroes a chymunedau Llanllyfni, Llandwrog, Llanwnda a Chlynnog.
Y prif flaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod yn y Cynllun Gweithredu ydi:
- Cynlluniau i gryfhau adnoddau iechyd, gofal a llesiant yr ardal
- Cynlluniau i sicrhau tai addas a fforddiadwy i bobl leol eu prynu neu eu rhentu
- Cynlluniau i sicrhau gwaith a swyddi gwerth uchel yn lleol
- Mwy o gyfleusterau ar gyfer pobl ifanc yr ardal a chynlluniau i'w hannog i gymryd rhan gweithredol yn y gymuned drwy ymuno â phwyllgorau lleol ac ati
- Cynlluniau i daclo tlodi
- Ardal fwy gwyrdd – gwelliannau amgylcheddol, plannu coed, ynni adnewyddadwy, ardal di-blastig, pwyntiau gwefru a chynllun i sicrhau bod yr ardal yn barod i ymdopi â newid hinsawdd
- Deddfwriaeth a chynlluniau i gael gwell reolaeth ar dai haf ac ail gartrefi
- Cynlluniau i ddatblygu trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch, integredig ac addas i anghenion lleol
- Mwy o gefnogaeth i fusnesau ffynnu’n lleol
- Uwchraddio is-adeiladaeth band eang
- Cynlluniau a chefnogaeth i weithgareddau sy’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’r diwylliant ac sy’n cefnogi dysgwyr yr iaith
- Cynllun Twristiaeth Gynaliadwy effeithiol i gael gwell rheolaeth ar dwristiaeth a gwneud y mwyaf o'r potensial economaidd i bobl leol
Mae mwy o wybodaeth am y prosiectau sy'n cefnogi'r blaenoriaethau hyn i'w gweld yn y Cynllun Gweithredu llawn isod:
Cynllun Gweithredu Ardal Bro Lleu Nantlle
Mae Tywyn & Bro Dysynni wedi ei leoli yn rhan deheuol o Wynedd, sydd yn ymgorffori dyffryn hanesyddol Dysynni ac ardaloedd arfordirol cyfagos yn cynnwys tref Tywyn. Mae‘r ardal yn cynnwys cymunedau Tywyn, Aberdyfi, Bryncrug, Corris, Llangelynnin, Llanegryn, Llanfihangel y Pennant a Pennal.
Y prif flaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod yn y Cynllun Gweithredu ydi:
- Cynlluniau i gryfhau’r adnoddau iechyd a gofal yn lleol
- Cynlluniau i ddatrys mater Gwesty’r Corbett yn Nhywyn
- Cynlluniau i sicrhau tai sy'n addas i anghenion bobl leol
- Mae angen Canolfan Ailgylchu yn Nhywyn
- Cynlluniau i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy’n hygyrch, integredig ac addas i anghenion lleol yr ardal
- Cynlluniau i gefnogi busnesau a mentrau lleol a hyrwyddo cynnyrch lleol byddai hefyd yn denu mwy o fusnesau fydd yn creu swyddi gwerth uchel i'r ardal
- Cynlluniau ar gyfer darparu gweithgareddau cymunedol a chefnogi pobl ifanc
- Cynlluniau i sicrhau gwaith a swyddi gwerth uchel
- Cyflwyno deddfwriaeth i reoli’r maes tai haf ac ail gartrefi yn effeithiol
- Ardal yn fwy gwyrdd - ynni adnewyddol, lleihau’r defnydd o blastig, pwyntiau gwefru ceir, cynlluniau plannu coed ac ati
- Cynlluniau i gryfhau’r darpariaeth gofal i bobl hyn a phobl fregus
Mae mwy o wybodaeth am y prosiectau sy'n cefnogi'r blaenoriaethau hyn i'w gweld yn y Cynllun Gweithredu llawn isod:
Cynllun Gweithredu Tywyn a Bro Dysynni
Mae Ardal Porthmadog a Penrhyndeudraeth yn ymestyn o arfordir Bae Tremadog at fynyddoedd Eryri. Mae’r Ardal yn cynnwys cymunedau Porthmadog, Beddgelert, Cricieth, Dolbenmaen, Llanfrothen a Penrhyndeudraeth.
Y prif flaenoriaethau sydd wedi eu hadnabod yn y Cynllun Gweithredu ydi:
- Cynlluniau i sicrhau tai sy'n addas i anghenion bobl leol
- Cynlluniau i greu gwaith a swyddi gwerth uchel ac i ddenu arian a buddsoddiad i’r ardal
- Cynlluniau i ddarparu rhagor o gyfleusterau a sgiliau i bobl ifanc
- Cynlluniau i ddatblygu adnoddau iechyd, llesiant a gofal yr ardal
- Ardal yn fwy gwyrdd - ynni adnewyddol, lleihau’r defnydd o blastig, pwyntiau gwefru ceir, cynlluniau plannu coed ac ati
- Cynlluniau i ddatblygu trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch, integredig ac addas i anghenion lleol
- Cynlluniau a chefnogaeth i weithgareddau sy’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’r diwylliant ac sy’n cefnogi dysgwyr yr iaith
- Cynlluniau i ymateb i'r ffaith fod poblogaeth yr ardal yn mynd yn hŷn
- Cynlluniau i daclo problemau traffig
Mae mwy o wybodaeth am y prosiectau sy'n cefnogi'r blaenoriaethau hyn i'w gweld yn y Cynllun Gweithredu llawn isod:
Cynllun Gweithredu Ardal Porthmadog a Phenrhyndeudraeth
Mae'r cynlluniau gweithredu yn seiliedig ar broses ymgysylltu a gafodd ei chynnal yn ôl yn 2022.
Gweld mwy o wybodaeth am y gwaith ymgysylltu 'Ardal Ni'