Telerau ac Amodau Cronfa Cefnogi Cymunedau

Mae'r telerau ac amodau yma ar gyfer Cronfa Cefnogi Cymunedau Cist Gwynedd

(a) Mae’r Grantî yn golygu’r sefydliad y mae’r swyddogion wedi gwneud cais am grant ar ei ran.

(b) Mae’r Cyngor yn golygu Cyngor Gwynedd o Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH.

(c) Mae’r grant yn golygu Cronfa Cefnogi Cymunedau.

(ch) Mae Cynnig o Grant yn golygu cynnig ysgrifenedig o grant ac ni fydd unrhyw fath arall o gadarnhad yn gyfwerth â chynnig dilys o gymorth grant.

(d) Mae'r Project yn golygu'r Project y cynigwyd grant ar ei gyfer.

(dd) Mae eiddo yn golygu unrhyw eiddo, rhyddfraint neu ar brydles y rhoddwyd y grant ei gyfer tuag at ei brynu neu at bwrpas gwneud gwaith atgyweirio, adnewyddu neu altro iddo trwy'r Cynnig o Grant.

(e) Mae offer yn golygu unrhyw offer sydd wedi'i brynu gan y grantî gyda chymorth y grant.

(a) Mae’r grantî yn rhoi sicrwydd i’r Cyngor fod yr holl wybodaeth a gyflwynwyd i’r Cyngor mewn perthynas â’r Project yn wir ac yn gywir ar y pryd, ac yn dal i fod felly, a bod unrhyw amcangyfrifon a rhagolygon wedi’u gwneud ar ôl gwneud ymchwil priodol a manwl a’u bod wedi’u seilio ar seiliau cadarn.

(b) Mae’r grantî yn rhoi sicrwydd i’r Cyngor ei fod wedi cael pob caniatâd cynllunio, cydsyniad a chymeradwyaeth angenrheidiol ar gyfer y gwaith.

Rhaid peidio â dechrau gwaith ar y project cyn i’r grantî  anfon cadarnhad o’r cynnig grant i’r Cyngor.

Rhaid cwblhau’r project o fewn yr amser a nodir yn y cynnig o grant. (Gall y Cyngor, yn llwyr yn ôl ei ddisgresiwn, ganiatáu rhagor o amser lle bo project wedi’i ddal yn ôl oherwydd amgylchiadau na ellid bod wedi’u rhagweld neu rai y tu hwnt i reolaeth yr Ymgeisydd).

Rhaid rhoi gwybod i Uned Adfywio, Cyngor Gwynedd am unrhyw newid o gwbl yn y project, ei gostau neu’i amcan-gostau a’r ffordd mae’n cael ei ariannu, a phetai’r project yn cael ei newid mewn rhyw ffordd a’r newid hwnnw heb ei gymeradwyo yn y lle cyntaf gan y Cyngor. Yna, ni fyddai rheidrwydd ar y Cyngor i dalu unrhyw arian i’r ymgeisydd mewn perthynas â’r project diwygiedig. 

Bydd gan Uned Adfywio, Cyngor Gwynedd neu unrhyw unigolyn/ion a enwebir ganddo yr hawl i archwilio’r eiddo ac unrhyw waith a wneir ar yr eiddo neu’r offer ar unrhyw adeg resymol tra bo’r amodau hyn mewn grym. Bydd raid i’r Grantî ofalu bod y Cyngor neu unrhyw unigolyn/ion a enwebir ganddo yn cael mynediad i’r Eiddo i’r perwyl hwn.

(a) Petai grant yn cael ei roi i hwyluso’r defnydd o unrhyw eiddo at ddiben penodol, yna byddai’n rhaid i’r Grantî ofalu bod yr Eiddo, am gyfnod o 5 mlynedd o’r dyddiad y telir y grant, yn cael ei ddefnyddio yn unig at y dibenion a nodir yn y cynnig.

(b) Rhaid cael cymeradwyaeth ysgrifenedig y Cyngor cyn defnyddio’r Eiddo at ddibenion gwahanol i’r hyn a gymeradwywyd ar gyfer cymorth grant. Gall methu â gwneud hyn olygu na fydd y Grant yn cael ei dalu neu y bydd rhan neu’r cyfan o’r grant yn cael ei gymryd yn ôl.

(c) Petai grant yn cael ei roi i hwyluso’r defnydd o unrhyw eiddo at ddiben penodol yna ni ellir defnyddio’r adeilad fel ernes am fenthyciad banc yn ystod cyfnod y grant. 

(a) Petai grant yn cael ei roi i hwyluso prynu neu ddefnyddio unrhyw offer yna byddai’n rhaid i’r Grantî ofalu bod yr Offer, am gyfnod o 5 mlynedd o’r dyddiad y telir y grant, yn cael ei ddefnyddio yn unig at y dibenion a nodir yn y cynnig.

(b) Rhaid cael cymeradwyaeth ysgrifenedig y Cyngor cyn defnyddio’r Offer at ddibenion gwahanol i’r hyn a gymeradwywyd ar gyfer cymorth grant. Gall methu â gwneud hyn olygu na fydd y Grant yn cael ei dalu neu y bydd rhan neu’r cyfan o’r grant yn cael ei gymryd yn ôl.

Bydd yn rhaid i’r Grantî ofalu bod yr eiddo neu’r offer yn cael ei gadw mewn cyflwr da a phriodol a’i fod yn gweithio.

Bydd yn rhaid i’r Grantî ofalu y cydymffurfir â’r holl ofynion statudol perthnasol a’r holl ofynion cyfreithiol eraill perthnasol (gan gynnwys heb gyfyngiad y gofynion cynllunio, rheoliadau adeiladu a than).

(a) Bydd swm y grant yn dibynnu ar faint yn union y mae’r Grantî yn ei dalu ac nid yn seiliedig ar amcangyfrifon fel y nodir yn y Cynnig o Grant.

(b) Ni fydd y grant yn fwy na’r swm a nodir yn y cynnig o grant oni bai fod hyn wedi’i gytuno’n ysgrifenedig gyda’r Cyngor ymlaen llaw.

(c) Os yw’r cyfrifon terfynol yn dangos, ym marn y Cyngor, fod gwir gostau’r Project yn llai na’r amcan-gostau a nodir yn y Cynnig o Grant, yna bydd swm y grant yn cael ei leihau yn unol â’r swm hwnnw fel y gwêl y Cyngor yn briodol yn llwyr yn ôl ei ddisgresiwn.

(a) Rhaid i’r Grantî, unwaith y bydd y gwaith wedi’i orffen neu unwaith y bydd rhan benodol o’r gwaith y cytunwyd arni wedi’i gorffen, gyflwyno cais ysgrifenedig am i’r grant gael ei dalu ynghyd ag anfonebau yn cynnwys manylion am bob gwariant a gafwyd mewn perthynas â’r gwaith ynghyd â thystiolaeth o’r taliadau hynny a rhifau cyfresol yr holl offer a brynwyd.

(b) Ni fydd rheidrwydd ar y Cyngor i dalu unrhyw arian i’r Grantî oni bai fod y project wedi’i gwblhau yn unol â’r telerau a’r amodau, a phetai unrhyw un o’r amodau uchod yn cael eu torri gallai’r Cyngor atal y cyfan neu ran o’r grant nes i’r tor-amod gael ei unioni.

(c) Gall y Cyngor neu unigolyn a enwebir gan y Cyngor i’r perwyl hwn archwilio’r eiddo i asesu a yw’r gwaith wedi’i gwblhau’n foddhaol. 

(ch) Gall y Cyngor wrthod talu’r Grant os nad ydyw, yn llwyr yn ôl ei ddisgresiwn, yn fodlon mewn unrhyw ffordd gyda’r cyfrif terfynol y cyfeirir ato ym mharagraff 12a neu’r taliadau a wnaed mewn perthynas â hynny neu gyda chanlyniad yr archwiliad y cyfeirir ato ym mharagraff 12c uchod.

(d) Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Weithrediaeth Rhaglenni Ewropeaidd Cymru (Wales European Programme Executive) ddweud wrth y Cyngor am atal neu ofyn am y cyfan neu ran o’r grant yn ôl a phetai hynny’n digwydd gallai’r Cyngor wrthod talu’r Grant neu petai ran o’r Grant wedi’i thalu neu’r Grant i gyd wedi’i dalu yna byddai darpariaethau paragraff 13 isod yn berthnasol mewn perthynas â’r taliad a wnaed.

Petai unrhyw un o’r pethau a ganlyn yn digwydd, byddai’n rhaid i’r Grantî mewn perthynas â’r cais ad-dalu i’r Cyngor cyn pen 14 diwrnod ar ôl ei hawlio'r cyfan neu ran o’r Grant yn ôl penderfyniad y Cyngor: 

(a) Pe canfyddid bod unrhyw wybodaeth a roddwyd yn y cais am Grant neu i gefnogi cais yn anghywir neu’n sylweddol gamarweiniol

(b) Petai ormod o grant wedi’i dalu

(c) Pe na bai’r Project sy’n cael y Grant yn cael ei gyflawni yn unol â’r telerau a’r amodau hyn

(ch) Pe na bai’r Grant yn cael ei ddefnyddio at bwrpas y Project

(d) Petai’r project, ym marn y Cyngor, wedi newid yn sylweddol o ran ei natur, ei faint, ei gostau neu’i amseru neu petai unrhyw un o’r ffactorau y cyfrifwyd y Grant gwreiddiol yn seiliedig arnynt wedi newid 

(dd) Petai’r Cyngor o’r farn fod dyfodol y project mewn perygl 

(e) Petai newid sylweddol yn digwydd i’r Grantî, cyn pen 5 mlynedd ar ôl taliad olaf y grant sydd:

  • Yn effeithio ar ei natur neu’i amodau gweithredu neu’n rhoi i gwmni neu gorff cyhoeddus fantais ormodol
  • O ganlyniad i naill ai newid yn natur perchnogaeth mewn eitem o isadeiledd neu ddiwedd neu newid yn lleoliad gweithgaredd cynhyrchiol.

(f) Pe na bai cynnydd boddhaol o ran cwrdd â'r allbwn a ragwelwyd ac a nodwyd yn y cais.

(ff) Petai’r defnydd a nodir ar y ffurflen gais yn peidio o fewn y cyfnod cydymffurfio o 5 mlynedd

(g) Pe na bai digon o gyllid ar gael i gwblhau’r gwaith a hynny’n golygu na all gyflawni’r amcanion a nodir ar y ffurflen gais ac ar unrhyw ddogfennau ategol.

(ng) Petai unrhyw un o’r pethau uchod yn digwydd cyn i’r Grant gael ei dalu, yna byddai’r Cyngor yn awtomatig a heb unrhyw amodau yn cael ei ryddhau o’i ymrwymiadau i’r Grantî trwy hyn.

Bydd rhaid i’r Grantî dderbyn caniatad ysgrifenedig blaenorol gan y Cyngor os oes bwriad defnyddio’r cyllid a dderbyniwyd gan y Gronfa Cefnogi Cymunedau fel arian cyfatebol ar gyfer cynllun i’r dyfodol cyn i gais gael ei wneud i gyrff cyllido arall.

Rhaid i’r holl Grant gael ei ddefnyddio i ariannu’r project sydd wedi’i gymeradwyo ac nid at unrhyw ddiben arall. Mae’r cynnig a gynhwysir yma er budd y Grantî ac ni fydd gan y Grantî hawl i aseinio budd y cynnig o grant yn gyfan neu’n rhannol na dim o’i hawliau heb gael caniatâd ysgrifenedig y Cyngor ymlaen llaw.

Ni chaniateir unrhyw eithriadau i’r telerau a’r amodau hyn petai’r Cyngor yn peidio ag arfer neu’n oedi cyn arfer unrhyw hawl, grym neu fraint trwy hyn. 

(a) Yn achos project lle defnyddir y cyfan neu ran o’r grant tuag at brynu neu gaffael neu adnewyddu, gwella neu atgyweirio adeiladau rhyddfraint neu rai ar brydles neu dir – petai’r eiddo yn cael ei werthu, ei aseinio, ei is-osod neu’n cael ei ddefnyddio mewn rhyw ffordd arall o fewn 5 mlynedd i ddyddiad y cadarnhad ysgrifenedig ffurfiol o’r grant, byddai’n ofynnol ad-dalu’r cyfan o’r grant o fewn 14 diwrnod ar ôl cael gorchymyn ysgrifenedig am hynny.

(b) Er mwyn diogelu budd y cyhoedd, bydd gan y Cyngor hawl i godi arwystl cyfreithiol ar unrhyw ased sydd wedi derbyn cymorth ariannol am gyfnod o bum mlynedd o’r dyddiad cwblhad ymarferol.

(a) Yn achos project lle defnyddir y cyfan neu ran o’r grant tuag at brynu neu gaffael neu adnewyddu, gwella neu atgyweirio, bydd gofyn i’r Grantî yswirio’r Eiddo/Offer hyd at ei werth llawn wedi’i adfer am gyfnod o 5 mlynedd o’r dyddiad hwn.

(b) Rhaid i’r Grŵp sicrhau ei fod wedi’i yswirio’n ddigonol yn erbyn pob risg i bobl yng nghyswllt y project. 

(c) Mae’r Grŵp yn cydnabod ac yn derbyn nad yw’r Cyngor ac na fydd y Cyngor yn atebol am unrhyw golled sy’n deillio o neu sydd mewn perthynas ag unrhyw broject sy’n cael cymorth.

Bydd y Grantî yn gyfrifol am sicrhau y cydymffurfir â phob deddfwriaeth iechyd a diogelwch.

Rhaid i’r Grantî, am gyfnod o 5 mlynedd ar ôl y dyddiad y telir y grant, beidio â gwerthu na chytuno i werthu y cyfan neu ran o’i fudd yn yr offer na rhoi hynny i ffwrdd (ac eithrio benthyg am dymor byr) heb gael cymeradwyaeth ysgrifenedig gan y Cyngor ymlaen llaw.

Bydd gan y Cyngor hawl i wneud yn gyhoeddus, fel y bydd angen, manylion y grant a gynigiwyd/dalwyd i’r Grantî trwy hyn i bwrpas cyhoeddusrwydd petai angen hynny.
Bydd disgwyl i’r Grantî roi cyhoeddusrwydd i gyfraniad y Cyngor, at y prosiect mewn unrhyw gyhoeddusrwydd a roddir i’r project pa un ai drwy gyfeiriad uniongyrchol neu drwy arddangos logo’r Cyngor. 

Bydd disgwyl i’r Grantî hefyd arddangos logo’r Cyngor, ar unrhyw ddogfennau a baratoir gyda chymorth y grant. Bydd disgwyl i’r Grantî hefyd arddangos unrhyw arwyddion mewnol neu allanol yn ddwyieithog. 

Wrth dderbyn y cynnig hwn o grant mae’r rhai sy’n llofnodi yn cadarnhau bod ganddynt yr hawl i lofnodi ar ran y Grantî.

Yn ystod y cyfnod cydymffurfio bydd gofyn i’r Grantî bob 3 neu 6 mis, ar gais y Cyngor, ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd ar y Cyngor ei hangen mewn perthynas â’r project. Gall gwybodaeth o’r fath gynnwys:

  • tystiolaeth y cydymffurfiwyd â’r holl ofynion statudol perthnasol
  • tystiolaeth y cydymffurfiwyd â’r gofynion yswiriant a gyflwynir yn 18
  • copïau o ddatganiadau banc yn dangos holl incwm grantiau y prosiect
  • copïau o holl anfonebau’r cynllun a datganiadau banc yn cadarnau’r taliadau 
  • copïau o gyfrifon archwiliedig

Ar ôl cwblhau’r cyfnod Project a Noddi, bydd y Grantî yn gyfrifol am gydweithredu mewn unrhyw broses werthuso a gynhelir gan y Cyngor.

Mae’r Grantî yn cadarnhau ei fod yn gweithredu polisi cyfle cyfartal a bydd angen dangos ystyriaeth lawn o iaith, hil, rhyw, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, oedran, ail-bennu rhywedd ac i briodas neu bartneriaeth sifil a beichiogrwydd a mamolaeth ble bo hynny briodol

(a) Mae’r Cyngor yn disgwyl i'r grantî, pan yn derbyn grant o Gyngor Gwynedd fod yn darparu gwasanaeth dwy-ieithog ir cyhoedd.

(b) Wrth weithredu’r cytundeb/ derbyn y grant bydd disgwyl i chwi gydymffurfio a Chynllun Iaith Cyngor Gwynedd, ac yn arbennig:

  • Mi fydd disgwyl i unrhyw ddeunydd a ceir ei gynhyrchu fod yn ddwy-ieithog
  • Mi fydd disgwyl i unrhyw arwyddion a ceir eu gosod fod yn ddwy-ieithog
  • Mi fydd disgwyl i unrhyw hyfforddiant neu ddigwyddiad gael eu cynnal yn ddwyieithog

Byddwn yn monitro cydymffurfiaeth a’r elfennau penodol a nodir uchod.

Bydd y Grantî yn dangos ei fod yn derbyn y telerau ac amodau a geir yma drwy ddychwelyd y contract a gysylltir â hyn i’r Cyngor wedi’i lofnodi a’i gwblhau’n briodol. Anfonir copi hefyd o’r cytundeb hwn i gyd i’w gadw gan y Grantî. Os na fydd y Cyngor wedi cael y contract yn ôl gan y Grantî yn cadarnhau ei fod yn derbyn y cynnig cyn pen 21 diwrnod i’r dyddiad hwn, bydd y cynnig a geir yma yn pallu.

Cyngor Gwynedd yw’r rheolwr data at ddibenion y Ddeddf. Defnyddir yr wybodaeth ar y ffurflen hon at ddibenion Cronfa Allweddol Gwynedd. Gellir ei datgelu i adrannau eraill o’r Cyngor ac asiantaethau perthnasol eraill yn unol â chofrestriad y Cyngor dan y Ddeddf.

Mae’n ddyletswydd ar yr Ymgeisydd i rybuddio’r contractwr o’r ddeddf uchod ac i sicrhau fod y contractwr yn cydnabod oherwydd yr elfen o arian cyhoeddus gan y Cyngor bod unrhyw wybodaeth a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd i’r Cyngor drwy eu cais am grant yn agored i ymholiad o dan y Ddeddf uchod

Petai’r grant yn cael ei ddefnyddio i ariannu gweithgaredd Rheoledig fel y diffinnir yn Neddf Diogelu Grwpiau Bregus 2006 Ar gyfer plant ac oedolion, yna byddai’n rhaid i’r Grantî:

  • Sicrhau bod pob unigolyn sy’n ymgymryd â Gweithgaredd Rheoledig yn destun gwiriad uwch dilys ar gyfer gweithgaredd Rheoledig drwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o leiaf bob tair mlynedd;
  • Monitro lefelau’r gwiriadau a’u dilysrwydd ar y cymal hwn ar gyfer pob aelod o staff.
  • Peidio â chyflogi na defnyddio gwasanaethau unrhyw berson sydd wedi’i wahardd rhag ymgymryd â Gweithgaredd Rheoledig neu unrhyw berson ble mae ei ymddygiad yn y gorffennol neu ei gofnodion troseddol yn dangos na fyddai ef neu hi yn addas i ymgymryd â Gweithgaredd Rheoledig neu unrhyw berson arall mewn unrhyw ffordd beri risg i Ddefnyddwyr Gwasanaeth.

Mae’r Grantî yn gwarantu bob amser er dibenion y Contract hwn, nad oes ganddo unrhyw reswm i gredu bod unrhyw berson sy’n gyflogedig neu a fydd yn gyflogedig, neu’n gysylltiedig â’r Darparwr Gwasanaeth tra’n darparu’r Gwasanaethau, wedi’i wahardd o’r gweithgaredd yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Grwpiau Bregus 2006 ac unrhyw reoliadau a wneir dan y deddf honno, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Bydd y Grantî yn hysbysebu’ Uned Adfywio Cymunedol ar unwaith am unrhyw wybodaeth y gofynnir amdani yn rhesymol er mwyn bodloni ei hun bod goblygiadau’r cymal hwn wedi’u cyflawni.

Bydd y Grantî yn cyfeirio unrhyw wybodaeth am unrhyw berson sy’n ymgymryd a’r Gwasanaethau at y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a byddant yn dileu caniatâd i berson o’r fath rhag ymgymryd â’r Gwasanaethau (neu byddai wedi’i wneud pe byddai person o’r fath heb beidio ag ymgymryd a’r Gwasanaethau), oherwydd yn eu tyb hwy bod person o’r fath wedi niweidio neu yn berig o risg o niwed [i’r Defnyddwyr Gwasanaethau NEU blant NEU oedolion bregus].

Yn ôl i'r Gronfa