Canolfannau ailgylchu

RHAID ARCHEBU SLOT amser er mwyn mynd i ganolfan ailgylchu. Os na fyddwch wedi archebu slot, ni fydd yn bosib cael mynediad i ganolfan.

Archebu slot canolfan ailgylchu

Gweld telerau ac amodau

 

I sicrhau diogelwch pawb gofynnwn i chi dalu sylw i’r isod:

  • Mae’r canolfannau ailgylchu at ddefnydd trigolion Gwynedd yn unig.
  • Mae FANIAU angen gwneud cais am DRWYDDED FAN canolfan ailgylchu cyn archebu slot. Rhagor o wybodaeth a gwneud cais am drwydded fan.
  • Mae CEIR a THRELARS dim mwy na 2.4m x 1.2m (8’ x 4’), yn cael mynd i’r Canolfannau. DIM trelars mwy na hynny.

  • Dim ond gwastraff cartref fydd yn cael ei dderbyn yn y canolfannau. Dim gwastraff masnachol na gwastraff busnes.

  • Er eich bod yn archebu slot, mae’n bosib bydd ciwiau ar adegau. Rydym yn gofyn i bobl fod yn amyneddgar ac yn barchus wrth y staff fydd yn trio eu gorau i gael pawb drwy’r ganolfan mor ddiogel a chyn gynted ag sy’n bosib.
  • Os oes gennych nifer o eitemau, gwnewch yn siwr eich bod yn cyrraedd mewn da bryd. Rhaid dadlwytho eich cerbyd cyn diwedd y slot amser, neu mae’n bosib y bydd staff y ganolfan ailgylchu yn gofyn i chi adael
  • Gweld telerau ac amodau llawn.

 

Canslo slot

Os ydych angen canslo y slot, plîs rhowch wybod mor fuan â phosib er mwyn i ni gynnig y slot i rhywun arall. Er mwyn canslo, gyrrwch e-bost i: fynghyfrif@gwynedd.llyw.cymru

Neu cliciwch ar y linc ‘Sgwrs fyw’ (linc ar y dudalen yma pan mae’r gwasanaeth ar gael) neu ffoniwch 01766 771000 i ganslo.

 

Lleoliad ac amser agor

Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2BD (map)

Oriau agor - (Rhaid archebu slot o flaen llaw)
Llun i Sadwrn   9am-4pm

Stad Ddiwydiannol y Bala, Y Bala LL23 7NL (map)

Oriau agor - (Rhaid archebu slot o flaen llaw)
Llun, Gwener a Sadwrn yn unig.  9am-4pm

Stad Ddiwydiannol Llandygai, Bangor LL57 4YH (map)


Oriau agor -
(Rhaid archebu slot o flaen llaw)
Llun i Sadwrn   9am-4pm

Rhiwbryfdir, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3LU (map)

Oriau agor - (Rhaid archebu slot o flaen llaw)
Llun, Gwener a Sadwrn yn unig.  9am-4pm

Ffordd y Bala, Dolgellau, LL40 2YF (map)

Oriau agor - (Rhaid archebu slot o flaen llaw)
Llun i Sadwrn   9am-4pm

Safle Ffridd Rasus, Harlech LL46 2UW (map)

Oriau agor - (Rhaid archebu slot o flaen llaw)
Llun i Sadwrn   9am-4pm

Stad Ddiwydiannol Glan y Don, Pwllheli, LL53 5YT (map)

Oriau agor - (Rhaid archebu slot o flaen llaw)
Llun i Sadwrn   9am-4pm

Rhwngddwyryd, Garndolbenmaen LL51 9PJ (map)

Oriau agor - (Rhaid archebu slot o flaen llaw)
Llun i Sadwrn   9am-4pm

Ddim yn gwybod lle mae'r ganolfan agosaf i chi? Ewch i Lle dwi'n byw i weld.

 

 

Gwybodaeth bellach

Mae’r canolfannau ailgylchu yn derbyn amrywiaeth o wastraff a deunyddiau i’w ailgylchu, er enghraifft:

  • Metalau sgrap
  • Coed a phren
  • Matresi
  • Gwastraff gardd
  • Rwbel
  • Cardfwrdd
  • Papur
  • Plastig - poteli a chynhwysyddion e.e. potiau iogwrt a menyn
  • Plastig caled – hen deganau neu ddodrefn o’r ardd
  • Caniau bwyd a diod
  • Poteli a jariau gwydr
  • Cartonau diod
  • Tecstiliau
  • Poteli nwy
  • Cemegion o’r cartref a’r ardd
  • Paent
  • Olew llysiau
  • Hen olew peiriannau
  • Teiars
  • Batris
  • Batris ceir
  • Carpedi
  • Gwastraff bwyd
  • Tiwbiau goleuo
  • Setiau teledu
  • Pob math o nwyddau trydan
  • Oergelloedd
  • Rhewgelloedd

Dim ond gwastraff domestig sydd yn cael ei dderbyn yn y safle ailgylchu. Ni fyddwn yn derbyn gwastraff masnachol

  1. Mae gan Gyngor Gwynedd dair Canolfan Ailgylchu wnaiff dderbyn Asbestos Sment, sef Caernarfon, Dolgellau a Garndolbenmaen.
  2. Anogir y cyhoedd i gysylltu â Galw Gwynedd ar 01766 771000 i wneud trefniadau ymlaen llaw cyn cyrraedd y safle gydag asbestos sment
  3. Dim ond Asbestos Sment a dderbynnir yn y Canolfannau Ailgylchu hyn, a dylai'r cyfaint fod yn debyg i'r hyn a geir mewn safleoedd domestig neu fân waith DIY.
  4. Ni dderbynnir Asbestos Sment yn y Canolfannau Ailgylchu os yw'r asbestos yn cael ei gludo gan gontractwr sy'n cael ei gyflogi gan y perchennog tŷ i wneud unrhyw waith ar ei h/eiddo megis adeiladu, addasu, cynnal a chadw neu ddymchwel.
  5. Ni ystyrir bod garejis cyfan neu doeon cytiau gardd yn rhesymol ac, oherwydd y peryglon sy'n agwedd gynhenid o asbestos, dylai'r gwaith gael ei wneud, a'r asbestos gael ei waredu, gan gontractwr cymwys. Dylid trosglwyddo unrhyw ymholiadau sy'n awgrymu bod cyfaint o'r fath yn bodoli at wefan Cyfoeth Naturiol Cymru neu'r llinell gymorth ar 0300 065 3000.
  6. Ni ddylid torri deunyddiau asbestos sment. Cynghorir perchennog y tŷ i wlychu'r llenni asbestos gyda dŵr cyn eu lapio er mwyn rhyddhau cyn lleied o ffibrau â phosib.
  7. Rhaid i asbestos sy'n cael ei dderbyn yn y Canolfannau Ailgylchu gael ei lapio ddwywaith mewn plastig, a'r plastig gael ei selio gyda thâp addas.
  8. Pan yw perchennog y tŷ, neu unrhyw un sy'n gweithredu ar ei rh/ran, yn cyrraedd y Canolfannau Ailgylchu rhaid iddi/o ddweud wrth staff y safle bod ganddi/o asbestos sment i gael ei wared. Bydd staff y safle wedyn yn sicrhau bod yr asbestos sment wedi cael ei lapio'n briodol (wedi ei lapio ddwywaith, ei selio, ac yn lân). Os yw staff y safle'n fodlon gyda'r lapio a'r cyflwr, byddent wedyn yn rhoi cyfarwyddyd manwl ar waredu ar y safle. Os nad yw staff y safle'n fodlon gyda chyflwr y lapio ni fydd yn cael dod ar y safle. Os digwydd hyn, rhoddir cyngor ar sut i lapio'r gwastraff yn gywir cyn dychwelyd i'r safle.
  9. Ni fydd staff y safle yn trin nac yn helpu llwytho na dadlwytho'r Asbestos Sment. Dyletswydd y person sy'n dod ag o i'r safle ydi hyn

 

Cysylltu â ni