Os ydych yn defnyddio fan i ddod â gwastraff o’ch cartref i ganolfan ailgylchu byddwch angen trwydded fan.
Mae'r drwydded fan ar gael AM DDIM. Bydd yn caniatáu i chi archebu hyd at 18 slot y flwyddyn mewn canolfan ailgylchu er mwyn cael gwared o wastraff tŷ (dim gwastraff masnachol). Telerau ac amodau yn bodoli
Trwydded Fan Canolfan Ailgylchu: Archebu ar-lein (yn agor mewn tab newydd)(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)
Cerbydau sydd angen trwydded
Rhaid cael Trwydded Fan ar gyfer cerbydau yn y categori N1 [Cerbydau wedi eu dylunio a’u hadeiladu i gludo nwyddau gydag uchafswm màs heb fod yn fwy na 3,5 tunnell gael trwydded].
Os oes gan gerbydau yn y categori N1 ffenestri a seddi yn y cefn NID oes rhaid cael trwydded.
Nid yw'n bosib i faniau sydd wedi ei llogi wneud cais am drwydded ar hyn o bryd.
Sut mae defnyddio'r drwydded?
Ar ôl gwneud cais am drwydded fan, gallwch archebu slot canolfan ailgylchu.
Archebu slot canolfan ailgylchu ar-lein (yn agor mewn tab newydd)(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)
Pan fyddwch yn cyrraedd y ganolfan ailgylchu bydd staff yn gallu adnabod bod gennych drwydded oddi wrth rif cofrestru eich cerbyd.
Pam bod angen trwydded?
Ar hyn o bryd mae rhai busnesau yn mynd â gwastraff masnachol i’r canolfannau ailgylchu. Mae’r gost o waredu gwastraff y busnesau yma yn sylweddol, a’r trethdalwyr sy'n ysgwyddo’r gost. Mae’r drefn newydd yma yn un o’r mesurau sy’n cael ei ddefnyddio i rwystro hyn rhag digwydd.
Gallwch hefyd wneud cais am drwydded drwy ffonio 01766 771000.