Y Gymraeg mewn busnes
Fel rhan Gynllun Hybu’r Gymraeg 2018-2023, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i geisio cael
-
y sector busnes a phreifat yn rhoi gwerth a statws i’r iaith a deall bod y Gymraeg yn sgil ac yn adnodd wrth recriwtio.
-
gwell ymwybyddiaeth ymysg perchnogion a rheolwyr busnesau am werth sgiliau Cymraeg ymysg eu gweithlu a chynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg.
Mae’r Cyngor yn gweithio gyda busnesau lleol, yn enwedig mewn meysydd fel twristiaeth a hamdden, er mwyn cynnig arweiniad ar roi llwyfan amlwg i’r Gymraeg yn eu gweithgarwch. I fusnesau newydd neu busnesau sy’n bodoli’n barod, yma mha bynnag faes, mae cymorth ar gael.
Busnesau sydd wedi elwa o’r Gymraeg
Mae nifer fawr o gwmnïau wedi elwa o ddefnyddio’r Gymraeg ac am resymau gwahanol. Dyma ddwy stori sy’n roi syniad i chi o sut y bu i fusnes newydd a busnes sefydlog elwa o ddefnyddio’r Gymraeg.
Gwybodaeth am ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eich busnes neu elusen
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cynnig arweiniad a chyngor gwerthfawr. Cliciwch iso di weld sut mae cannoedd o fusnesau ac elusennau eisoes wedi manteisio ar arbenigedd a phrofiad
Pa help sydd ar gael
Os ydych chi’n rhedeg busnes neu am gychwyn busnes o’r newydd mae nifer o lefydd y gallwch droi atynt i gael cymorth i ddefnyddio’r Gymraeg.