Natur Gwynedd - Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth

Natur Gwynedd yw y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (CGBLl) ar gyfer yr ardaloedd yng Ngwynedd sydd y tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri. 

Fe’i datblygwyd gan bartneriaeth eang o sefydliadau ac unigolion. Mae Natur Gwynedd yn nodi yr hyn sydd yn rhaid ei wneud i ddiogelu a gwarchod ein bywyd gwyllt a chynefinoedd lleol hynod o bwysig.

Amcanion Natur Gwynedd:

  • i helpu i warchod bioamrywiaeth Gwynedd ac, felly, i gyfrannu at gadwraeth bioamrywiaeth yng Nghymru, y DU a'r byd.
  • i ddatblygu partneriaethau lleol effeithiol i sicrhau bod yr hyn rydym ni'n ei wneud yn cael ei gynnal yn y tymor hir.
  • i gynyddu'n gwybodaeth o fioamrywiaeth Gwynedd.
  • i godi ymwybyddiaeth gyhoeddus o fioamrywiaeth yng Ngwynedd.

Darllen crynodeb o'r cynllun

Darllen y cynllun yn llawn:

 

Am ragor o wybodaeth neu i dderbyn copi caled neu copi electronig ar CD, cysylltwch â ni drwy ffonio (01286) 679782 neu drwy anfon e-bost i bioamrywiaeth@gwynedd.llyw.cymru