Strategaeth Cyfranogiad

Rydym wedi cyhoeddi Strategaeth Cyfranogiad sy’n egluro sut yr ydym yn annog pobl leol i gymryd rhan ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Cyngor.   

Gweld Strategaeth Cyfranogiad Cyngor Gwynedd


Mae strategaeth gyfranogi'r cyhoedd y Cyngor yn disgrifio sut fydd y Cyngor yn:  

  • hyrwyddo ymwybyddiaeth o swyddogaethau'r Cyngor;

  • hyrwyddo ymwybyddiaeth o sut all pobl ddod yn Gynghorydd a beth mae'r rôl yn ei olygu; 

  • hwyluso mynediad at wybodaeth ynghylch y penderfyniadau a wnaed, neu sydd i'w gwneud, gan y Cyngor; 

  • hyrwyddo'r trefniadau lle y gall pobl wneud sylwadau i'r Cyngor ynghylch y penderfyniadau y mae wedi'u gwneud neu y bydd yn eu gwneud yn y dyfodol;  

  • sicrhau fod barn y cyhoedd yn cael ei ddwyn i sylw ei Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu; a  

  • hyrwyddo ymwybyddiaeth ymysg Cynghorwyr o fanteision defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â phobl leol.  

Gofyn cwestiwn yn y Cyngor Llawn: 

Rydym yn croesawu cwestiynau ffurfiol gan y cyhoedd yng nghyfarfodydd y Cyngor llawn. Mae trefniadau penodol ar gyfer hynny, gan gynnwys rhoi rhybudd ysgrifenedig digonol o flaen llaw.  

Gweld canllawiau sut i ofyn cwestiwn yn y Cyngor Llawn

 

Deisebau

Gallwch gyflwyno deisebau i'r Cyngor drwy ddilyn yn drefn sydd wedi ei hamlinellu yng Nghynllun Deisebau Gwynedd.

Gweld manylion - Cynllun Deisebau