Gofyn Cwestiwn yn y Cyngor Llawn

Rydym yn croesawu cwestiynau gan y cyhoedd. Mae trefn syml i’w dilyn i’ch cynorthwyo chi a ni gyda hyn:

 

1. Gadael i ni wybod

  • Mae’n rhaid i chi adael i ni wybod o flaen llaw eich bod yn dymuno gofyn cwestiwn. 
  • I wneud hyn mae angen i chi e-bostio y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth ar y cyfeiriad e-bost: gwasanaethdemocratiaeth@gwynedd.llyw.cymru   
  • Rhaid i chi gyflwyno eich cwestiwn cyn canol dydd 10 diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Ni ellir derbyn cwestiwn y tu allan i’r amserlen yma. Gweler y tabl isod i’ch helpu.  

    Cwestiwn Cyngor Llawn
     LlunMawrth  MercherIau  Gwener
        Cyflwyno cwestiwn
    cyn hanner dydd
     10  9
     8  7  6  4
     3  2  1 Diwrnod y 
    cyfarfod
     
  • RHAID i chi gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad yn llawn (ni fydd eich cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi wrth gyhoeddi’r cwestiwn). 

  • Cofiwch, dim ond un cwestiwn gewch chi ei gyflwyno mewn unrhyw un cyfarfod. 

2. Ga i ofyn cwestiwn am unrhyw beth? 

  • Caiff y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wrthod cwestiwn:  

(a) os nad yw’n ymwneud â mater y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdano neu sy’n effeithio ar y sir;  

(b) os yw’n ddifenwol, yn wacsaw neu’n sarhaus;  

(c) os yw’n sylweddol debyg i gwestiwn a gyflwynwyd mewn cyfarfod o’r Cyngor yn ystod y chwe mis diwethaf;  

(ch) os yw’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol neu eithriedig;   

(d) os yw'n ymwneud â chwyn (dylai cwynion gael eu cyflwyno trwy drefn gwyno'r Cyngor);  

(dd) os yw'n ymwneud â chais penodol am ganiatâd, trwydded, cydsyniad, cymeradwyaeth neu gofrestriad, neu unrhyw gamau gorfodi yn ymwneud â mater o'r fath;  

(e) os yw'n ymwneud ag aelod penodol, aelod o staff y Cyngor neu aelod o'r Cyhoedd;  

(f) pe bai darparu ateb yn golygu cost ac ymdrech afresymol; neu (ff) os yw'n ymwneud a mater lleol sydd heb arwyddocâd ehangach i'r Sir.  

 

3. Beth sy’n digwydd ar ôl cyflwyno cwestiwn?  

  • Bydd pob cwestiwn sy’n cael ei dderbyn o fewn yr amserlen yn cael ei gofnodi yn y drefn y cafodd ei dderbyn.

  • Byddwch yn derbyn gwahoddiad i fynychu’r cyfarfod – cewch fynychu’r siambr neu fynychu’r cyfarfod yn rhithiol.  Bydd swyddogion yn cysylltu o flaen llaw i fynd trwy’r trefniadau. 

  • Bydd copïau o bob cwestiwn yn cael eu dosbarthu i bob Cynghorydd ac yn cael eu cyhoeddi yn y rhaglen.   

 

4. Beth sy’n digwydd yn ystod y cyfarfod?  

  • Os ydych yn bresennol, byddwch yn cael eich gwahodd gan y Cadeirydd i ddod ymlaen i ofyn eich cwestiwn (yr union eiriad sydd wedi ei nodi ar eich cwestiwn ysgrifenedig). 
  • Bydd gennych hawl i ofyn UN cwestiwn ychwanegol i’r Cynghorydd a atebodd y cwestiwn gwreiddiol.  Gelwir hyn yn ‘gwestiwn atodol’ ac mae’n rhaid iddo godi’n uniongyrchol o’r cwestiwn gwreiddiol neu’r ymateb.  Gall y Cadeirydd wrthod eich cwestiwn atodol fel a nodir yn 2a-f uchod.
  • Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol, mae modd i chi ofyn i’r Cadeirydd ofyn y cwestiwn ar eich rhan.  Bydd ateb ysgrifenedig yn cael ei roi mewn achlysur o’r fath.
  • Ni fydd trafodaeth yn cael ei chynnal ar unrhyw gwestiwn, ond gall Cynghorydd gynnig bod mater a godwyd gan gwestiwn yn cael ei gyfeirio at y Cabinet neu bwyllgor priodol.  Os yw hyn yn digwydd, bydd rhaid i’r cynnig gael ei eilio, yna pleidlais, ond dim trafodaeth.
  • Mae cyfyngiad amser o 30 munud ar gyfer cwestiynau gan y cyhoedd (cyfanswm yr amser i’r holl gwestiynau yw hyn).  Os nad oes modd ymdrin a’ch cwestiwn o fewn yr amser, neu os nad yw’r Cynghorydd y bwriadwyd y cwestiwn ar ei gyfer yn gallu bod yn bresennol, byddwch yn derbyn ateb ysgrifenedig.  


Mae'r manylion llawn i’w weld yng Nghyfansoddiad y Cyngor (4.17)