Cynllun Deisebau

Mae deisebu yn un ffordd y gall unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, drwy godi materion sy'n peri pryder i'r cyhoedd gyda'r Cyngor a chaniatáu i Aelodau Etholedig ystyried yr angen am newid.    

Gall deisebau gael canlyniadau cadarnhaol sy'n arwain at newid neu'n llywio trafodaeth.     

Cyn ystyried a ddylid codi deiseb a’i peidio, awgrymir i chi drafod y mater gyda'ch Cynghorydd Lleol a allai eich cynorthwyo gyda'r mater neu egluro sut i gyflwyno sylwadau ar bwnc penodol i'r person cywir o fewn y Cyngor. Dod o hyd i fanylion cyswllt eich Cynghorydd Lleol

Gall unrhyw un sy'n byw, yn gweithio, yn berchen ar fusnes, yn berchnogion tir / trethdalwr neu astudio yng Ngwynedd lofnodi neu gyflwyno deiseb, gan gynnwys y rhai dros 16 oed.   Gall unrhyw un sy'n byw yn ardal Cyngor cyfagos hefyd lofnodi neu gyflwyno deiseb OS oes rheswm rhesymol i bwnc y ddeiseb fod yn effeithio arnynt yn uniongyrchol.    

Gellir cyflwyno deisebau ar bapur neu'n electronig gan ddefnyddio system ddeisebu ar-lein sy'n bodloni gofynion deiseb ddilys, neu gyfuniad o'r ddau.    

Gall deiseb gael ei hystyried mewn gan yr aelod perthnasol o’r Cabinet, adroddiad I'r Cabinet, adroddiad i Bwyllgor Craffu perthnasol neu I'r Cyngor Llawn.   

Noder fod trefniadau statudol yn bodoli mewn ambell i faes penodol (e.e. Ail Strwythuro Ysgolion a Maes Cynllunio). Ni dderbynnir deiseb y tu allan i’r trefniadau statudol hynny.   

Bydd Pennaeth y Gwasanaethau Democratiaeth â'r Swyddog Monitro yn ystyried y deisebau a gyflwynir ac yn penderfynu a yw'r ddeiseb yn dderbyniol yn seiliedig ar y meini prawf canlynol ar gyfer deiseb ddilys, gan gynghori ar y corff priodol i’w ystyried. Bydd angen derbyn cadarnhad bod y ddeiseb yn ddilys cyn iddo gael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.  

Prif Ddeisebydd
Mae pob deiseb yn ei gwneud yn ofynnol i ddeisebydd arweiniol gael ei nodi a fydd yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer y ddeiseb.   Dyma'r gofynion sy'n angenrheidiol ar gyfer prif ddeisebydd:   

  1. Gall enw'r prif ddeisebydd fod yn unigolyn sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio o fewn Gwynedd, yn berchnogion tir / trethdalwr neu'n sefydliad sydd wedi'i leoli yng Gwynedd. 
  2. Rhaid i’r prif ddeisebydd nodi cyfeiriad cartref / gwaith / sefydliad yn llawn a chyfeiriad e-bost (os oes un ar gael) neu wybodaeth gyswllt y gellir anfon unrhyw ohebiaeth sy'n ymwneud â'r ddeiseb ati.   

Y Ddeiseb 
Bydd y Cyngor yn ystyried pob deiseb gyda mwy na 100 o lofnodwyr sy'n dod o fewn cwmpas y Cynllun hwn. Gall y Cyngor ddefnyddio disgresiwn i dderbyn deiseb lle ceir llai na 100 o lofnodwyr mewn achosion lle ceir cefnogaeth leol glir ar gyfer gweithredu (e.e. lle mae trigolion cymuned fach wedi deisebu ar gyfer mesurau arafu traffig). 

Gellir cyflwyno deisebau i'r Cyngor naill a’i ar bapur neu yn electroneg.    

Rhaid i'r ddeiseb:  

  1. cynnwys datganiad clir, byr sy'n ymdrin â phwnc y ddeiseb.  Caiff y ddeiseb ei dychwelyd os yw'n aneglur;
  2. Rhaid i’r ddeisebau fod ymwneud â mater sydd dan gyfrifoldeb y Cyngor. 
  3. galw ar Gyngor Gwynedd i gymryd camau penodol, er enghraifft:   "Rydym yn galw ar Gyngor Gwynedd i..." neu "Rydym yn galw ar y Cabinet i ..." Rhaid ei ailadrodd ar bob tudalen o ddeiseb ar bapur
  4. darparu enwau a chyfeiriadau post y rhai sy'n llofnodi'r ddeiseb, gan gynnwys codau post. 
  5. Dangosir templed deiseb a awgrymir yn Atodiad A. 


Ni ddylai deisebau gynnwys:

  1. Iaith sy'n sarhaus, yn ddirmygus neu'n bryfoclyd.  Mae hyn nid yn unig yn cynnwys rhegfeydd a sarhad amlwg, ond unrhyw iaith y byddai person rhesymol yn ei hystyried yn sarhaus.
  2. Datganiadau a allai fod yn ffug neu a allai fod yn ddifenwol. 
  3. Gwybodaeth sydd wedi'i gwahardd rhag cael ei chyhoeddi gan orchymyn llys neu gorff neu berson sydd â phŵer tebyg. 
  4. Deunydd a allai fod yn gyfrinachol, yn fasnachol sensitif, neu a allai achosi trallod neu golled bersonol. 
  5. Unrhyw gymeradwyaeth fasnachol, hyrwyddo unrhyw gynnyrch, gwasanaeth neu gyhoeddiad neu ddatganiadau sy'n gyfystyr â hysbysebion. 
  6. Yn enwi unigolion, neu'n rhoi gwybodaeth lle gellir eu hadnabod yn hawdd, e.e. swyddogion unigol cyrff cyhoeddus.
  7. Materion nad deiseb yw'r sianel briodol ar eu cyfer (er enghraifft, gohebiaeth am fater personol neu fater sy'n destun achos llys).    
  8. Deisebau ar faterion sydd eisoes yn destun penderfyniad gan Ombwdsmon (neu berson sydd â phwerau tebyg) 
  9. Deisebau sydd yn eu hanfod yn geisiadau rhyddid gwybodaeth, sylwadau, canmoliaethau neu gwynion, a fydd yn cael eu trosglwyddo i'r adran briodol am ymateb addas. 
  10. Bydd deisebau sy'n codi materion sy'n ymwneud â chamymddwyn posibl gan gynghorwyr neu weithwyr llywodraeth leol yn cael eu cymryd fel cwynion sy'n codi o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a chânt eu hadrodd i'r Swyddog Monitro yn hytrach na'u hystyried o dan y cynllun deiseb hwn. 
  11. Ni ddibynnir y ddeiseb os yw’n sylweddol debyg i ddeiseb a gyflwynwyd i un o Bwyllgorau’r Cyngor yn ystod y chwe mis diwethaf.
  12. Os yw deiseb ynglŷn a mater sydd yn destun ymgynghoriad neu gyfnod ymateb statudol yna ymdrinnir a’r ddeiseb yn unol a’r trefniadau a’r amserlen sydd wedi ei ddynodi ar gyfer y broses. 

Llofnodwr priodol yw unigolyn sy'n byw, yn gweithio, yn berchen ar fusnes neu’n astudio yng Ngwynedd; yn berchnogion tir / trethdalwr neu sy'n byw yn ardal sir cyfagos ac y gellid disgwyl yn rhesymol iddo/iddi gael eu effeithio gan bwnc y ddeiseb.   

Dim ond unwaith y gall unigolyn lofnodi deiseb. Rhaid i bobl beidio â llofnodi deiseb ar-lein ac un ar bapur, a gellir dileu dyblygu os canfyddir bod deisebydd wedi llofnodi ddwywaith. 

Rhaid i ddeisebau papur neu electronig, sydd i'w hystyried gan y Cyngor gael eu cyflwyno i:

Bydd derbyn neu hysbysu am ddeiseb bapur, neu gyflwyno deiseb electronig i'r Gwasanaethau Democratiaeth, yn cael ei gydnabod o fewn 5 diwrnod gwaith ar yr amod bod manylion cyswllt y prif ddeisebydd yn cael eu darparu ar yr un pryd. 

Bydd gwiriadau cychwynnol i gadarnhau bod deiseb a gyflwynir yn bodloni gofynion y Cynllun yn cael ei gynnal gan y Swyddog Monitro a Swyddogion Gwasanaethau Democratiaeth.   

Os derbynnir nifer o ddeisebau ar bwnc tebyg gyda chanlyniadau dymunol tebyg, dim ond un prif ddeisebydd fydd yn gallu cyflwyno ei ddeiseb i'r Cyngor.  Bydd y Prif ddeisebydd ar gyfer pob deiseb yn cael ei hysbysu gan y Gwasanaethau Democratiaeth, a gofynnir iddynt gysylltu â'i gilydd er mwyn ystyried opsiynau i gyfuno deisebau a phenderfynu pa ddeisebydd arweiniol fydd yn cyflwyno'r ddeiseb i'r Cyngor.  Os na cheir cytundeb, bydd gan y deisebydd sydd â'r nifer fwyaf o lofnodion yr hawl i gyflwyno'r ddeiseb i'r Cyngor.    

Bydd unrhyw bryderon ynghylch dilysrwydd y ddeiseb yn cael eu codi gyda'r Swyddog Monitro cyn annilysu unrhyw ddeiseb.      

Os yw eich deiseb yn annilys, bydd y prif ​​​ddeisebydd yn cael gwybod o fewn 5 diwrnod gwaith o dderbyn y ddeiseb.   

Derbynnir deisebau dros e-bost neu drwy law ac fel cam cyntaf byddant yn cael ei  gwrio ac os yn dderbyniol bydd yn cael arddangos ar wefan y Cyngor am gyfnod o 2 fis.   

Bydd angen i’r ddeiseb dderbyn dros 100 llofnod cyn cael ei dderbyn gan y Cyngor. Gall y Cyngor ddefnyddio’i ddisgresiwn lle ceir llai na 100 o lofnodwyr mewn natur testun y ddeiseb yn cyfiawnhau derbyn rhif is a fod nifer y llofnodwyr yn gymesurol i’r gymuned dan sylw (e.e. lle mae trigolion cymuned fach wedi deisebu ar gyfer mesurau arafu traffig). Bydd pob deiseb sydd ar wefan y Cyngor yn agored am gyfnod a bennir gan y Prif Ddeisebydd, ond dim mwy na 2 fis.    

Os yn ddilys bydd y ddeiseb yn cael hanfon ymlaen i’r Aelod Cabinet gyda copi yn mynd i’r Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Perthnasol.   

Yn dilyn trafodaeth ac ymgynghoriad rhwng yr Aelod Cabinet, Cadeirydd Craffu, Swyddog Monitro a Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth bydd yr Aelod Cabinet yn llunio ymateb i’r ddeiseb o fewn 20 diwrnod gwaith a fydd yn nodi’r camau gweithredu posib. Bydd y camau gweithredu yn ddibynnol ar natur y ddeiseb a gall gynnwys y canlynol:  

  1. Ymateb gan yr aelod perthnasol o'r Cabinet 
  2. Adroddiad i’r Cabinet,   
  3. Adroddiad i bwyllgor Craffu perthnasol
  4. Adroddiad i’r Cyngor Llawn.  

Bydd y camau gweithredu yn cael ei nodi ar y wefan yn ogystal o fewn 5 diwrnod gwaith i’r ymatebiad gael ei anfon i’r Prif Ddeisebydd.  


Eithriadau 

Yn y cyfnod yn union cyn etholiad neu refferendwm, efallai y bydd angen i ni ddelio â'ch deiseb yn wahanol.   Os felly, byddwn yn esbonio'r rhesymau ac yn trafod unrhyw amserlen ddiwygiedig a allai fod yn berthnasol.  

Ar ôl darllen y Cynllun Deisebau, efallai y bydd unigolyn neu sefydliad o'r farn nad deiseb yw'r ffordd fwyaf priodol o gyflawni'r canlyniad a ddymunir gennych.   Mae'r opsiynau amgen i alluogi aelodau'r cyhoedd i ddweud eu dweud yn cynnwys:   

  • a. Ysgrifennu at yr Aelod Cabinet neu'r Uwch Swyddog Priodol 
  • b. Cysylltu â'ch Cynghorydd lleol 
  • c. Ymateb i ymgynghoriad  
  • d. Codi eich pryderon gyda'r gwasanaeth Craffu 
  • e. Gwneud awgrym drwy wefan y Cyngor  
  • f. Gofyn cwestiwn yn y Cyngor.  

Bydd yr holl ddata personol yn cael ei drin yn unol â deddfau diogelu data a'n Polisi Preifatrwydd. Byddwn yn cadw copi caled a gwybodaeth electronig am ddeisebau am 12 mis ac ar ôl hynny caiff ei dinistrio'n ddiogel. 

 

Cyflwyno Deiseb

Rhaid i ddeisebau papur neu electronig, sydd i'w hystyried gan y Cyngor gael eu cyflwyno i:

 

Lawrlwytho Cynllun Deisebau Cyngor Gwynedd 

Lawrlwytho Atodiad A - enghraifft o ddeiseb