Strwythur gwleidyddol
Mae 69 cynghorydd yn eistedd ar Gyngor Gwynedd ac mae'r Cyngor yn gweithredu drwy drefn Cabinet a Phwyllgorau Craffu.
Cyfansoddiad gwleidyddol presennol y Cyngor yw:
Prif elfennau strwythur gwleidyddol y Cyngor:
Y Cyngor Llawn: Mae 69 cynghorydd sir yn cyfarfod er mwyn cytuno ar bolisïau'r Cyngor a gosod y gyllideb flynyddol. Mae'r Cyngor Llawn yn cyfarfod 5 gwaith y flwyddyn.
Y Cabinet: Mae'r Cabinet yn cynnwys 10 Cynghorydd ac yn cael ei gadeirio gan Arweinydd y Cyngor. Mae gan bob un o’r Aelodau bortffolio penodol o gyfrifoldeb am feysydd o fewn gwasanaethau’r Cyngor. Gweld mwy o wybodaeth am waith y Cabinet
Cadeirydd y Cyngor: Mae Cyngor Gwynedd yn ethol Cadeirydd ac Is-Gadeirydd bob 12 mis yn ei gyfarfod blynyddol. Mae'r Cadeirydd yn llywyddu dros gyfarfodydd y Cyngor ac mae'n cynrychioli Cyngor Gwynedd mewn digwyddiadau dinesig a seremonïol. Gweld mwy o wybodaeth am Gadeirydd y Cyngor
Am ragor o wybodaeth..
Os oes gennych ymholiad neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni:
E-bost: GwasanaethDemocratiaeth@gwynedd.llyw.cymru
Pwyllgorau
Mae nifer o wahanol bwyllgorau gan gynnwys y rhai canlynol.
Y Pwyllgor Craffu: Mae 3 Pwyllgor Craffu yng Ngwynedd, sydd i gyd yn cyfarfod o leiaf 5 gwaith y flwyddyn:
- Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
- Pwyllgor Craffu Cymunedau
- Pwyllgor Craffu Gofal
Gweld mwy o wybodaeth yn yr adran craffu.
Y Pwyllgor Rheoleiddio: Mae’r Pwyllgorau Rheoleiddio yn cynnwys: Y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, Y Pwyllgor Cynllunio, a’r Pwyllgor Trwyddedu
Y Pwyllgor Safonau: Rôl y Pwyllgor Safonau yw hyrwyddo, cynnal a gwarchod safonau ymddygiad aelodau o fewn y Cyngor a phriodoldeb yn holl drafodion y Cyngor. Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Safonau.