Astudiaethau Achos – Datblygu eich busnes

Gweler isod erthyglau sy'n crynhoi sut mae rhai o fusnesau Gwynedd yn manteisio ar y cymorth sydd ar gael i ddatblygu a gwella eu busnes.

Dylunydd arobryn o Wynedd yn defnyddio’i phrofiad cyfnod clo fel cyfle i wella ei busnes

Defnyddiodd y dylunydd a’r gwneuthurwr arobryn Ann Catrin Evans y cyfyngiadau Covid i’w mantais drwy gymryd cyrsiau i wella ei sgiliau busnes a chomisiynu siop ar-lein newydd i werthu ei gemwaith unigryw sydd wedi’i wneud â llaw.

O Ddyffryn Ogwen yn wreiddiol, mae Ann wedi bod yn wyneb cyfarwydd yng Nghaernarfon ers iddi lansio ei busnes ym 1989. Mae ganddi weithdy yng Nglynllifon ers 1991, ac fe agorodd ei siop, Siop iard, yn Stryd y Plas, wyth mlynedd yn ôl.

Wedi graddio o’r coleg yn Brighton ym 1989, sefydlodd Ann weithdy ar unwaith gyda chymorth grantiau llywodraeth leol, gan weithio o feudy ar fferm y teulu am ddwy flynedd. “Roedd yn unig iawn gan nad oedd dim gwartheg,” meddai. “Roeddwn i ar fin rhoi fyny yr adeg hynny, roedd hi mor anodd.” 

Ond, wedyn, fe enillodd y Fedal Aur am y campwaith celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelwedd ym 1993. “Pan enillais i’r wobr honno rhoddodd yr hwb yna yr oeddwn ei angen i’n ngwthio i ‘mlaen.” (Darllen mwy).

Dychweliad y ffair grefftau: Anrheg Nadolig i’w groesawu i fusnesau crefftio bach

Wrth i’r cyfnod clo agosáu, roedd yr anallu i fynd i gemau chwaraeon, i briodasau, i fedyddiadau a thafarndai yn newyddion mawr. Ond ychydig iawn o sylw fu ar y cyfryngau am ffeiriau crefft, rhywbeth mae llawer o berchnogion busnes bach yn dibynnu arnynt am incwm.

Crefftwyr fel Deborah Williams, sydd yn rhedeg Mooshkin yng Ngwynedd, sy’n gwneud anrhegion â llaw, a fethodd y ffeiriau crefft a’r marchnadoedd yn fawr – a hynny nid yn unig oherwydd y golled mewn incwm. (Darllen mwy).

Gwasanaeth rhad ac am ddim ym Mhorthmadog yn helpu busnesau ac unigolion i hogi eu sgiliau creadigol

Mae gwasanaeth anghyffredin, rhad ac am ddim, ar gyfer busnesau ac unigolion yn gwneud defnydd da o siop wag ar y stryd fawr ac yn helpu pobl i ddysgu sgiliau ymarferol creadigol newydd.

Lansiodd Ffiws, sy’n rhan o Arloesi Gwynedd Wledig, ym mis Medi 2019 ac mae wedi ei leoli mewn hen siop bwci ar Stryd Fawr Porthmadog. Wedi ei ariannu yn rhannol gan gronfa ARFOR Cyngor Sir Gwynedd, gyda gweddill y cyllid yn dod drwy’r rhaglen LEADER, mae Ffiws yn darparu ‘Gofod Gwneud’ sy’n galluogi defnyddwyr i roi cynnig ar brosesau creadigol cyffrous yn cynnwys argraffu 3D, argraffu sublimation a gwasg gwres, torrwyr laser ac engrafiad, torrwyr finyl a gweithio â phren gan ddefnyddio peiriant CNC. (Darllen mwy).

Trefi Smart ar gyfer ffonau clyfar: sut mae trefi a phentrefi Gwynedd yn cadw mewn cysylltiad gydag ymwelwyr

Yn yr oes hon o ymgysylltu, mae cadw mewn cysylltiad o ble bynnag yr ydych chi yn flaenoriaeth uchel i lawer. Felly mae bod heb signal ffôn, sy’n rhwystro pobl rhag cysylltu, yn gallu bod yn broblem.

Yn anffodus, nid yw pob signal ffôn gystal â’i gilydd. Mewn rhai trefi cewch signal cryf gan un darparwr ond un gwan gan ddarparwr arall – a dim signal o gwbl gan rwydweithiau eraill. Felly sut allwch chi gadw mewn cysylltiad?

Yn 2016 daeth perchnogion busnesau yn Aberdaron, oedd yn profi derbyniad ffôn symudol gwael a dim band eang cyflym, i weithio gydag Arloesi Gwynedd Wledig ac arbenigwyr cyfathrebu ar brosiect peilot i osod rhwydwaith wi-fi i’w ddefnyddio’n rhad ac am ddim i’r pentref. Yn ei hanfod, byddai’n bownsio signal wi-fi o un rhan o’r pentref i ran arall, gyda’r system yn gofyn i’r defnyddwyr ddarparu cyfeiriad e-bost a hwythau wedyn yn derbyn wi-fi yn rhad am ddim pan fyddent yn y pentref. 

Symudwn ymlaen i 2021 ac erbyn hyn mae deg o drefi a phentrefi yn Ngwynedd wedi cofrestru i ddilyn y cynllun peilot. O dan y cynllun ‘Trefi Smart’ (‘Smart Towns’), a esblygodd o’r peilot yn Aberdaron, mae rhwydweithiau wi-fi cyhoeddus wedi eu gosod yn Y Bala, Beddgelert, Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Llan Ffestiniog, Penygroes, Porthmadog a Phwllheli erbyn hyn – ac yn Aberdaron, wrth gwrs, ble dechreuodd popeth. (Darllen mwy).

 

Tŷ hanesyddol yn cael ei achub: gan droi'n westy bwtîc

Mae adeilad sydd wedi chwarae rôl bwysig yn nhreftadaeth ddiwydiannol Cymru am dros dwy ganrif wedi ei droi i mewn i westy bwtîc, gan greu llety moethus ar gyfer ymwelwyr a swyddi ar gyfer pobl leol.

Roedd Plas Weunydd, cartref hanesyddol y teulu Greaves, sef perchnogion chwarel lechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog o ganol y 19eg ganrif, yn cynnwys 24 o ystafelloedd sydd wedi’u dylunio’n unigryw y gall ymwelwyr eu defnyddio fel lleoliad wrth iddynt archwilio Eryri, neu ar gyfer seibiant bach moethus. 

Mae’r llety bwtîc sydd ar gael ym Mhlas Weunydd yn gain ac yn gyfforddus, gyda bar a lolfa ar gyfer ymlacio ar ôl diwrnod caled o antur. (Darllen mwy).

Technoleg newydd a chynnydd mewn gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol yn helpu un o atyniadau poblogaidd Eryri i ddarparu gwell profiad archebu wedi i’r cyfnod clo lacio

Mae un atyniad poblogaidd yn Eryri wedi mabwysiadu technoleg newydd i helpu i reoli archebion yn fwy effeithlon a chyda phrofiad llyfnach ar gyfer eu cwsmeriaid, ar ôl adnabod bod ‘archebu o flaen llaw’ yn arfer fydd gyda ni am y dyfodol rhagweladwy. 

Roedd Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri, sy’n cynnal teithiau trên stêm hanesyddol a darluniadwy rhwng Caernarfon, Porthmadog a Blaenau Ffestiniog, yn wynebu’r dilema cyfarwydd erbyn hyn o sut i groesawu cwsmeriaid yn ôl yn ddiogel wedi i’r cyfnod clo ddechrau llacio.

Yn flaenorol, gallai teithwyr ddringo ar ac oddi-ar y trenau heb archebu ticed o flaen llaw. 
Ond ers i’r cyfnodau clo ddechrau llacio, ac i atyniadau allu dechrau ailagor, mae angen llawer mwy o gynllunio – gan gwsmeriaid a gan ddarparwyr gwasanaeth. 

Roedd gan Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri system dicedu ar-lein eisioes ond roeddent yn teimlo fod cwsmeriaid yn gweld y system braidd yn anhylaw i’w defnyddio. Wedi gwneud ychydig o ymchwil daethant ar draws FareHarbor, gwasanaeth sy’n ymgorffori archebion gyda Profi Olrhain Diogelu ac yn galluogi Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri i werthu cynnyrch megis arweinlyfrau a hamperi yn ogystal â’u galluogi i negeseuo cwsmeriaid ar y cyd. (Darllen mwy).

 

Busnes yng Ngwynedd yn creu hanes

Fe lansiodd y cwmni, sy’n enwog am ei jin Cymreig a’i liqueurs, ei wisgi cyntaf ar Fai 17eg – sef, drwy gyd-ddigwyddiad, Diwrnod Wisgi y Byd – ac fe werthodd bob un o’r 2,000 o boteli o fewn diwrnod. 

Whisgi Brag Sengl Aber Falls yw’r cyntaf i gael ei ddistyllu yng Ngogledd Cymru mewn 120 o flynyddoedd, ac fe aeth ar werth wrth i bum distyllfa wisgi yng Nghymru ddechrau eu cais am statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig ar gyfer wisgi Cymreig. 

Ar yr un diwrnod, agorasant eu canolfan ymwelwyr newydd sbon sy’n cynnwys bistro, siop a gofod arddangos. Mae hefyd yn cynnwys ‘lab jin’ ble gall ymwelwyr ddylunio a chreu eu jin pwrpasol eu hunain. Gallent hefyd fwynhau profiad ciniawa awyr agored ar y teras gyda golygfeydd anfarwol o’r ddistyllfa a Mynyddoedd y Carneddau. Mae’r ganolfan ymwelwyr newydd, sydd wedi costio oddeutu £1.5m i’w hadeiladu, yn darparu swyddi ar gyfer pobl leol.  (Darllen mwy).

 

Siop ar y stryd fawr yn profi hwb enfawr mewn gwerthiannau ar-lein diolch i grant ardrethi, arloesiad a chwsmeriaid hynod o ffyddlon

Mae grantiau ardrethi, y cyfryngau cymdeithasol a chwsmeriaid hynod o ffyddlon wedi helpu un busnes yng Ngwynedd nid yn unig i oroesi’r cyfnod clo, ond i ddod allan yr ochr arall yn gryfach nag erioed. 

Mae Tom a Myfanwy Gloster wedi rhedeg eu siop ym Mhorthmadog ers 2014. Tra mae Tom, sydd wedi bod yn grochenydd ers 2004, yn creu’r nwyddau crochenwaith nodweddiadol y maent yn eu gwerthu, mae Myfanwy yn gofalu am y marchnata – rhywbeth mae hi’n dalentog iawn am ei wneud. 

Pan ddaeth y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020, yn dilyn y panig ar y dechrau, penderfynodd y cwpl wneud gwelliannau.

Roedd ganddynt wefan e-fasnach eisioes, un oedd yn gwneud yn dda. Ond os oedd y Glosters am dalu costau rhedeg siop wag, byddai angen i’r wefan wneud yn well. (Darllen mwy).

 

Technoleg a hyfforddiant yn helpu darparwr llety i baratoi i ailagor yn dilyn y cyfnod clo

“Angen yw mam pob dyfais”, ydi’r hen ddywediad. Mae hyn yn sicr yn wir am Sarah Heyworth ac adferiad ei busnes yn dilyn y cyfnod clo.

Mae Sarah yn gyd-berchennog ar Graig Wen, safle llety aml-fath ger Dolgellau, sy’n cynnig gwely a brecwast, bythynnod a iwrthau i ymwelwyr.

Yn ystod y cyfnod clo, roedd Sarah yn ddiolchgar iawn i dderbyn cyllid grant gan Gyngor Gwynedd a hyfforddiant gan Superfast Business Wales – a pheth hyfforddiant glampio gan Sarah Riley – fel fod popeth yn barod i gychwyn unwaith fydd Cymru’n barod i agor i ymwelwyr unwaith eto. Mae hi hefyd wedi gallu gwasgu amser i mewn ar gyfer Cynllun Llysgennad y Parc Cenedlaethol, drwy wirfoddoli i gasglu sbwriel ar Cader Idris. (Darllen mwy).

 

Technoleg arloesol i godi refeniw yn ystod y cyfnodau clo yn dod â gwobr o fri i atyniad poblogaidd 

Mae un o atyniadau hynaf ardal Eryri Mynyddoedd a Môr wedi ennill un o wobrau’r diwydiant fel canlyniad i ddod o hyd i ffordd arloesol i godi incwm yn ystod cyfnod clo.

Roedd system gwe-gamerâu Reilffordd Talyllyn yn cael ei mwynhau gan 565,000 o wyliwyr ledled y byd – wedyn daeth y pandemig Covid-19, gan fygwth incwm y Rheilffordd.

Wedi eu hysbrydoli gan boblogrwydd y system gwe-gamerâu, datblygodd Rheilffordd Talyllyn wasanaeth tanysgrifio ar-lein cyhoeddus, sef Canolfan Reoli Talyllyn (CRT), gyda’r cyhoedd yn gallu tanysgrifio iddo am £5 y flwyddyn. Datblygwyd y system gan ddefnyddio arbenigedd mewnol fel rhan o brosiect meistr, mae gan y CRT 400 o danysgrifwyr o gwmpas y byd yn barod. (Darllen mwy).

 

Cofiwch gadw ar y blaen drwy gofrestru ar gyfer cylchlythyr cefnogi busnes y Cyngor a dilyn @BusnesGwynedd ar Twitter.