Kodergarten -

Cwmni arloesol yng Ngwynedd sy’n defnyddio systemau sy’n torri tir newydd i helpu busnesau bach, i wella cost-effeithlonrwydd awdurdodau lleol, sydd hefyd â’r potensial i achub bywydau.

Mae busnes yng Ngwynedd wedi ei greu a’i staffio gan gyn-weithwyr un o gwmnïau e-fasnach mwya’r wlad ar ddechrau’r 21ain ganrif yn gweithio ar nifer o brosiectau sy’n torri tir newydd yn y maes casglu a dadansoddi data ledled Cymru – gyda rhai ohonynt â’r potensial i achub bywydau.

Sefydlwyd Kodergarten gan Paul Sandham a thri cyn-gydweithiwr yn y Book People yn 2019 ac erbyn hyn mae’n cyflogi wyth aelod staff ac yn edrych i recriwtio pedwar arall. Mae’r cwmni’n cynhyrchu datrysiadau eithaf anhygoel a yrrir gan ddata – gyda nifer ohonynt wedi eu hariannu gan y sector gyhoeddus - ac fel canlyniad yn cael eu rhyddhau o dan drwydded ffynhonnell agored – er mwyn helpu busnesau, awdurdodau lleol ac unigolion mewn bob math o ffyrdd. 

Mae Siopio yn un datrysiad o’r fath. Mae’n wefan ‘porth’ siopa a lansiwyd mewn cydweithrediad â Menter Môn mewn ymateb i’r achosion Covid cychwynnol. Gan fod y cyfnod clo wedi gorfodi llawer o fusnesau bwyd a diod i gau eu drysau, y syniad oedd i alluogi cwsmeriaid i barhau i ddefnyddio’r busnesau hyn heb orfod ymweld â’u hadeiladau. Gall cwsmeriaid roi eu côd post i fewn i wefan Siopio i ddarganfod pa gynhyrchwyr bwyd a diod lleol all ddanfon iddynt hwy. 

Dywed Paul fod unrhyw wefannau o’r fath oedd yn bodoli eisioes wedi eu hanelu at farchnadoedd cenedlaethol neu hyd yn oed fyd-eang, ond ddim ar gyfer gwerthiannau lleol. “Doedd dim byd i gefnogi busnesau oedd ond am werthu yn lleol iawn”, meddai, “a dim byd i gefnogi’r busnesau hynny oedd yn mynd drwy’r broses o sefydlu e-fasnach.” 

Dyluniwyd Siopio felly i wneud gwerthu ar-lein yn llawer mwy hwylus ar gyfer cynhyrchwyr bwyd lleol oedd am ddanfon i’w hardal leol yn unig. Un busnes o’r fath oedd Becws Islyn, sydd wedi gwneud yn arbennig o dda ers ymuno â Siopio.

Mae Patrwm yn system Kodergarten arall, ac yn bwnc trafod astudiaeth achos arall yn y gyfres hon – sef y system y tu ô i’r fenter Trefi Smart ledled Cymru, sy’n galluogi busnesau i fesur eu niferoedd ymwelwyr, adegau prysuraf y diwrnod, y rhesymau dros ymweld â thref a bob math o ddata arall sydd yn gymorth i wneud penderfyniadau ynghylch rhywbeth o oriau agor siop i amserlenni staff. 

Un o’r pethau mwyaf cyffrous am Patrwm, yn ôl Paul, ydi ei fod â’r potensial i weithio gyda Siopio er mwyn i fusnesau allu gosod eu hyrwyddiadau yn Siopio ac wedyn cofnodi’r gwerthiannau yn y busnes gan ddefnyddio blwch syml gyda dim ond un botwm – “felly ar y diwedd rydych chi’n cau’r ddolen yn yr un modd â thrafodiad e-fasnach, felly gallwch fesur cymarebau trosi.”

Un o ddatrysiadau arbennig o arloesol Kodergarten, sydd â’r potensial i drawsnewid bywydau pobl, ydi’r system ‘cartref smart’ sy’n cael ei dreialu gan y darparwr tai cymdeithasol Adra ar hyn o bryd. Un o amcanion y system hon yw i helpu eu gofalwyr a’u perthnasau i adnabod os yw tenant bregus yn dangos arwyddion o ddatblygu Alzheimer’s cychwyniad cynnar. Gosodir nifer o synwyryddion cost-isel bychan sy’n gweithio â batri, sydd ddim yn ddibynnol ar wi-fi na 4G, yn yr eiddo gyda chaniatâd y trigolyn. Gall y synwyryddion helpu i dynnu sylw at arwyddion rhybudd, er enghraifft y tenant wedi anghofio cau eu drws ffrynt, yn ogystal â ffactorau eraill megis newidiadau i batrymau symud neu oleuadau sy’n bodoli eisioes.

“Y broblem sydd gan yr henoed a’u teuluoedd yw fod angen diagnosis er mwyn sicrhau cyllid ar gyfer eu hanghenion gofal uwch, all olygu y gall unigolion a theuluoedd ddisgwyl rhai misoedd o bwynt y diagnosis i dderbyn y cyllid ychwanegol. Mae eu helpu i ddod o hyd i ddiagnosis cynharach â’r potensial i leihau hyd y cyfnod trosiannol anodd hwn. 

“Nawr ein bod wedi cwblhau cam 1 yn llwyddiannus, rydym yn gobeithio cychwyn peilot mwy cam 2 yn yr haf, fyddai’n ein galluogi i ehangu hwn ar draws mwy o eiddo ac i wella galluoedd dadansoddi data’r system.”

Os byddwn yn canfod anghysondeb, gall y system yrru neges SMS i’r gofalydd mewn amser go iawn. Hefyd, gellir rhannu URL ar gyfer data’r tŷ gyda ffrindiau a pherthnasau ar gyfer monitro. Er nad yw’r data’n cynnwys unrhyw wybodaeth adnabod, mae perthnasau’n gwybod mai hwn yw’r tŷ cywir – ac, os oes angen, gellir diddymu mynediad i’r data’n ddigon syml drwy greu URL newydd.

Mae gan ddatrysiad arall gan Kodergarten y potensial i arbed symiau sylweddol o arian i awdurdodau lleol tra’n helpu i ddiogelu plant ysgol. 

Cafodd y system ddadansoddeg cludiant disgyblion ysgol sy’n cydymffurfio â GDPR, sy’n defnyddio dyfeisiau symudol generig i gofnodi mynediad plentyn i fws ysgol, ei sefydlu i ddechrau er mwyn helpu i adnabod os oedd plentyn wedi rhannu bws gyda chyfaill ysgol oedd yn bositif o ran Covid. 

Ond mae’r system yn gwneud cymaint mwy na hyn, oherwydd gall helpu rhieni, ysgolion ac adrannau addysg i ddeall os yw plentyn heb fynd ar y bws, sydd â goblygiadau ar gyfer gwella diogelwch plant.

Gall y system hefyd helpu awdurdodau lleol i reoli cyllidebau trafnidiaeth drwy adrodd ar faint o ddefnydd a wneir o’r gwasanaeth. Gall gwasanaeth bws ysgol unigol gostio hyd at £45-£60,000 y flwyddyn i awdurdod lleol. Eglurodd Paul, os oes llwybr a dim ond 29 o wahanol ddefnyddwyr ar gyfer y gwasanaeth, gall yr awdurdod lleol leihau’r capasiti o fws £40,000 y flwyddyn sydd â 45-sedd i fws £25,000 y flwyddyn gyda 30-sedd, neu gyfuno’r gwasanaeth gyda gwasanaeth arall sydd hefyd yn cael tan-ddefnydd. A chyda chyllidebau wedi dioddef torriadau hyd at 60% yn y pum i ddeng mlynedd diwethaf, mae’r system yn edrych yn barod i  helpu awdurdodau lleol i gyfarfod â heriau cyllido’r dyfodol. 

Gyda chymaint o brosiectau cyffrous eraill yn cael eu datblygu – megis eu meddalwedd amserlennu gwasanaethau bws sydd yn cael ei ehangu i weithredwyr ar draws Cymru, ac hefyd yn cael ei fabwysiadu ar gyfer ei ddefnyddio ar draws Lloegr gyfan yn ogystal â Chymru, a system fonitro lefel dŵr ar gyfer tanciau storio dŵr ar Enlli, yn ogystal â chynorthwyo trigolion yr ynys i sicrhau mynediad at fand llydan sydyn iawn – mae’n ymddangos fel fod dyddiau prysur i ddod i Kodergarten.