Technoleg a hyfforddiant yn helpu darparwr llety i baratoi i ailagor yn dilyn y cyfnod clo

“Angen yw mam pob dyfais”, ydi’r hen ddywediad. Mae hyn yn sicr yn wir am Sarah Heyworth ac adferiad ei busnes yn dilyn y cyfnod clo.

Mae Sarah yn gyd-berchennog ar Graig Wen, safle llety aml-fath ger Dolgellau, sy’n cynnig gwely a brecwast, bythynnod a iwrthau i ymwelwyr.

Yn ystod y cyfnod clo, roedd Sarah yn ddiolchgar iawn i dderbyn cyllid grant gan Gyngor Gwynedd a hyfforddiant gan Cyflymu Cymru i Fusnesau (Superfast Business Wales) – a pheth hyfforddiant glampio gan Sarah Riley – fel fod popeth yn barod i gychwyn unwaith fydd Cymru’n barod i agor i ymwelwyr unwaith eto. Mae hi hefyd wedi gallu gwasgu amser i mewn ar gyfer Cynllun Llysgennad y Parc Cenedlaethol, drwy wirfoddoli i gasglu sbwriel ar Cader Idris.

Mae’r amser wedi dod erbyn hyn i ddechrau croesawu ymwelwyr eto, yn y modd mwyaf diogel posib – felly mae Sarah wedi buddsoddi mewn technoleg fydd yn ei galluogi i wneud yn union hynny.

Mae Sarah wedi cofrestru gyda chwmni o’r enw Touchstay i greu arweinlyfrau rhithiol, wedi eu rhannu’n adrannau, i Sarah eu llenwi gydag unrhyw wybodaeth sy’n angenrheidiol ar gyfer dilyn y canllawiau Covid ac i helpu gwesteion i gael gwyliau i’w fwynhau yn Graig Wen.

Mae fersiwn ychydig yn wahanol o’r arweinlyfr i’r mathau gwahanol o lety yn Graig Wen, gyda gwesteion yn cael eu hannog i’w lawrlwytho ar eu ffonau mewn modd tebyg i ap. 

Mae’r arweinlyfrau’n cynnwys gwybodaeth sy’n amrywio o beth i’w ddisgwyl o ran y tywydd i sut i gysylltu i’r Wi-Fi sydd ar y safle, ynghyd â hanes y cwmni ac arweiniad manwl am y cyfyngiadau Covid sy’n weithredol ar y safle. Mae’r arweinlyfrau hefyd yn darparu manylion defnyddiol am yr ardal leol, megis mannau i gerdded, i fwyta ac i siopa, maent hyd yn oed yn galluogi’r gwesteion i archebu eu brecwast o flaen llaw.

“Mae mor ddefnyddiol,” meddai Sarah, “mae fel cael aelod staff ychwanegol! Cymerodd lawer o nosweithiau hwyr yn ystod y cyfnod clo cyntaf i gael yr arweinlyfrau’n barod ac yn weithredol ar gyfer ailagor, ond erbyn hyn gallaf eu diweddaru’n hawdd er mwyn eu haddasu i’r newidiadau ar lawr gwlad, gan hysbysu gwesteion yn sydyn ynghylch newidiadau yma, neu am lefydd newydd i fwyta.

“Un o’r pethau gorau amdano yw gallu rhannu rhai o’n hoff lefydd i gerdded neu i ymweld â hwy yn lleol sydd, efallai, ychydig yn fwy anghysbell. Mae hefyd wedi gweithio i annog pobl i ymweld eto, wrth i westeion weld faint yn fwy oedd ar gael i’w wneud yn lleol yma y llynedd ac archebu i ddychwelyd eto ac archwilio mwy.”

I weld gwefan Graig Wen, ewch i https://www.graigwen.co.uk os gwelwch yn dda.

 Camping-on-Graig-Wens-lower-felds3