Benthyciad busnes Cyngor Gwynedd yn galluogi ail-lansiad busnes lletygarwch hanesyddol yn Harlech

Gadawodd cyfnodau clo Covid-19 2020 a 2021 lawer o fusnesau mewn trafferthion, gyda llawer yn cau eu drysau am byth. Ond i un teulu, cynigiodd y pandemig gyfle iddynt, mewn ffordd anuniongyrchol, i ddechrau menter newydd sbon.

Bu Jason Way a’i deulu’n ddigon craff i sylweddoli, gan fod neb yn cael teithio dramor, fod Prydeinwyr yn treulio eu gwyliau gartref, ac roedd Eryri’n gweld cynnydd enfawr mewn twristiaeth rhwng y cyfnodau clo. Felly penderfynodd fynd amdani a phrynu tafarn a gwesty yn Harlech, prin 50 metr o’r castell. 

Dywedodd Jason, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes y Deyrnas Unedig i Assetz Capital ym Manceinion, eu bod, “yn chwilio am fusnes tafarn / gwesty teuluol i’w brynu yn ystod y pandemig Covid, ac roedd ffigyrau busnes twristiaeth Eryri yn uchel ac yn parhau i godi.”

Nid oedd yn anodd iawn dod o hyd i’r busnes iawn i’w brynu, yn ôl Jason: “Mae gan Wynedd gynllun datblygu strategol ar gyfer Harlech ac maent eisiau denu mwy o lety gwesty a chyfleusterau ar gyfer ymwelwyr.”

Mae’r adeilad brynodd Jason – Harlech House – yn 150 mlwydd oed, a’r unig dafarn / gwesty yn Harlech Uchaf. Roedd wedi bod ar gau ers chwe mlynedd, ar ôl bod yn eiddo i Enterprise Inns yn flaenorol.

Mae’n ymddangos yn gam mawr i fancwr o’r ddinas i agor gwesty yn Eryri. Ond mae gan Jason brofiad yn y diwydiant, wedi iddo fod yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer busnes hamdden mawr yn y Deyrnas Unedig, yn gweithio yn y maes bwyd a diod. Mae ef a’i deulu hefyd wedi bod yn berchen ar nifer o fusnesau arlwyo a bwytai teuluol yn ne ddwyrain Cymru.

Byddai angen cyllid i ddechrau’r busnes, er mwyn i Jason a’i wraig, a’i fab Josh allu dechrau adnewyddu’r adeilad a’i baratoi ar gyfer ei agor. Dyna ble roedd Cyngor Gwynedd yn gallu camu i mewn i’w helpu – drwy ddarparu benthyciad sylweddol drwy’r Gronfa Benthyciada Canol Tref.

Er fod yr hanner hwnnw o’r busnes sy’n dafarn wedi agor i’r cyhoedd ar 7 Hydref, ni fydd yr ochr lletya – fydd yn cynnwys podiau glampio yn yr ardd gefn – yn agored yn llawn tan wanwyn 2023. Mae’r benthyciad wedi bod yn help mawr i ariannu’r gwaith adnewyddu, i ddodrefnu ac i staffio’r busnes newydd.

Pan ofynwyd iddo am ei gynlluniau ar gyfer y busnes i’r dyfodol, dywedodd Jason y “bydd yn fenter eithaf syml, ond o safon, gyda thafarn fydd â phwyslais ar werthu diodydd, sy’n gwerthu cwrw crefft a gwinoedd, tra’n cynnig llety y mae gwir angen amdano a chyflogaeth drwy gydol y flwyddyn ar gyfer Harlech.”

Ac mae’n amlwg nad yw Jason a’i deulu’n canolbwyntio ar dwristiaid yn unig – mae‘n awyddus i nodi, oherwydd lleoliad gwych a chanolog Harlech House yn Harlech Uchaf, y bydd y busnes hefyd yn diwallu anghenion pobl leol, sydd eisioes yn mwynhau cael gofod cymdeithasol newydd a chain i’w fwynhau drwy gydol y flwyddyn, a hynny yng nghalon eu cymuned.

Dilynwch Harlech House ar Facebook

Pwrpas y benthyciad yw gwella’r eiddo ar gyfer perchnogaeth barhaol, i’w werthu, i’w osod, neu i wneud defnydd o safle gwag. Gall gwelliannau gynnwys gwneud eiddo preswyl yn saff, yn gynnes a / neu ei ddiogelu.