Mae'r gronfa yma ar gau i geisiadau newydd.
Cefndir
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) wedi darparu buddsoddiad sylweddol mewn cymunedau, busnesau a phobl ledled Gwynedd rhwng 2022 a 2026, gyda Cyngor Gwynedd a’i bartneriaid yn adnabod ac yn cydweithio â chymunedau, busnesau a sefydliadau ar draws y sir i wneud y mwyaf o fuddsoddiad gwerth £24.4 miliwn yn ystod 2022-25 a £7.9 miliwn yn ystod 2025-26.
Yn ystod 2022-25, cefnogwyd 40 o brosiectau strategol ynghyd â nifer o gronfeydd cefnogi ar gyfer cymunedau, busnesau a'r sector gwirfoddol. Yn 2025-26, fe wnaeth y buddsoddiad adeiladu ar lwyddiant y cyfnod cyntaf drwy barhau â nifer o gynlluniau llwyddiannus ac ehangu eu heffaith ar draws y sir.
Roedd tair blaenoriaeth allweddol i’r Gronfa:
- Cymunedau a Lle (Cymunedau, Iach Diogel a Chynhwysol / Lleoedd Sy’n Ffynnu)
Cyfanswm buddsoddiad £15,461,270 - Cefnogi Busnesau Lleol (Cymorth i Fusnesau)
Cyfanswm buddsoddiad £8,532,997 - Pobl a Sgiliau (Cyflogadwyedd)
Cyfanswm buddsoddiad £7,305,474
Buddion i bobl Gwynedd
Mae'r buddsoddiad hwn wedi helpu i gryfhau cymunedau, cefnogi busnesau lleol, gwella sgiliau a chyfleoedd gwaith, a chynyddu balchder mewn lle ledled Gwynedd.
- 2,280 o gyfleoedd gwirfoddol wedi’u cefnogi
- 1,193 o ddigwyddiadau a gweithgareddau lleol wedi’u cefnogi
- 112 o gyfleusterau wedi eu hadeiladu o’r newydd neu wedi eu gwella
- 582 o gartrefi wedi derbyn gwelliannau effeithlonrwydd ynni
- 190 o swyddi wedi eu creu o’r newydd
- 273 o swyddi oedd mewn perygl wedi eu diogelu
- 41 tunnell o ostyngiad cyfatebol mewn CO2
Mae’r Ffilm Dathlu Llwyddiant (yn agor mewn tab newydd) yn dangos rhai o’r 40 o brosiectau gafodd arian yn ystod cyfnod 2022-25 y Gronfa. Gallwch ddarllen hanes y gwahaniaeth mae’r prosiectau wedi ei wneud i bobl a chymunedau Gwynedd hefyd yn y llyfryn Dathlu Llwyddiant Cronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd
Mae mwy o wybodaeth am fuddion ac effaith y prosiectau i’w cael yn yr astudiaethau achos yma:
Astudiaethau Achos Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)
Prosiectau 2025-26 Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd
Buddsoddiadau fesul ardal
Roedd sawl prosiect yn fuddsoddiad mewn gwasanaethau sirol, ond hefyd roedd buddsoddiadau mewn lleoliadau penodol. Mae'r mapiau isod yn dangos dosbarthiad daearyddol y buddsoddiad ar draws y sir. Er bod lefel y buddsoddiad yn amrywio rhwng ardaloedd, mae'r cyllid wedi cyrraedd cymunedau ym mhob rhan o Wynedd drwy gyfuniad o brosiectau lleol, rhaglenni sir gyfan a chronfeydd grant cymunedol.
Yn ystod rhaglen y Gronfa, fe gafodd 557 o grantiau eu dyrannu.
Nifer y grantiau fesul ardal

| Ardal Adfywio | Nifer o grantiau |
| Bangor | 48 |
| Dyffryn Ogwen | 24 |
| Bro Peris | 41 |
| Caernarfon | 64 |
| Bro Lleu / Nantlle | 37 |
| Pen Llŷn | 37 |
| Pwllheli | 54 |
| Porthmadog / Penrhyndeudraeth | 46 |
| Bro Ffestiniog | 31 |
| Bro Ardudwy | 36 |
| Bala / Penllyn | 35 |
| Dolgellau | 32 |
| Tywyn & Bro Dysynni | 28 |
Cyfanswm y grantiau fesul ardal

| Ardal Adfywio | Cyfanswm grantiau |
| Bangor | £1,448,185 |
| Dyffryn Ogwen | £ 316,517 |
| Bro Peris | £1,137,985 |
| Caernarfon | £1,425,022 |
| Bro Lleu / Nantlle | £1,626,410 |
| Pen Llŷn | £ 842,455 |
| Pwllheli | £2,224,957 |
| Porthmadog / Penrhyndeudraeth | £ 891,722 |
| Bro Ffestiniog | £ 715,438 |
| Bro Ardudwy | £ 641,781 |
| Bala / Penllyn | £ 601,556 |
| Dolgellau | £ 458,504 |
| Tywyn & Bro Dysynni | £ 876,944 |
Cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: FfyniantBroDU@gwynedd.llyw.cymru
I ddysgu mwy am y Gronfa Ffyniant Gyffredin yng Ngogledd Cymru ymwelwch â: Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru (yn agor mewn tab newydd)
