Mae’r gronfa yma bellach wedi ymrwymo yn llawn.
Rydym yn falch o allu adrodd fod pob cais bellach wedi ei asesu.
I glywed am unrhyw gyfleoedd ariannu yn y dyfodol, tanysgrifiwch i'r Bwletin Cymorth Busnes (yn agor mewn tab newydd)

Mae Cronfa Grant Gwydnwch Busnes Gwynedd yn cynnig cymorth ariannol rhwng £2,500 a £15,000. Pwrpas y grant yw helpu busnesau lleol i weithredu gweithgareddau sy'n cryfhau eu gwydnwch ac yn hybu addasrwydd hirdymor.

Mae'r gronfa hon yn gystadleuol, a bydd yn cael ei hasesu mewn rowndiau ymgeisio. Bydd pob cais yn cael ei werthuso yn seiliedig ar ansawdd y prosiect, perthnasedd ac effaith bosibl.

Mae'r gronfa yn cael ei hariannu'n rhannol drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU: Gwynedd.

Fel rhan o'n hymgyrch barhaus Gwrando a Gweithredu, cyflwynodd Busnes@Gwynedd dwy rownd o sesiynau cymorth i helpu ymgeiswyr. Bwriad y sesiynau yma oedd i:

  • Ddatblygu neu feithrin eich Cynllun Prosiect
  • Ddeall beth sy'n gwneud cais cryf
  • Nodi'r dogfennau a'r wybodaeth gywir i'w cynnwys

Canllawiau ymgeisio

Gwneud cais

Mae'r gronfa yma bellach ar gau.

Canllaw gwneud cais

Canllaw sgorio

Mae grantiau Cronfa Gwydnwch Busnes Gwynedd yn cael eu dosrannu ar sail gystadleuol. Dim ond y ceisiadau sydd yn sgorio uchaf fydd yn cael eu cefnogi.

Dwi wedi derbyn cynnig grant, beth nesaf?

Wrth dderbyn y cynnig, rydych yn ymrwymo i gadw at y Telerau ac Amodau islaw. Darllenwch y telerau yn ofalus a sicrhewch eich bod yn eu deall cyn cytuno i dderbyn y grant.

Gweld y telerau ac amodau (yn agor mewn tab newydd)

Ffurflenni Pwysig

Cysylltu â ni

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni: