Fel rhan o raglen Ffyniant Cyffredin DU, mae arian wedi ei glustnodi ar gyfer sir Gwynedd gyda peth o’r arian wedi ei ymrwymo ar gyfer sefydlu cronfa ar gyfer cefnogi prosiectau yn y maes Adfywio Cymunedau.
Mi rydym yn gwahodd ceisiadau gan sefydliadau nid-er-elw (ond sy’n cynnwys mentrau cymdeithasol) i Gronfa Cefnogi Adfywio Cymunedau gan brosiectau fydd yn cyfrannu at adfywiad cymunedau Gwynedd.
Nod y gronfa yw darparu cefnogaeth ddwys i gefnogi grwpiau newydd a chynnar mewn ardaloedd â chapasiti cymunedol isel drwy ariannu cynlluniau fydd yn dod a budd uniongyrchol. Bydd y cynlluniau yn rhai sydd wedi eu hadnabod fel blaenoriaethau yng nghynlluniau gweithredu lleol ‘Ardal Ni’ ac bydd y gronfa yn hwyluso partneriaethau lleol a ysgogi cydweithio mewn ardaloedd lle nad ydi hyn yn digwydd i adeiladu ar y gwaith cynllunio adfywio lleol.
Mae’r Gronfa’n cynnig grantiau sy’n adlewyrchu amcanion a thargedau Cynllun y Cyngor a chynlluniau adfywio lleol Ardal Ni
Gellir ariannu prosiectau sydd yn gallu cyflawni erbyn Ionawr 31ain, 2026.
Canllawiau
Disgwylir i brosiectau:
Annog cymunedau i gymryd rôl mwy rhagweithiol yn eu hardaloedd
Hybu buddsoddiad a datblygiad yr economi leol
Gwella lleoliadau sy’n bwysig i gymunedau
Cynyddu cyfleoedd gwaith, datblygiad sgiliau ymhlith unigolion o fewn cymunedau a hybu cyfle cyfartal i bawb
Cyfrannu tuag at ddatblygiad cynlluniau gweithredu ‘Ardal Ni
Sefydliad gwirfoddol neu gymunedol anghofrestredig (ond gyda Cyfansoddiad)
Cwmni Di-elw
Elusen Cofrestredig
Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO neu SCIO)
Cwmni Buddiannau Cymunedol (CIC)
Corff statudol (Cynghorau Cymuned)
Ni allwn ariannu ceisiadau gan unigolion
Offer neu welliannau i warchod asedau cymunedol
Prosiectau i ddarparu a/neu wella gwasanaethau newydd
Prosiectau gwella amgylchedd lleol
Cynllun Busnes
Asesiad Dichonoldeb
Ffioedd proffesiynol
Sylwer mai enghreifftiau yn unig yw’r rhestr uchod.
Costau cynnal a chadw offer ac adeiladau
Costau cynnal gweithgareddau sydd eisoes yn bodoli
Cyflogau swyddi
Gweithgareddau sy’n cael eu cynnal y tu allan i ffiniau Gwynedd
Ceisiadau gan unigolion neu geisiadau gan gwmnïau er elw i’w ddosbarthu i aelodau ac eithrio mentrau cymdeithasol)
Ni fydd yn bosib ariannu unrhyw weithgaredd sydd wedi cychwyn cyn bydd llythyr cynnig wedi ei arwyddo a’i ddychwelyd i swyddogion Cyngor Gwynedd
Sylwer mai enghreifftiau yn unig yw’r rhestr uchod.
Bydd y broses ddethol prosiectau i’w cefnogi yn gystadleuol a disgwylir i ymgeiswyr gwblhau pob cwestiwn gan ddilyn y canllawiau manwl.
Ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried am gefnogaeth gan y gronfa.
Ni fyddwn yn cysylltu gyda chi i ofyn am fanylion pellach
Bydd panel yn sgorio ceisiadau ar sail yr hyn sydd wedi ei gyflwyno yn y ffurflen gais.
Bydd sicrhau dosbarthiad yr arian grant ar draws 13 ardal adfywio Gwynedd yn ystyriaeth flaenllaw wrth ddethol prosiectau i’w cefnogiBydd cefnogi gweithgareddau a sefydliadau NAD ydynt wedi cael cymorth ariannol yn flaenorol trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn flaenllaw wrth ddethol prosiectau i’w cefnogi.
Gwneud cais
Mae'r gronfa yma ar gau i ymgeisiadau newydd.
Byddwn yn anelu i asesu a chymeradwyo ceisiadau erbyn 27 Mehefin, 2025
Mi fydd yn rhaid i bob prosiect cwblhau erbyn 31 Ionawr, 2026
Canllawiau gwahodd, derbyn ac agor dyfynbrisiau
Gwahodd Dyfynbrisiau
Nid oes angen dyfynbrisiau cystadleuol ar gyfer contractau gyda gwerth amcan-gyfrifedig o lai na £5,000. Dylid cael dyfynbris ar bapur gan y Cyflenwr. Bydd yn cynnwys manylion y gwasanaethau, cyflenwadau neu waith i’w darparu ac yn gosod pris a thelerau taliadau.
1. Cyn i'r gwaith gychwyn
Paratoi amcangyfrif o bris y gwaith i sicrhau dyfynbris rhesymol. (Awgrym:Cydweithio gyda arbenigwr yn y maes i sicrhau fod y broses cyfalaf â’rrhaglenni gwaith yn gywir a chyflawn.
Os yw’r grŵp yn cyflogi rheolwr i’r cynllun bydd rhaid dangos tri pris neu gyfiawnhad digonol dros y dewis.
Dethol cwmnïau sydd yn dechnegol addas ar gyfer cyflawni’r gwaith.
2. Gwahodd dyfynbrisiau
Anfon manylion llawn a chyson i'r holl gontractwyr (o leiaf 3) ar yr u dyddiad.
Dogfennau ynghlwm â'r gwahoddiadau:
Briff o'r gwaith
Cais am ddyfynbris
Dyddiad ac amser cau
Amlen (dewisol) - rhaid i amlenni dyfynbrisiau nodi eu bod yn cynnwys dyfynbris
Tystysgrif atal twyll (ar gael gan Uwch Swyddog Cist Gwynedd)
3. Newid i'r dyfynbrisiau
Os oes unrhyw newid yn y broses neu’r cynllun, rhaid i’r holl gontractwyr gael eu hysbysu yn ysgrifenedig.
4. Derbyn dyfynbrisiau
I’w derbyn yn yr amlenni penodol erbyn y dyddiad a’r amser penodedig.
5. Agor dyfynbrisiau
Agor cyn gynted ag y bo modd wedi'r dyddiad ac amser cau.
O leiaf dau aelod o'r grŵp i'w hagor a chofnodi enwau, dyddiad ac amser agor ar y dyfynbrisiau.
Sicrhau fod y dyfynbrisiau yn gywir yn unol a'r briff a roddwyd. Ni ddylid gwneud newidiadau na ychwanegiadau anawdurdodedig i'r dogfennau.
Cadw'r amlenni
Gellir ffurfioli proses agos dyfynbrisiau gyda ffurflen derbyn tendrau, ffurflen ar gael gan Uwch Swyddog Cist Gwynedd.
6. Dyfynbrisiau hwyr
Dim i dderbyn y dyfynbrisiau hwyr.
7. Cofnodi dyfynbrisiau
Cofnodi a chadw tystiolaeth o’r drefn wahodd, newidiadau, derbyn ac agor y dyfynbrisiau ac unrhyw ddogfennaeth eraill i gefnogi y penderfyniad.
Ar gyfer cynlluniau sydd a'u gwerth yn uwch na £50,000, bydd angen dilyn Rheolau Sefydlog Parthed Contractau Cyngor Gwynedd. Cysylltwch ag Uwch Swyddog Cist Gwynedd.
Ceisiadau llwyddiannus
Gweler isod y prosiectau llwyddiannus sydd wedi buddiannau drwy’r gronfa yn ystod 2025/26:
Arfon
Nantporth CIC
Partneriaeth Ogwen
Pwyllgor Pentra Deiniolen
Llety Arall
Theatr Bara Caws
Antur Nantlle Cyf
Dwyfor
Y Ganolfan Porthmadog
Canolfan Pentrefelin
Menter y Tŵr
Menter Rabar
Meirionnydd
Clwb Rygbi Bro Ffestiniog
Deudraeth Cyf
Cwmni Pum Plwyf Penllyn
Neuadd Bentref Llanfachreth
Meithrinfa Seren Fach
Clwb Hoci Dysynni
Cysylltu â ni
Cyn cyflwyno eich cais, rydym yn eich annog i gysylltu â’ch Swyddog Cefnogi Cymunedau Lleol i drafod eich syniadau ac i dderbyn cymorth pellach i benderfynu beth sy’n gymwys ar gyfer eich cynllun.