Mae Cyngor Gwynedd yn falch o wahodd sefydliadau nid-er-elw (ond sy’n cynnwys mentrau cymdeithasol â threfnwyr digwyddiadau) i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb i gefnogi prosiectau a gweithgareddau drwy Gronfa Diwyllesiant.
Mae'r gronfa ar gau i geisiadau newydd.
Beth ydi pwrpas y Gronfa Diwyllesiant?
“Cefnogi budd a lles i gymunedau, amgylchedd a busnesau Gwynedd trwy weithgareddau diwylliannol (celfyddydau a threftadaeth), hamdden (chwaraeon, actif, iechyd a lles) ac economi ymweld cynaliadwy (digwyddiadau)."
Yn ategol ir uchod bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i:
Gefnogi gweithgareddau newydd neu allu sefydliadau i ddarparu gwasanaethau newydd / neu ddenu cynulleidfa a buddiolwyr newydd.
Gefnogi gweithgareddau ar draws Gwynedd. Bydd ystyriaeth yn cael ei wneud i sicrhau bod y gronfa yn cyrraedd Gwynedd gyfan.
Beth sydd ar gael?
Mae'r Gronfa yn cynnig grantiau cyfalaf a/neu refeniw rhwng £1,000 a £7,000.00.
Mae'n gallu ariannu prosiectau / digwyddiadau sydd yn digwydd rhwng Ebrill 1 2025 a Ionawr 31 2026.
Mwy o wybodaeth
Disgwylir i brosiectau;
Gefnogi pobl Gwynedd i gael mynediad at, mwynhau a phrofi’r celfyddydau.
Wella ymgysylltiad cymunedol i bawb gyda’n treftadaeth a’n diwylliant gyfoethog.
Greu cyfleoedd ychwanegol/newydd i fod yn gorfforol actif mewn chwaraeon neu weithgareddau ffitrwydd a llesiant.
Cyfrannu at wella lles pobl Gwynedd - prosiectau actif, celfyddydol neu diwylliannol.
Gefnogi digwyddiadau newydd neu gyfrannu at gynaladwyedd digwyddiad sy’n bodoli yn barod.
Cyfrannu at gynaladwyedd mudiadau sydd yn darparu y cyfleoedd uchod yn y meysydd uchod.
Cyfrannu at weithgareddau newydd neu allu sefydliadau i ddarparu gwasanaethau newydd / neu ddenu cynulleidfa a buddiolwyr newydd.
Bydd yn rhaid i bob gweithgaredd fod wedi cwblhau erbyn Ionawr 31 2026.
Pryniant offer e.e. offer chwaraeon, offer i gefnogi gweithgareddau diwylliannol neu gynnal digwyddiadau
Cynnal gweithgareddau/brosiectau newydd
Costau swyddi newydd
Gweithgareddau e.e. marchnata, costau ymgynghori, datblygu rhaglen neu gynulleidfa newydd
Cynnal digwyddiadau / dathliadau
Sylwer mae enghreifftiau yn unig yw’r rhestr uchod, ac rydym yn eich hannog i gael golwg manwl ar y tabl ymyrraeth ac allbynnau ar y ddogfen canllaw manwl, sydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y mathau o brosiectau gall y gronfa hon ariannu.
Costau cynnal a chadw e.e. offer ac adeiladau
Costau cynnal gweithgareddau/prosiectau sydd eisoes yn bodoli
Costau swyddi sydd eisoes yn bodoli
Gweithgareddau/prosiectau sy’n cael eu cynnal y tu allan i ffiniau Gwynedd
Costau craidd sefydliadau / mudiadau
Sylwer mae enghreifftiau yn unig yw’r rhestr uchod, ac rydym yn eich hannog i gael golwg manwl ar y tabl ymyrraeth ac allbynnau ar y ddogfen canllaw manwl, sydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y mathau o brosiectau gall y gronfa hon ariannu.
Bydd y broses ddethol prosiectau i’w cefnogi yn gystadleuol a disgwylir i ymgeiswyr gwblhau pob cwestiwn gan ddilyn y canllawiau manwl.
Ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried am gefnogaeth y gronfa.
Bydd panel yn sgorio ceisiadau ar sail yr hyn sydd wedi ei gyflwyno yn y ffurflen gais.
Gwneud cais
Mae'r gronfa ar gau i geisiadau newydd.
Byddwn yn ceisio anfon llythyrau cynnig i geisiadau llwyddiannus cyn gynted a phosib ar ôl wythnos y 26 Mai 2025.
Bydd yn rhaid i bob gweithgaredd fod wedi cwblhau erbyn Ionawr 31 2026.
Cyflwyno'r cais
Mae’n bwysig eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau yn ofalus ac yn sicrhau bod eich cynllun yn ymateb i’r canllawiau a meini prawf.
Cyn cyflwyno eich cais, rydym yn eich annog i gysylltu â’ch Swyddog Cefnogi Cymunedau Lleol ac/neu swyddog yn y maes penodol yr ydych yn dymuno ymgeisio ynddo i drafod eich syniadau ac i dderbyn cymorth pellach i benderfynu beth sy’n gymwys ar gyfer eich cynllun.