Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd

Newyddion diweddaraf: Awst 2025

Bydd 14 o brosiectau yn derbyn arian o’r £7.9miliwn mae Gwynedd yn ei dderbyn o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) ar gyfer y flwyddyn 2025-2026. Bydd hyn yn golygu fod  gwasanaethau, gweithgareddau a chyfleoedd newydd yn parhau i gael eu cynnig i gymunedau a mentrau’r sir.

Mae’r Ffilm Dathlu Llwyddiant yn dangos rhai o’r 40 o brosiectau gafodd arian yn ystod cyfnod 2022-25 y Gronfa. Gallwch ddarllen hanes y gwahaniaeth mae’r prosiectau wedi ei wneud i bobl a chymunedau Gwynedd hefyd yn y llyfryn Dathlu Llwyddiant Cronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd

Close

 

Ers 2022, mae Cyngor Gwynedd gyda’i bartneriaid wedi adnabod a chydweithio â chymunedau, busnesau a sefydliadau ar draws y sir i wneud y mwyaf o fuddsoddiad gwerth £24.4 miliwn o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DG (UKSPF). 

 

Dyma rai o’r buddion i Wynedd o’r prosiectau hyd yn hyn:

  • 1882 o gyfleoedd gwirfoddol wedi eu cefnogi
  • 1033 o ddigwyddiadau a gweithgareddau lleol wedi eu cefnogi
  • 64 o gyfleusterau wedi eu hadeiladu o’r newydd neu wedi eu gwella
  • 335 o gartrefi wedi cael gwelliannau effeithlonrwydd ynni
  • 131 o swyddi wedi eu creu o’r newydd
  • 216 o swyddi oedd mewn perygl wedi eu diogelu
  • 41 tunnell o ostyngiad cyfatebol mewn CO2

Roedd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn biler canolog o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU rhwng 2022 – 2025 a ddarparodd £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol ledled y DU erbyn mis Mawrth 2025.

Nod cyffredinol y Gronfa oedd meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd

Roedd UKSPF yn cyflawni hyn drwy dair blaenoriaeth fuddsoddi:

  • Cymuned a Lle;
  • Cefnogi Busnesau Lleol; a,
  • Pobl a Sgiliau (gan gynnwys rhifedd oedolion (Lluosi)

Mae Prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r Gronfa, ac mae dogfennaeth pellach gan Llywodraeth y DU ar gael yma: Dogfennaeth Ffyniant Bro a Buddsoddiadau Cymunedol.

Cyhoeddodd Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU bod cyfanswm o £900 miliwn arall o gyllid ar gyfer ei fuddsoddi’n lleol o Ebrill 2025 tan fis Mawrth 2026.  Ar gyfer 2025-26 mae’r blaenoriaethau buddsoddi wedi eu addasu i gyd-fynd â phum thema wedi eu harwain gan Genadaethau genedlaethol Llywodraeth y DU:

  • Cymunedau Iach, Diogel a Chynhwysol
  • Lleoedd sy’n Ffynnu
  • Cymorth i Fusnesau
  • Cyflogadwyedd
  • Sgiliau
Mae gwybodaeth am y diweddariad allweddol i’r Gronfa i’w gael yma:
Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025-26

Cyflawni’r Gronfa yng Ngwynedd 2022-25

Derbyniodd pob rhan o’r DU gyllid o’r Gronfa yn 2022-25, gyda £126.46 miliwn wedi'i ddyrannu i Ranbarth Gogledd Cymru sy’n cynnwys y siroedd Wrecsam, Fflint, Dinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.  

Y dyraniad ar gyfer Gwynedd oedd £24,423,747, gyda £2,942,620 o'r cyfanswm wedi ei warchod i gefnogi prosiect rhifedd oedolion (y rhaglen Lluosi).

Er mwyn lleihau costau a chymhlethdod, roedd Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru yn gweithio gyda'u gilydd i weinyddu’r Gronfa.  Fodd bynnag, Cyngor Gwynedd oedd yn penderfynu pa brosiectau dderbyniodd arian yng Ngwynedd gyda chyngor partneriaeth rhanddeiliaid lleol.

Yn ystod Ionawr a Chwefror 2023 roedd cyfle i unrhyw sefydliad yn dymuno cael dros £250,000 o arian SPF gyflwyno cais amlinellol.  Yng Ngwynedd derbyniwyd 114 o geisiadau gan gynlluniau yn gofyn am dros £51 miliwn o arian SPF. Ar sail asesiad o’r ceisiadau, a sylwadau Grŵp Ymgynghorol Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd, ym mis Mai 2023 dewisodd Cyngor Gwynedd wahodd 47 o gynlluniau i gyflwyno cais manwl am arian.

Yn dilyn derbyn ac asesu’r ceisiadau manwl yn drylwyr,  ar 20 Gorffennaf, 2023 cytunodd Cabinet Cyngor Gwynedd gynnig £21.96 miliwn o arian SPF Gwynedd i 39 cynllun

Gweld Rhaglen y Cabinet

 

Cyflawni yn ystod y flwyddyn bontio 2025-26

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi eu bod am ymestyn y Gronfa tan 31 Mawrth 2026. Nod yr estyniad yw pontio o’r rhaglen UKSPF sydd eisoes yn bodoli i raglen ariannu newydd yn y dyfodol. 

Bydd rhanbarth Gogledd Cymru yn derbyn £42.4 miliwn ychwanegol ar gyfer 2025-26, gyda £7.9 miliwn ohono wedi ei glustnodi i brosiectau yng Ngwynedd.

Er mwyn gallu gweithredu yn gyflym ac yn effeithiol yn ystod y flwyddyn bontio, mae Cyngor Gwynedd wedi comisiynu prosiectau fydd yn datblygu gwasanaethau a gweithgareddau a fu’n llwyddiannus yn ystod y cyfnod blaenorol.

Bydd y Cronfeydd Cefnogi yn parhau i gefnogi prosiectau llai gan fentrau a grwpiau cymunedol yng Ngwynedd gydag arian ychwanegol y Gronfa Ffyniant Gyffredinol (UKSPF).

Fe wnaeth Cyngor Gwynedd, gyda help partneriaid lleol, ddewis 40 prosiect o bob cwr o Wynedd i dderbyn arian yn uniongyrchol o’r £24.4 miliwn gafodd y sir o Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) y DG.

Mae’r gronfa wedi ariannu prosiectau sylweddol ac amrywiol yn uniongyrchol, ar draws nifer o sectorau a chyda partneriaid ar hyd a lled Gwynedd.  Gallwch ddarllen hanes llwyddiant y prosiectau, a’r gwahaniaeth mae hyn wedi ei wneud i bobl a chymunedau Gwynedd yn y llyfryn yma

 

Roedd tri maes blaenoriaeth i’r Gronfa, sef:

Cymunedau a lle - £10.94 miliwn

Cefnogi prosiectau i wella llefydd cyhoeddus, datblygu seilwaith lleol a chryfhau gwasanaethau cymunedol.

Cefnogi busnes lleol - £6.73 miliwn

Buddsoddi mewn busnesau i’w helpu nhw i dyfu, cynyddu cynhyrchiant a chreu swyddi newydd.

Pobl a sgiliau – £5.45 miliwn

Creu cyfleoedd i bobl ddatblygu sgiliau newydd, gan wella eu siawns o gael gwaith.

 

Nid dim ond prosiectau mawr sydd wedi derbyn cefnogaeth. Yn ogystal â chefnogi prosiectau mawr yn uniongyrchol, sefydlwyd nifer o gronfeydd gan Cyngor Gwynedd i gefnogi prosiectau llai gan fentrau a chymunedau.

Cronfa Cefnogi Adfywio Cymunedau: £1.8 miliwn
Cronfa Cefnogi Sector Wirfoddol: £1.5 miliwn
Cronfeydd Cefnogi Busnes: £1.8 miliwn
Cronfeydd Cefnogi Diwylliant, Digwyddiadau, Byw’n Iach ac Actif: £850k

 Gellir darllen manylion pob prosiect o dan tri blaenoriaeth yr SPF isod:

 

Prosiectau 2025-26 Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd

Mae pum thema wedi eu harwain gan Genadaethau genedlaethol Llywodraeth y DU:

  • Cymunedau Iach, Diogel a Chynhwysol
  • Lleoedd sy’n Ffynnu
  • Cymorth i Fusnesau
  • Cyflogadwyedd
  • Sgiliau

Canol Trefi – Gwynedd Ni 

  • Corff sy’n arwain : Cyngor Gwynedd 
  • Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £1,278,000
  • Crynodeb o’r prosiect: Gweithgaredd yn dilyn ymlaen o weithgareddau a ariannwyd gan SPF yn flaenorol gyda phecyn cynhwysfawr o gymorth i wella edrychiad, cyfleusterau a bwrlwm trefi a phentrefi Gwynedd, gan gynnig cefnogaeth i holl gymunedau’r Sir.    Pecynnau gwaith o fewn trefi a cymunedau ledled y sir gyda chyllideb unigol i bob Cyngor Tref a Chymuned yng Ngwynedd i ymateb i flaenoriaethau lleol. 


Cefnogi Adfywio Cymunedau Gwynedd Ni

  • Corff sy’n arwain : Cyngor Gwynedd 
  • Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £901,000
  • Crynodeb o’r prosiect: Cyfuniad a datblygiad o gynlluniau blaenorol sy’n cynnwys gweithgaredd sy’n cael ei ddarparu gan Menter Môn.   Bydd y cynllun yn cynnwys cronfa sylweddol i gefnogi prosiectau gan fentrau a grwpiau adfywio cymunedol, ac hefyd yn cynnwys cefnogaeth i ddatblygu a sefydlu grwpiau cymunedol newydd.
  • Mwy o wybodaeth: Cronfa Cefnogi Adfywio Cymunedau

 

Cefnogaeth i Fentrau Gwynedd

  • Corff sy’n arwain : Cyngor Gwynedd 
  • Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £740,000
  • Crynodeb o’r prosiect: Bydd y cynllun yn ymgysylltu gyda mentrau bach a chanolig lleol i hyrwyddo’r cymorth a chyngor sydd ar gael gan y Cyngor ac eraill; yn cynyddu dealltwriaeth y darparwyr cymorth o anghenion mentrau Gwynedd, ac yn darparu cefnogaeth ariannol i fentrau lleol i dyfu a ffynnu.O dan adain y cynllun bydd y Cyngor hefyd yn dod a darparwyr cymorth y sir at ei gilydd i gydlynu a chyfuno eu cynigion i fentrau Gwynedd.
  • Mwy o wybodaeth: Grant Gwydnwch Busnes Gwynedd

 

Cronfa Sector Wirfoddol Gwynedd

  • Corff sy’n arwain : Mantell Gwynedd
  • Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £650,000
  • Crynodeb o’r prosiect: Cronfa i gefnogi grwpiau a mudiadau gwirfoddol i gyflawni gweithgareddau sy’n cryfhau'r ymdeimlad o falchder lleol a chymunedau iach.
  • Mwy o wybodaeth: Mantell Gwynedd

 

Diwyllesiant

  • Corff sy’n arwain : Cyngor Gwynedd 
  • Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £988,000
  • Crynodeb o’r prosiect: Cyfuniad a datblygiad o gynlluniau blaenorol sy’n cynnwys gweithgaredd yn cael ei ddarparu gan Eco-amgueddfa Llŷn (Prifysgol Bangor) a Beics Antur (Antur Waunfawr). Bydd y cynllun yn cefnogi budd a lles cymunedau, yr amgylchedd, a mentrau yng Ngwynedd trwy ddiwylliant, hamdden ac economi ymweld cynaliadwy, ac yn cynnwys cronfa i gefnogi prosiectau yn y meysydd hyn.

Mwy o wybodaeth am y gronfa: Cronfa Diwyllesiant

Mwy o wybodaeth am weithgareddau:

 

Gwydnwch Cymunedol Gwynedd

  • Corff sy’n arwain : Cyngor Gwynedd 
  • Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £819,654
  • Crynodeb o’r prosiect: Cyfuniad a datblygiad o gynlluniau blaenorol sy’n cynnwys gweithgaredd sy’n cael ei ddarparu gan sawl mudiad trydydd sector - Mantell Gwynedd, Cyngor ar Bopeth, Ability Net, Adra Cyf, Partneriaeth Trafnidiaeth Gymunedol Gwynedd, Age Cymru a 14 Hwb Cefnogi Pobl. Bydd pecyn o gefnogaeth yn cael ei ddarparu ar draws cymunedau Gwynedd i roi cymorth i bobl gael mynediad at wasanaethau lleol fydd yn eu galluogi i fyw yn hirach, iachach a hapusach yn eu cymunedau. Bydd yn cynnwys gweithgareddau i atal eithrio ariannol a digidol, cymorth i wirfoddoli, lleihau unigrwydd a brwydro tlodi.

Mwy o wybodaeth:

 

Pecyn Cefnogi Pobl i Gyflawni eu Potensial yn y Byd Gwaith

  • Corff sy’n arwain : Cyngor Gwynedd 
  • Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £1,068,122
  • Crynodeb o’r prosiect: Cyfuniad a datblygiad o gynlluniau blaenorol yn y maes cyflogadwyedd sy’n cynnwys gweithgaredd sy’n cael ei ddarparu gan Adra (Cyf) a GISDA (Cyf). Bydd y pecyn cefnogi yn cynnwys cymorth i atal plant ysgol rhag gadael addysg; help arbenigol i grwpiau penodol, yn cynnwys pobl ifanc bregus ac unigolion gydag anableddau dysgu, i oresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag sicrhau gwaith neu ddychwelyd i addysg; a chymorth i oedolion fagu’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol i ddychwelyd i waith, neu i sicrhau swydd well.  

Mwy o wybodaeth: 

Camau Cefnogol

  • Sefydliad sy’n arwain : Grŵp Llandrillo-Menai
  • Cynllun ar draws siroedd Gwynedd / Ynys Môn / Conwy
  • Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £368,000
  • Crynodeb o’r prosiect: Ystod o gefnogaeth i sicrhau fod myfyrwyr bregus 16-25 oed yn parhau gyda’u hastudiaethau, ac yn llwyddo i gyrraedd eu potensial.  Bydd y cynllun yn rhoi cymorth i bobl ifanc feithrin sgiliau sy’n hanfodol i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch, cyflogaeth neu brentisiaethau gwaith.

 

Cyfleoedd Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru

  • Corff sy’n arwain : Uchelgais Gogledd Cymru
  • Cynllun ar draws siroedd Gwynedd / Ynys Môn / Conwy / Sir Ddinbych / Sir y Fflint
  • Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £68,000
  • Crynodeb o’r prosiect: Cynllun sy’n cefnogi busnesau a chymunedau gan ddilyn blaenoriaethau’r Cynllun Twf. Bydd yn cynnwys gweithgaredd i hyrwyddo’r cyfleon gwaith sydd ar gael, cymorth i fusnesau ddatblygu cynlluniau cysylltedd a chynlluniau datblygu egni cynaliadwy, a hyfforddiant i fusnesau i fanteisio ar gyfleoedd cyllido. 
  • Mwy o wybodaeth: Uchelgais Gogledd Cymru

 

Cymorth Arbenigol i Sefydlu Mentrau Cymdeithasol a Mentrau ym Mherchnogaeth eu Gweithwyr

  • Corff sy’n arwain : Cwmpas
  • Cynllun ar draws siroedd Gwynedd ac Ynys Môn
  • Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £135,000
  • Crynodeb o’r prosiect: Mae’r cynllun yn darparu cefnogaeth busnes arbenigol i fentrau cymdeithasol newydd er mwyn sefydlu prosesau cadarn a chydymffurfio a rheolau perthnasol.  Mae hefyd yn cynnwys cyngor arbenigol i fentrau aeddfed sy’n dymuno ymchwilio a gweithio tuag at berchnogaeth gan eu gweithwyr.
  • Mwy o wybodaeth: Busnes Cymdeithasol Cymru - twf

 

Cynllun Talebau Sgiliau Ac Arloesedd (SIV) a Môr Ni Gwynedd

  • Corff sy’n arwain : Prifysgol Bangor
  • Cynllun ar draws siroedd Gwynedd / Ynys Môn / Sir y Fflint
  • Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £240,000
  • Crynodeb o’r prosiect: Mae’r cynllun yn cynnig cefnogaeth i fusnesau Gwynedd ddatblygu gyda chymorth arbenigaeth o’r Brifysgol gyda gweithgaredd mewn dwy ffrwd gwaith.Bydd y ffrwd waith gyntaf yn gweithredu ar draws y tair sir yn cynnig talebau i fusnesau lleol sy’n eu galluogi i gael mynediad at arbenigedd, cyfleusterau, hyfforddiant a thalent adrannau perthnasol yn y Brifysgol. Bydd yr ail ffrwd waith yn gweithredu yng Ngwynedd yn unig gan gefnogi'r sector pysgodfeydd a’r busnesau bwyd môr cysylltiedig er mwyn gwella bywoliaeth a swyddi cymunedau arfordirol. 

Mwy o wybodaeth:

 

Mentergarwch Gwynedd ac Ynys Môn

  • Corff sy’n arwain : Menter Môn
  • Cynllun ar draws siroedd Gwynedd ac Ynys Môn
  • Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £210,000
  • Crynodeb o’r prosiect: Bydd yr Hwb Menter yn cynnig gwasanaethau i gychwyn busnesau newydd, a chefnogi busnesau i ddatblygu a thyfu drwy ddarparu cyngor un-i-un, gweithdai a chyfleoedd rhwydweithio. Mae hefyd yn cynnwys cynnal darpariaeth casglu gwybodaeth defnyddwyr stryd fawr prif drefi Gwynedd.
  • Mwy o wybodaeth: Hwb Menter

 

Iach Ac Actif

  • Corff sy’n arwain : Gogledd Cymru Actif
  • Cynllun ar draws siroedd Gwynedd / Ynys Môn / Sir Ddinbych / Sir y Fflint
  • Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £70,000
  • Crynodeb o’r prosiect: Bydd y cynllun yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol a lles drwy gydlynu cynlluniau llesiant cymunedol sy’n cael eu harwain gan bobl leol yn y cymunedau sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf i fyw’n iach.
  • Mwy o wybodaeth: Gogledd Cymru Actif

 

Menter Sgiliau Gwyrdd Cyflogwyr Gogledd Cymru (EGNI)

  • Corff sy’n arwain : Grŵp Llandrillo-Menai
  • Cynllun ar draws siroedd Gwynedd ac Ynys Môn
  • Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £329,872
  • Crynodeb o’r prosiect: Cefnogaeth i fusnesau a’u gweithwyr i sicrhau’r sgiliau sydd eu hangen i gryfhau a datblygu’r busnes.  Bydd pwyslais ar gefnogi sgiliau ‘gwyrdd’ fydd yn helpu busnesau a’u gweithwyr ar y daith i gyrraedd targedau sero net cenedlaethol. Bydd ffrwd gwaith penodol i helpu’r sector adeiladu leol gymhwyso i osod offer ynni effeithlon fydd yn manteisio ar adnoddau Tŷ Gwyrddfai, Penygroes.

Mwy o wybodaeth:

 

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: FfyniantBroDU@gwynedd.llyw.cymru  

I ddysgu mwy am y Gronfa Ffyniant Gyffredin yng Ngogledd Cymru ymwelwch â: Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru

 

 

Llywodraeth DU