Grant Gwydnwch Busnes Gwynedd

Mi fydd y gronfa yma yn agor ar y 1af o Orffennaf, 2025

Mae Cronfa Grant Gwydnwch Busnes Gwynedd yn cynnig cymorth ariannol rhwng £2,500 a  £15,000.  Pwrpas y grant yw helpu busnesau lleol i weithredu gweithgareddau sy'n cryfhau eu gwydnwch ac yn hybu addasrwydd hirdymor.

Mae'r gronfa hon yn gystadleuol, a bydd yn cael ei hasesu mewn rowndiau ymgeisio. Bydd pob cais yn cael ei werthuso yn seiliedig ar ansawdd y prosiect, perthnasedd ac effaith bosibl.

Mae'r gronfa yn cael ei hariannu'n rhannol drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU: Gwynedd.

Sesiynau cymorth paratoi cais grant

Mae Busnes@Gwynedd yn cyflwyno sesiynau cymorth i'ch helpu chi i baratoi cais am grant. 

Mwy o wybodaeth ac archebu lle

Close

 

Canllawiau ymgeisio

Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth hanfodol cyn gwneud cais am y grant.

Lleoliad y busnes

Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais am y grant, rhaid i bencadlys y busnes fod yng Ngwynedd. Y pencadlys yw’r eiddo lle mae rhan fwyaf o weithgareddau’r busnes yn digwydd.

Bydd swyddfa cofrestredig cwmnïau cyfyngedig yn y sir.  Yn achos unig fasnachwyr / partneriaethau bydd safle gweithredu'r busnes yng Ngwynedd (ystyrir cartref y perchennog yn leoliad y busnes os nad yw'n meddu ar safle penodol).

Math busnes

Mae’r math o fusnesau canlynol yn gymwys:

  • unig fasnachwr
  • partneriaeth cofrestredig
  • cwmni cyfyngedig (gan cynnwys cwmnïau nad ydynt yn dosbarthu elw)

I gadarnhau statws y busnes bydd rhaid darparu Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) CThEM (HMRC) neu rif cwmni ynghyd â chopi o ddatganiad banc diweddar wrth gyflwyno cais i'r Gronfa.

Maint y busnes

Gallwn gefnogi busnesau sy’n cwrdd ag o leiaf dau o’r meini prawf canlynol:

  • cyflogi 250 neu lai (yn cynnwys y perchennog / perchnogion)
  • gyda llai na £18 miliwn ar ei fantolen (balance sheet)
  • trosiant (cyfanswm gwerthiant) blynyddol o dan £36 miliwn yn fusnes bach / canolig

Os yw'r busnes yn rhan o fusnes arall, neu wedi ei gysylltu’n gyfreithiol â busnes arall, bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried yr amgylchiadau unigol cyn penderfynu a yw'n gymwys i dderbyn cefnogaeth.

Mae rhwng £2,500 a £15,000 o gymorth ar gael.

Mae’r gronfa yn cynnig cymorth o hyd at 70% o gyfanswm y costau cymwys nodwyd o fewn y cais. Felly, bydd yn ofynnol i unrhyw gais fod ar sail o leiaf £3,570 o gostau cymwys.

Rydym yn disgwyl i chi gyfrannu o leiaf 20% o gostau’r prosiect o arian preifat, sef cynilion, neu benthyciad – mi fydd angen i chi dangos prawf fod yr arian yma ar gael i chi cyn allwn ni asesu’ch cais.

Petaech yn dymuno defnyddio arian grant arall fel rhan o’r 10% sy’n weddill o gostau eich prosiect, bydd angen dangos tystiolaeth bod y cyllidwr yn fodlon i chi ddefnyddio’r arian fel arian cyfatebol ar gyfer nawdd Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Mae'r gronfa hon yn gystadleuol. Byddem yn derbyn ceisiadau mewn rowndiau ac yn eu hasesu yn erbyn y ceisiadau eraill a derbynnir o fewn yr un rownd. 

I gael ei asesu, bydd rhaid i gais ddod gan fusnes cymwys ac ar gyfer costau addas fel sy'n cael eu disgrifio yn y canllaw hwn.

Wrth asesu'r cais bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried:


a) A fydd y grant yn helpu’r busnes i:

  • warchod swydd(i) presennol neu yn creu swydd(i) newydd?
  • greu cynnyrch newydd?
  • wella cynnyrch neu gwasanaeth sydd eisoes yn bodoli
  • lleihau ei ôl-troed carbon?
  • bod yn fwy gwydn neu i dyfu?
  • wella'i ddefnydd o’r Gymraeg?

Mae’r Canllaw Sgorio, sydd yn egluro yn fanwl sut y bydd pob cais yn cael ei asesu ar gael ar wahân.

b) A yw'r busnes yn fodlon ymrwymo i:

  • dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol os yn cyflogi staff (dros 18 oed) erbyn Chwefror 2026 fan bellaf (nid yw'n ofynnol sicrhau achrediad y Sefydliad Cyflog Byw)
  • Ymrwymo i ymgymryd a gweithgareddau penodol i wella’u defnydd o’r Gymraeg. Fel rhan o’ch cais, mi fydd angen i chi gynnig 3 gweithgaredd penodol i wella’ch defnydd o’r Gymraeg o fewn eich busnes. Caiff y gweithgareddau hyn eu monitro, ac os nad ydynt wedi’u gweithredu erbyn Chwefror 2026, mae gan Cyngor Gwynedd yr hawl i adhawlio unrhyw arian grant.
  • Caiff y gweithgareddau yr ydych yn cynnig eu hasesu wrth sgorio eich cais, o ran faint o effaith y maent yn debygol o gael (wele’r Canllaw Sgorio am fwy o fanylder).

Gallwch chi gynnig gweithgareddau sydd yn addas i'ch busnes, ond gall enghreifftiau o wella’ch defnydd o’r Gymraeg yn cynnwys:

  • Sicrhau bod pob adnodd sydd wedi’i argraffu yn y Gymraeg neu yn ddwyieithog (arwyddion,bwydlenni, pamffledi a.y.b)
  • Trefnu i aelodau o staff di-gymraeg derbyn gwersi Cymraeg
  • Trefnu aelodau staff sydd yn siarad Cymraeg mynychu cwrs Gloywi Iaith
  • Cynnal gweithgareddau penodol o fewn eich busnes i hybu’r Gymraeg
  • Creu cynnyrch sydd ag enw Cymraeg

Rydym hefyd yn gweithio ar gynllun i achredu busnesau Gwynedd ar gyfer eu defnydd o’r Gymraeg. Mi fydd disgwyl i chi ymgymryd â’r broses yma pan y bydd yn barod i'w roi ar waith.

c) Gweithio gyda Busnes Cymru i cwblhau Cynllun Lleihau Carbon.

Nodwch fod gan Cyngor Gwynedd disgresiwn llwyr i gefnogi cais i'r Gronfa ac mae penderfyniadau y Cyngor yn derfynol. Bydd penderfyniadau Cyngor Gwynedd yn amodol ar y budd rhagwelir ac yn llwyr ddibynnol ar argaeledd cyllid.

Rydym yn disgwyl galw mawr am y grant hwn ac yn anffodus, dim ond cyfran o'r ceisiadau a dderbyniwn fyddwn yn gallu eu cefnogi.

Caiff grantiau eu dynodi ar sail cystadleuol. Byddem yn anelu i gadw at yr amserlen isod:

Rownd 1
Agor – 01 Gorffennaf, 2025
Cau – 15 Awst, 2025
Cyhoeddi canlyniadau – Erbyn Medi 30, 2025

Rownd 2
Agor – 02 Medi, 2025
Cau – 17 Hydref, 2025
Cyhoeddi Canlyniadau – Erbyn 28 Tachwedd, 2025

Os oes angen addasu’r amserlen wrth fynd, mi fydd newidiadau yn cael eu cyhoeddi yn Bwletin Busnes@Gwynedd

Gallwch geisio am grant i brynu unrhyw offer neu wasanaethau cyfalaf neu refeniw sydd am eich helpu chi i godi gwydnwch eich busnes . Yn benodol, rydym yn chwilio am geisiadau sydd yn:

  • Gwella marchnata a chyfathrebu eich busnes
  • Galluogi datblygiadau digidol o fewn eich busnes
  • Gwella mynediad eich busnes at hanfodion busnes (e.e. meddalwedd cyfrifo, prynu gwasanaeth Adnoddau Dynol a.y.b)
  • Cynyddu cynaliadwyedd eich busnes
  • Galluogi mynediad at farchnadoedd newydd
  • Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn eich busnes
  • Gwella eiddo busnes, at pwrpas datblygu’r busnes

Mi fydd rhaid cwblhau pob prosiect o fewn 3 mis o dderbyn llythyr cynnig. Sicrhewch, felly, nad ydych yn ceisio am nwyddau neu gwasanaethau na chaiff eu archebu, eu derbyn, a’u talu amdano o fewn 3 mis.

Cerbydau
Rydym yn fodlon derbyn ceisiadau am:

  • Faniau neu geir trydan neu hybrid – grant o 70%
  • Faniau neu geir ULEV (yn cynhyrchu dim mwy na 75g o CO2/km) – byddwn yn gwirio hyn ar y wefan yma  – grant o 70%
  • Faniau diesel wedi’u cofrestru ers Medi 2015 ac sydd yn cwrdd a gofynion allbynnau EURO 6 – grant o 50%
  • Rhaid i faniau fod yn faniau masnachol 3 sêt a nid cerbydau hamdden neu sy’n gallu cael eu defnyddio at pwrpasau hamdden
  • Nid ydym yn fodlon derbyn ceisiadau am faniau sydd wedi’u deillio o gar

Cofiwch, fel gyda pob cais i’r gronfa grant yma, bydd angen i chi egluro sut fydd y cerbyd dan sylw yn codi gwydnwch eich busnes.

Costau sydd ddim yn gymwys am y grant

  • Prynu tir ac/neu eiddo domestig
  • Llety preswyl /domestig
  • Gwaith atgyweirio, cynnal a chadw a/neu gostau rhedeg busnes cyffredinol
  • Prynu offer neu wasanaethau sydd eu hangen er mwyn cydymffurfio â rheoliadau statudol
  • Costau staffio
  • TAW adferadwy
  • Prynu stoc
  • Prynu asedau dan gytundebau Hire Purchase (HP), Cytundebau Credyd Estynedig neu Brydles

Dyfynbrisiau

Rhaid i bob eitem unigol gostio o leiaf £300

Rhaid darparu dyfynbrisiau fel a ganlyn:

  • Eitemau sy’n costio llai na £4,999 – un dyfynbris
  • Eitemau sy’n costio mwy na £5,000 – tri dyfynbris

Prynu gydag arian parod

Ni allwch brynu offer neu nwyddau gydag arian parod

Ôl-weithredu

Arhoswch tan eich bod wedi derbyn cynnig swyddogol o’r grant, ac wedyn ei ddychwelyd yn ôl atom cyn prynu unrhyw offer neu wasanaethau sy’n rhan o’ch cais. Ni allwn ad-dalu unrhyw wariant sydd wedi’i wneud cyn i ni wneud cynnig swyddogol o’r grant, a’i dderbyn yn ôl gennych chi.

Rheoli Cymhorthdal Awdurdodau Statudol

Mae’n cronfa yma wedi’i chofrestru fel rhan o Gronfa Gwydnwch Busnes Gwynedd (rhif cofrestru SC11279), yn unol a’r Deddf Rheoli Cymhorthdal (2022).

Prynu’n Lleol

Er mwyn cefnogi’r cadwyn cyflenwi lleol, rydym yn gofyn i chi ystyried defnyddio cyflenwyr o Wynedd. Ni fydd yr elfen yma yn effeithio ar asesiad eich cais, ond disgwylir i chi egluro pa gamau yr ydych wedi cymryd i ddod o hyd i gyflenwr o Wynedd, a’ch rhesymau dros peidio a’i ddefnyddio os ydych yn penderfynu defnyddio cyflenwr arall.

Yr Iaith Gymraeg

Fel rhan o’ch cais, mi fydd angen i chi gynnig 3 gweithgaredd penodol i wella’ch defnydd o’r Gymraeg o fewn eich busnes. Caiff y gweithgareddau hyn cael eu monitro, ac os nad ydyntwedi’u gweithredu erbyn Chwefror 2026, mae gan Cyngor Gwynedd yr hawl i ad-hawlio unrhyw arian grant.

Caiff y gweithgareddau yr ydych yn cynnig eu asesu wrth sgorio eich cais, o ran faint o effaith y maent yn debygol o gael (wele’r Canllaw Sgorio am fwy o fanylder). Gallwch chi gynnig gweithgareddau sydd yn addas i'ch busnes, ond gall enghreifftiau o wella’ch defnydd o’r Gymraeg gynnwys:

  • Sicrhau bod pob adnodd sydd wedi’i argraffu yn y Gymraeg neu yn dwy-ieithog (arwyddion,bwydlenni, pamffledi a.y.b)
  • Trefnu i aelodau o staff di-gymraeg derbyn gwersi Cymraeg
  • Trefnu i aelodau staff sydd yn siarad Cymraeg mynychu cwrs Gloywi Iaith
  • Cynnal gweithgareddau penodol o fewn eich busnes i hybu’r Gymraeg
  • Creu cynnyrch sydd ag enw Cymraeg

Rydym hefyd yn gweithio ar gynllun i achredu busnesau Gwynedd ar gyfer eu defnydd o’r Gymraeg.

 

Gwneud cais

Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth pwysig ar gyfer sut i gyflwyno eich cais a phethau hanfodol i'w cofio.

Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn cwblhau eich ffurflen gais yn llawn a’ch bod yn cynnwys yr holl ddogfennau angenrheidiol. Mae’r rhain yn cynnwys:

Pa ddogfennaeth sydd angen o fewn cais
 Busnes newydd neu llai na 12 mis o weithredu Busnes wedi bod yn weithredol am fwy na 12 mis 
Cynllun Prosiect, yn defynddio’r templed yn y pecyn cais   Check mark, Wingdings font, character code 252 decimal.   Check mark, Wingdings font, character code 252 decimal. 
Rhagolwg ariannol 2 flynedd  Check mark, Wingdings font, character code 252 decimal.   X
Mantolen a datganiad elw a cholled am y ddwy flynedd diwethaf  X  Check mark, Wingdings font, character code 252 decimal. 
Datganiad banc cyfredol y busnes  Check mark, Wingdings font, character code 252 decimal.   Check mark, Wingdings font, character code 252 decimal. 
Cadarnhad o unrhyw ganiatâd perthnasol yn cynnwys gofynion cyfreithiol statudol  Check mark, Wingdings font, character code 252 decimal.   Check mark, Wingdings font, character code 252 decimal. 
Holl ddyfynbrisiau  Check mark, Wingdings font, character code 252 decimal.   Check mark, Wingdings font, character code 252 decimal. 
Tystiolaeth o arian cyfatebol  Check mark, Wingdings font, character code 252 decimal.  Check mark, Wingdings font, character code 252 decimal. 

Ni allwn ddechrau prosesu’ch cais nes fod yr holl wybodaeth perthnasol wedi’i dderbyn.

Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau bod angen yr arian grant arnoch h.y. heb y grant, ni fyddai modd gwneud yr hyn sy’n cael ei amlinellu yn eich cais:

  • o gwbl
  • i'r un raddfa
  • o fewn amserlen rhesymol

Gall y Cyngor dynnu cynnig grant yn ôl, neu ad-hawlio arian sydd eisoes wedi’i dalu allan:

  • os nad ydych yn defnyddio’r arian, neu’r offer/gwasanaethau y byddwch yn eu prynu, i wneud yr hyn rydych wedi amlinellu yn eich ffurflen gais
  • os y byddwn yn canfod fod rywbeth yn eich cais sy’n anghywir
  • os oes oedi afresymol wrth i chi symud ymlaen i brynu’r offer/gwasanaeth neu eu rhoi ar waith

Ar dderbyn eich cais llawn bydd y Cyngor yn:

  • Gwirio bod yr holl fanylion sydd wedi’i ddarparu mewn trefn ac os oes gwybodaeth ar goll byddwn yn cysylltu i ofyn am wybodaeth ychwanegol
  • Gwneud gwiriadau a allai gynnwys:
    1. Cynnal chwiliad gydag asiantaeth cyfeirio credyd yng nghyswllt eich busnes. Bydd yr asiantaeth yn cadw cofnod o’r chwiliad hwnnw ac efallai y bydd yn rhannu gwybodaeth gydag asiantaethau eraill
    2. Gwneud ymholiadau am gyfarwyddwyr cwmnïau gydag asiantaethau cyfeirio Credyd

Os nad ydi’ch cais yn cyflawn byddem yn cynnig cyfnod byr i chi ddarparu’r wybodaeth coll. Er tegwch i ymgeiswyr eraill, os na fydd yr wybodaeth coll wedi’i dderbyn erbyn diwedd y cyfnod penodol ni fydd eich cais yn cael ei asesu.

Hysbysu o’r Penderfyniad
Byddwn yn eich hysbysu o’r penderfyniad ar e-bost. Os yn llwyddiannus byddwch yn rhoi gwybod i chi faint o gyllid rydym yn ei gynnig i chi ac unrhyw amodau penodol sy’n gysylltiedig â’r grant. Byddwch hefyd yn derbyn cytundeb Telerau ac Amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw. Rhaid arwyddo a dychwelyd y cytundeb cyn pen 14 diwrnod er mwyn derbyn y cynnig grant.

Amserlen Gweithredu
Rhaid I'r prosiect cyfan fod wedi’i gwblhau, a’r arian wedi’i hawlio gan Cyngor Gwynedd o fewn 3 mis o dderbyn eich llythyr cynnig. Nid oes modd i ni ad-dalu unrhyw hawliadau sydd yn cael eu derbyn ar ôl y dyddiad yma.

Wrth hawlio grant bydd angen i chi ddarparu prawf o’r gwariant. Mae hyn yn cynnwys yr holl anfonebau derbyniadau (peidiwch a chynnwys unrhyw wariant gafodd ei wneud cyn i chi dychwelyd y cynnig grant ffurfiol). Bydd y Cyngor hefyd angen copïau o ddatganiadau banc yn dangos taliadau’n mynd allan o gyfrifon y cwmni. Os ydych yn talu am unrhyw beth gyda cherdyn credyd neu debyg, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth eich bod wedi talu’r cwmni credyd yn ôl yn llawn.

Cofiwch – peidiwch a thalu am unrhyw offer neu wasanaeth sydd ynghlwm a’r grant gydag arian parod.

Bydd y Cyngor angen sicrhau bod yr arian grant wedi’i ddefnyddio i dalu am yr offer a’r gwasanaethau cywir,a’u bod y cael eu defnyddio mewn ffordd sy’n cyd-fynd â thelerau ac amodau’r grant, ac unrhyw amodau ychwanegol os yn berthnasol. Gall hwn gynnwys archwilio’r gwaith, ymweld â’ch busnes, neu unrhyw ffordd priodol arall. Unwaith y bydd y Cyngor yn fodlon bod y grant wedi’i wario’n briodol, bydd y Cyngor yn rhyddhau’r cyllid i gyfrif banc eich busnes drwy daliad BACS.

Ni fydd ceisiadau am newid eitemau cymwys cymeradwy yn cael eu derbyn – ac eithrio yn achos newidiadau tebyg am debyg megis newid brand neu gyflenwr. Ni fyddwn yn cwrdd ag unrhyw costau ychwanegol sydd ynghlwm a unrhyw newidiadau tebyg am debyg.

Hyd at 2035, gall y Cyngor, neu unrhyw un ar ran y Cyngor, ymweld â’ch eiddo i gynnal archwiliad i fonitro’r busnes a’r offer neu wasanaethau y wnaethoch chi brynu gyda’r grant.

Os yw’r offer a gafodd ei brynu gyda’r grant yn dod i ddiwedd ei oes o fewn y cyfnod yma, cysylltwch â ni i roi wybod. Efallai y byddwn angen gweld tystiolaeth o hyn.

Os ydych yn bwriadu uwchraddio’r offer o fewn y cyfnod yma, cysylltwch â ni – efallai y byddwn eisiau gweld tystiolaeth eich bod wedi prynu offer newydd yn ei le

Os ydych chi wedi adrodd eich bod wedi creu swyddi, bydd y Cyngor angen tystiolaeth o’r cyflogaeth, gall hyn gynnwys:

  • Cofnodion cyflogres (cyn ac ar ôl y dyfarniad)
  • Cytundeb cyflogaeth
  • Slip tâl cyntaf wedi ei ddyddio
  • Cofnod gwasanaeth ar-lein PAYE HMRC
  • Tystysgrif P60

Nid oes angen cynnwys enwau unigolion ar gofnodion cyflogaeth – gallwch chi eu cuddio neu’u dileu.

Mewn achosion eraill, bydd yn rhaid i’r ymgeisydd un ai ddangos tystiolaeth bod y dyfarniad grant wedi cynyddu trosiant y busnes neu ddangos sut mae wedi effeithio ar y busnes.

Wrth dderbyn y grant, rydych wedi ymrwymo i gydnabod y gyllideb yma wrthweithredu’ch Prosiect.

Logos

Rhaid i chi ddefnyddio’r stribed logos canlynol mewn pob deunydd cyfathrebu a dogfennau cyhoeddus sy’n ymwneud a’ch Prosiect:

Llawr-lwytho y logo yma

Mae hyn yn cynnwys, ond nid ydi’n gyfyngedig i:

  • Hysbysebion, hysbysebion swydd a datganiadau i’r wasg
  • Arwyddion a phlaciau
  • Deunyddiau caffael, astudiaethau achos ac eitemau hyrwyddo
  • Deunyddiau electronig e.e. troedyn e-bost, sleidiau cyflwyniad

Gallwch ychwanegu logo eich hun, cyn belled â’ch bod yn sicrhau bod pob logo o faint cyfartal, a bod yna bwlch cyfartal rhwng pob un.

 

Deunyddiau digidol, gan gynnwys gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol

Mi all sianeli digidol roi ffordd gyflym i ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd a hyrwyddo’ch Prosiect. Lle rydych wedi cyhoeddi manylion eich Prosiect ar wefan, rhaid cynnwys cyfeiriad clir ac amlwgi’r cyllid gan Cyngor Gwynedd a Cronfa Ffyniant Cyffredin: Gwynedd, fel a ganlyn:

"Ariennir y Prosiect hwn yn rhannol gan Lywodraeth y DU trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac yn rhannol gan Cyngor Gwynedd"

Lle mae gwefan wedi’i chreu yn uniongyrchol gennych chi ar gyfer eich Prosiect, rhaid arddangos y stribed logos ar y tudalen blaen/cartref.

Os ydych yn rhoi manylion y Prosiect ar wefan sydd heb ei chreu yn uniongyrchol ar gyfer y Prosiect (e.e. eich gwefan arferol sydd yn cynnwys gweithgareddau ehangach), rhaid arddangos y stribed logos ar y tudalen sy’n cyfeirio at y Prosiect.

 

Lle’n ymarferol, dylech hefyd cynnwys dolen i dudalen we Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU a Busnes@Gwynedd a’r testun canlynol (dylid hefyd cael ei ddefnyddio ar gyfer nodiadau i’r golygydd):

"Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, phobl a sgiliau. Am wybodaeth pellach, ewch i'r wefan yma"

 

Wrth ddisgrifio neu hyrwyddo eich Prosiect ar y cyfryngau cymdeithasol megis X neu Instagram, rhaid ddefnyddio’r hash-nodau canlynol:

#UKSPF
#CyngorGwynedd
#Busnes@Gwynedd

 

Ar gyfer Prosiectau Isadeiledd, wrth gwblhau Prosiect (dim mwy na tri mis wedi’i gwblhau) rhaid i chi osod plac neu hysbysfwrdd (billboard) parhaol o faint sylweddol mewn lleoliad hawdd i’r cyhoedd ei weld ar gyfer pob Prosiect.

Rhaid i bob plac cael ei gynhyrchu a’i gyllido gan Dderbynnydd y Grant (chi), a mesur lleiafswm o 250x200mm.

Rhaid i'r plac neu hysbysfwrdd cynnwys y stribed logo uchod i faint priodol (fel arfer holl led y plac/hysbysfwrdd)

 

Y Wasg a’r Cyfryngau, yn cynnwys datganiadau i’r wasg a nodiadau i’r golygydd

Gall defnydd o’r cyfryngau fod yn ffordd gost-effeithiol o hyrwyddo’ch Prosiect. Mae’r ymarfer dai ddatblygu datganiadau i’r wasg wrth lansio’ch Prosiect, ac wedyn i gyhoeddi cerrig milltir a chyflawniadau allweddol.

Rhaid i ddatganiadau i’r wasg cynnwys cyfeiriad clir ac amlwg i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a Chyngor Gwynedd o fewn corff y datganiad fel a ganlyn:

"Mae’r prosiect hwn/enw’r prosiect) wedi derbyn £(YCHWANEGWCH Y SWM) o Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a gan Gyngor Gwynedd"

Mae’n ofyniad hefyd i ddefnyddio’r geiriad sydd wedi’i osod allan yn adran Deunyddiau Digidol (uchod) fel nodiadau i’r golygydd mewn pob gweithgaredd y cyfryngau.

Mi fydd disgwyl i chi ddarparu copïau o unrhyw ddeunyddiau marchnata a hyrwyddo gyda’ch hawliad, ynghŷd â llun o’r plac. Dylech hefyd cadw copïau o’r rhain at bwrpas monitro ac awdit.

Gofynnir i chi ddiweddaru Tîm Cefnogi Busnes Cyngor Gwynedd o ran unrhyw gyfleoedd cyhoeddusrwydd i’r dyfodol.

1. Dylai bob busnes fod yn hyfyw yn ariannol.

2. Dylai’r busnes gydymffurfio gyda’r holl reoliadau priodol, holl bolisïau gorfodaeth a safonau gwasanaeth sy’n berthnasol i’w sector busnes, gan gynnwys bod wedi cofrestru gyda’r Cyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC) at ddibenion talu treth.

3. Mae’n rhaid i bob gwaith proffesiynol (e.e. trydanol) gael ei wneud gan gontractwyr cymwys.

4. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i gysylltu ag unrhyw un o’r busnesau sy’n cyflwyno dyfynbrisiau mewn cyswllt â’ch cais os oes angen eglurder pellach.

5. Ni fyddwch yn derbyn cyllid ar gyfer unrhyw ran o’r gwaith rydych chi neu’ch busnes wedi ei gyflawni eich hun (boed y busnes mewn perchnogaeth lawn neu’n rhannol).

6. Mae’n rhaid hysbysu’r Cyngor o unrhyw gyswllt personol, teuluol neu fusnes rhyngoch chi/eich asiant ac unrhyw gyflenwr neu gontractwr.

7. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod wedi cael neu wedi cydymffurfio â phob caniatâd cynllunio ac unrhyw ganiatâd statudol perthnasol arall cyn i chi gyflwyno’ch cais. Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol o hyn. Rhaid i’ch busnes neu’r gwaith rydych yn gyflawni hefyd gydymffurfio ag unrhyw drwyddedau/caniatâd/gofynion perthnasol eraill e.e. Iechyd a Diogelwch, ac ni ddylid defnyddio’r offer, na chaniatáu defnydd o’r offer, yn groes i’r gyfraith nag unrhyw reoliadau/is-ddeddfau sydd mewn grym ar y pryd.

8. Wrth roi grant i chi, nid yw’r Cyngor yn cymeradwyo unrhyw beth tu hwnt i brynu’r offer neu gwasanaeth(au) sydd yn y cais.

9. Ni ddylid dechrau unrhyw waith ar unrhyw adeilad nes eich bod wedi cael pob cymeradwyaeth neu ganiatâdsy’n angenrheidiol.

10. Ni ellir talu arian am waith sydd eisoes wedi dechrau yn barod nac am unrhyw offer sydd wedi’i brynu yn barod

11. Ni fydd y Cyngor yn roi grantiau i ymgeiswyr sydd â dyledion sylweddol i unrhyw adran o’r Cyngor.

12. Gall y Cyngor wirio os oes Dyfarniad y Llys Sirol yn eich erbyn.

13. Pan fydd prosiect yn golygu gwneud gwaith adnewyddu neu addasu adeilad sydd ar brydles, mae’n rhaid i weddill oes y brydles fod yn o leiaf 5 mlynedd ar ddiwrnod derbyn y cais gan y Cyngor. Byddwn hefyd angen tystiolaeth o ganiatâd y landlord.

14. Mae’n rhaid i unrhyw deunyddiau neu wasanaethau fydd yn cael eu gweld gan eraill sydd wedi derbyn arian grant fod yn ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg).

15. Rydych yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw drethi, asesiadau, taliadau neu unrhyw wariant arall sy’n daladwy yng nghyswllt defnyddio’r offer neu wasanaethau sy’n cael eu prynu gyda’r grant.

16. Mae’n rhaid i chi ar bob achlysur rhesymol roi caniatâd i asiant awdurdodedig y Cyngor i ddod i mewn i’r eiddo i archwilio stad a chyflwr yr offer ac unrhyw lyfrau trafodion ariannol, cofnodion neu ddogfennau sy’nberthnasol i ddefnydd yr offer neu’r gwasanaeth sydd wedi’u prynu gyda’r grant.

17. Ni ddylech aseinio, diddymu, is-osod na chael gwared ar berchnogaeth o’r offer yn ei gyfanrwydd nac unrhyw ran ohono.

18. Rhaid i chi yswirio'r offer sydd wedi’i brynu gyda’r grant, parhau i’w yswirio yn erbyn colled neu ddifrod hyd at werth llawn ei amnewid. Os bydd difrod yn digwydd yn ystod cyfnod cytundeb y grant ac nad yw ym marn yr yswiriwr yn economaidd i wneud yn iawn am ddifrod o’r fath, bydd yr holl arian yswiriant yn cael ei defnyddio i wneud yn iawn am y golled neu’r difrod. Bydd yn rhaid talu’r holl bremiymau a dylech ddarparu’rderbyniadau i’r Cyngor os gofynnir amdanynt. Dylech wneud popeth angenrheidiol i gadw’r gorchudd yswiriant yn gwbl weithredol ac i beidio â gwneud unrhyw beth a fyddai’n annilysu’r yswiriant.

19. Bydd y grant yn cael ei dalu pan fydd y: Prosiect sy’n cynnwys gwaith adeiladu wedi cael ei gwblhau’n llawn a bod ardystiad gan Gyfadran Rheolaeth Adeiladu'r Cyngor (neu debyg) bod y gwaith yn dderbyniol. Dogfennau cefnogol perthnasol wedi cael eu cyflwyno i’r Cyngor.

20. Os yn creu neu ddiogelu swyddi, y diffiniad o ‘swydd’ yw unrhyw swydd llawn amser yn y busnes ym mha bynnag rinwedd, swydd hunangyflogedig newydd neu swyddi sydd wedi’u creu gan fusnesau sy’n symud i mewn i’r sir. Mae ‘llawn amser’ yn golygu o leiaf 30 awr yr wythnos. Mae’n derbyniol cyfri dwy swydd ran-amser sydd at ei gilydd yn cynnig gyfanswm o 30 awr yr wythnos fel un swydd lawn amser.

21. Mae’n rhaid i fusnesau fasnachu am isafswm o 30 awr yr wythnos i fod yn gymwys.

22. Mae’n rhaid i chi gytuno i beidio a gwneud, gwrthod gwneud na dioddef gwneud, unrhyw beth gall olygu fod yr offer yn cael ei fforffedu neu adfeddiannu neu y gallai beri risg i hynny ddigwydd.

23. Mae’n dderbyniol prynu peiriannau, peirianwaith neu offer ail-law ar yr amod bod y pris yn deg ac nad yw wedi ei brynu’n wreiddiol dan gynllun a gyllidwyd gan grant arall.

24. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i roi cyhoeddusrwydd o ddyfarnu’r grant.

25. Dylai unrhyw gyhoeddusrwydd sy’n cael ei drefnu gennych sy’n ymwneud â derbyn y grant nodi cefnogaeth ariannol y cynllun. Mae hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw deunyddiau marchnata/gwefannau. Caiff ganllawiau cyhoeddusrwydd llawn fel rhan o unrhyw cynnig swyddogol o nawdd.

26. Unwaith y bydd y grant wedi cael ei gymeradwyo ni allwch gynnwys unrhyw eitemau ychwanegol yn yr hawliad oni bai fod hyn wedi’i gytuno gan y Cyngor.

27. Os yw cyfanswm y gwariant yn llai na’r hyn oedd wedi’i ragweld, bydd y dyfarniad grant yn cael ei ostwng pro-rata.

28. Gellir hawlio’r TAW fel rhan o gyfanswm y grant os nad yw’r ymgeisydd wedi cofrestru at ddibenion TAW.

29. Mae’n rhaid hysbysu’r Cyngor yn ysgrifenedig os oes unrhyw newid i’r ffordd y byddwch yn defnyddio’roffer neu wasanaeth sydd wedi eu prynu gyda’r grant.

30. Hyd 2035, gall y Cyngor yn ymweld â’ch eiddo er mwyn cynnal archwiliad monitro’r ased(au) busnes a gyllidwyd gan y grant.

31. Mae Cyngor Gwynedd yn dal disgresiwn absoliwt o ran telerau, cymhwysedd a phenderfyniadau dyfarniadau grant a hefyd yn cadw’r hawl i ddiwygio’r meini prawf ar unrhyw adeg.

32. Rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus ymrwymo i ymgymryd a gweithgareddau penodol i gynyddu’u defnydd o’r Gymraeg. Caiff y gweithgareddau yma eu monitro ac os nad ydynt wedi’u cwblhau gall yr arian grant ei ad-hawlio

33. Rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus ymrwymo i dalu’r cyflog byw i weithwyr dros 18 oed erbyn Chwefror 2026. Mae manylion y cynllun ar gael yma (nodwch fod y wefan yma ar gael yn Saesneg yn unig)

34. Rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd a Chynllun Lleihau Carbon gyda chymorth Busnes Cymru

35. Rhaid i bob ymgeisydd gadw at egwyddorion Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035

 

Canllaw sgorio

Mae grantiau Cronfa Gwydnwch Busnes Gwynedd yn cael eu dosrannu ar sail gystadleuol. Dim ond y ceisiadau sydd yn sgorio uchaf fydd yn cael eu cefnogi. 


Sail sgorio Grant Gwydnwch
Elfen Sgôr 
Eglurhad o'r Prosiect

Rhwng 0-5, lle mae:

0 = heb ateb y cwestiwn
5 = Eglurhad ardderchog wedi’i roi o’r prosiect arfaethedig

Costau a Dyfynbrisiau i gyd wedi’u darparu

Rhwng 0-3, lle mae:

0 – dim manylion wedi’u cynnig
1 – costau wedi’u cynnig heb dystiolaeth
2 - costau wedi’u cynnig hefo peth tystiolaeth
3 - costau llawn wedi’u darparu, wedi’u cefnogi gan ddyfynbrisiau diweddar a chywir

Amserlen realistig i gwblhau’r gwaith

Rhwng 0-3, lle mae:

0 - Dim amserlen wedi darparu
1 - Amserlen afrealistig wedi’i gynnig
2 - Amserlen uchelgeisiol wedi’i gynnig
3 - Amserlen realistig wedi’i gynnig

 Cyllideb realistig ar gyfer y gwaith 

Rhwng 0-3, lle mae:

0 - Dim cyllideb wedi darparu
1 -Cyllideb afrealistig wedi’i gynnig
2 - Cyllideb uchelgeisiol wedi’i gynnig
3 - Cyllideb realistig wedi’i gynnig

Graddfa’r gwelliant i'r busnes o ganlyniad i'rprosiect arfaethedig

Rhwng 0-4, lle mae:

0 - Dim gwelliant amlwg i'r busnes
1 - Prosiect yn cynyddu elw neu arbed arian hyd at £5,000 y flwyddyn
2 - Prosiect yn cynyddu elw neu arbed arian hyd at £10,000 y flwyddyn
3 - Prosiect yn cynyddu elw neu arbed arian hyd at £20,000 y flwyddyn
4 - Prosiect yn cynyddu elw neu arbed arian dros £20,000 y flwyddyn

I ba raddfa fydd eich prosiect arfaethedig yn cynyddu gwerth cynnyrch neu wasanaeth yr ydych yn cynnig yn barod? A fydd eich prosiect yn:
  • Gwella’r cynnyrch neu wasanaeth ei hun,trwy gyflwyno elfennau newydd
  • Gwella’r dull o gyflwyno’r cynnyrch neu wasanaeth i’r cwsmer (e.e. trwy wertha ar-lein am y tro gyntaf)
  • Gwella pris y cynnyrch neu wasanaeth i’r cwsmer
  • Gwella’ch proses cynhyrchu / darparu gwasanaeth
  • Gwneud eich cynnyrch neu wasanaeth yn fwy amgylcheddol gyfeillgar
 0-10
0 - prosiect yn canolbwyntio ar greu cynnyrch neu wasanaeth o’r newydd
2 farc am bob elfen
 Ydi’r prosiect yn creu cynnyrch neu wasanaeth newydd?

Rhwng 0 a 10, lle mae:

0 - prosiect ddim yn creu cynnyrch neu wasanaeth newydd
1 – prosiect yn creu gwasanaeth newydd
2 – prosiect yn creu cynnyrch sydd yn addasiad o’r hun oedd gan y busnes i gynnig yn barod
5 - prosiect yn creu cynnyrch cwbl newydd i'r busnes
10 - prosiect yn creu cynnyrch cwbl newyddi'r farchnad

 Oes yna botensial i allforio cynnyrch newydd?  Rhwng 0 a 10, lle mae:
0 – prosiect ddim yn creu cynnyrch newydd
5 – Peth potensial i allforio cynnyrch
10 – Potensial sylweddol i allforio cynnyrch
Swyddi wedi creu/diogelu/gwella o ganlyniadi'r prosiect
Creu = swydd nad oedd yn bodoli cynt, ac sy’n debygol o fod mewn lle am o leiaf 12 mis
Diogelu = swydd a oedd o dan fygythiad o gael ei golli o fewn 6 mis
Gwella = swydd sydd yn cynnig gwell amodau neu gyflog
 2 pwynt yr un ar gyfer swyddi (cyfwerth a llawn amser) wedi’u creu
1 pwynt yr un am swyddi (cyfwerth a llawn-amser) wedi’u diogelu neu wella
 Ydi’r prosiect yn cynnig cyflwyno gweithgareddau fydd yn gwella defnydd a gwelededd y Gymraeg? Rhwng 0 a 4, lle mae:
0 – heb gynnig unrhyw weithgareddau
1 – Prosiect yn cynnig gweithgareddau sy’n annhebygol o gynyddu defnydd a gwelededd y Gymraeg yn y busnes
2 - Peth welliant i ddefnydd neu welededd
3 – peth gwelliant i ddefnydd a gwelededd
4 – Prosiect yn cynnig gweithgareddau fydd yn cynyddu defnydd a gwelededd y Gymraeg yn y busnes ac yn y gymuned ehangach

Byddem hefyd yn ystyried ffactorau megis:

  • cefnogaeth blaenorol (byddem yn roi blaenoriaeth i ymgeiswyr sydd heb dderbyn cymorth ariannol o’r blaen/yn diweddar)
  • Amrediad daearyddol y prosiectau

Petai nifer o geisiadau yn derbyn yr un sgôr, mae Cyngor Gwynedd yn cadw’r hawl i gyflwyno mwy o fesurau sgorio er mwyn dod i benderfyniad

Sylwch - Wrth gyflwyno ffurflen gais, rydych yn datgan bod yr wybodaeth sydd wedi’i roi yn gywir. Byddem yn monitro’r hyn yr ydych yn datgan yn eich ffurflen gais, ac os nad ydych yn cwrdd â’r hyn sydd wedi’u datgan, mae’n bosib y byddwn ni’n edrych i naill ai diddymu eich cynnig grant, a/neu adhawlio unrhyw swm grant sydd wedi’i dalu.

 

Dwi wedi derbyn cynnig grant, beth nesaf?

Wrth dderbyn y cynnig, rydych yn ymrwymo i gadw at y Telerau ac Amodau islaw. Darllenwch y telerau yn ofalus a sicrhewch eich bod yn eu deall cyn cytuno i dderbyn y grant.

Gweld y telerau ac amodau

 

Ffurflenni Pwysig

 

Cysylltu â ni

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni: