Sut i wneud cais?

Gall ymgeiswyr gyflwyno cais am brosiectau sy'n bwriadu gweithredu yng Ngwynedd yn unig, neu mewn sawl ardal Awdurdod Lleol. Bydd pob ardal yn penderfynu’n annibynnol a ydynt am gefnogi cais neu beidio.

Mae'r amserlen ar gyfer cyflawni'r UKSPF yn fyr - bydd angen i bob prosiect ddod i ben erbyn 31 Rhagfyr 2024.  O ystyried y cyfnod byr sydd ar gael ar gyfer cyflawni, bydd Cyngor Gwynedd yn ceisio cefnogi nifer cymharol fach o brosiectau strategol a mwy eu maint. Rhaid i bob prosiect a gyflwynir ymgeisio am o leiaf £250,000 o arian UKSPF - mae'r Cyngor yn rhagweld, ar gyfartaledd, y bydd prosiectau a gefnogir yn ceisio £1 miliwn neu fwy o arian UKSPF.

Rhaid i unrhyw brosiect a ariennir gan yr UKSPF fynd i’r afael ag un, neu fwy, o’r 53 ymyriadau ar

Rhaid i’r prosiectau hefyd gyflawni un neu fwy o'r allbynnau a'r canlyniadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU.

 

Yn ogystal â dangos aliniad â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ei hun, mae’n rhaid i brosiectau sy’ yn ceisio cymorth yng Ngwynedd helpu i wireddu strategaethau a blaenoriaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol

Mae'r strategaethau a chynlluniau perthnasol yng Ngwynedd yn cynnwys (dim yn rhestr gyflawn):

 

Bydd ceisiadau am gyllid UKSPF yng Ngwynedd yn dilyn proses dau gam.  Bydd pob Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru yn dilyn trefn debyg:

Cam 1 : cyflwyno cais prosiect amlinellol

Cam 2 : cyflwyno cais prosiect manwl

Uchelgais Gogledd Cymru | Cronfa Ffyniant Gyffredin

 

Bydd Cyngor Gwynedd yn blaenoriaethu ac yn dewis prosiectau ar sail eu cais amlinellol cam 1.

Bydd y prosiectau sy'n cael eu dewis yn derbyn gwahoddiad i baratoi a chyflwyno cais manwl cam 2, fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y cynnig. Bydd cytundebau cyllid grant ffurfiol yn cael eu cyhoeddi ar ôl gwerthuso cais manwl cam 2. 

Y camau nesaf ar ôl derbyn ceisiadau amlinellol cam 1 fydd:

  1. Bydd y cais yn cael ei werthuso gan dîm Cronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd.
  2. Gofynnir am farn rhanddeiliaid perthnasol.
  3. Bydd Grŵp Ymgynghorol Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd yn asesu ac yn blaenoriaethu’r prosiectau sydd i law ac yn gwneud argymhellion i Gyngor Gwynedd.
  4. Cyngor Gwynedd yn penderfynu pa brosiectau dylid eu cefnogi.
  5. Ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o'r penderfyniad.
  6. Ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn gwahoddiad i baratoi a chyflwyno cais prosiect manwl cam 2.
     

Y camau nesaf ar ôl derbyn ceisiadau manwl cam 2 fydd:

  1. Asesiadau pellach  a gwiriadau diwydrwydd terfynol ar yr ymgeiswyr yn cael eu cwblhau.
  2. Cyngor Gwynedd yn cadarnhau penderfyniad terfynol ar y cais.
  3. Cytundebau cyllid grant ffurfiol yn cael eu rhyddhau gan y tîm rhanbarthol ar ran Cyngor Gwynedd. 

Bydd Cyngor Gwynedd yn anelu i gwblhau gwerthuso a dewis ceisiadau amlinellol cam 1 sydd wedi eu cyflwyno cyn hanner dydd ddydd Gwener, 24 Chwefror 2023 erbyn diwedd Mawrth 2023. 

Wrth gyflwyno cais, byddwch yn awdurdodi’r Cyngor i wneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol i wirio unrhyw wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweinyddu'r rhaglen UKSPF. Mae’n bosibl y bydd y wybodaeth a roddwch hefyd yn cael ei rhannu ag eraill fel y nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd canlynol:

Hysbysiad preifatrwydd 

 

Yn ôl i brif dudalen Cronfa Ffyniant Gyffredin