Prosiectau Cymuned a Lle

 

YmgeisyddGALERI CAERNARFON CYF
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd:
£500,000        
Crynodeb o’r prosiect
Bwriad i brynu, adnewyddu a gosod eiddo gwag masnachol yng nghanol tref Caernarfon.

Mwy o wybodaeth: Galeri Caernarfon Cyf, Caernarfon, Gwynedd

Ymgeisydd: CYNGOR GWYNEDD AR RAN YR AMGUEDDFA
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £250,000 
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn anelu i ail ddehongli a moderneiddio Amgueddfa Lloyd George, ei pherthynas gyda’r gymuned leol a’i rôl i ddehongli'r gorffennol yn rhyngwladol.

Mwy o wybodaeth: Amgueddfa Lloyd George (llyw.cymru)

Ymgeisydd: PRIFYSGOL BANGOR
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £250,000
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y cynllun yn trawsnewid ardal ym Mharc y Coleg, Bangor, sydd yn ddigroeso ar hyn o bryd, i le tawel i fwynhau a phrofi byd natur. Cyflawnir hyn drwy sefydlu llwybrau natur o fewn y coetir a’r prysgwydd, a datblygu'r gwlypdir ar gyfer anifeiliaid a phlanhigion. Bydd byrddau addysgol yn cael eu gosod a dolenni gwybodaeth electronig sy’n crynhoi’r hyn y gall pobl ei weld.  

Mwy o wybodaeth: Diweddariad Project Parc y Coleg | Bangor University

Ymgeisydd: CWMNI’R FRÂN WEN
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £252,911
Crynodeb o’r prosiect: Prosiect celfyddydol a diwylliannol gymunedol ar raddfa fawr fydd yn digwydd ym Mangor dros gyfnod estynedig o 20 mis. Bydd rhaglen o gyd-greu a chydweithio drwy ddulliau creadigol gyda thrigolion a chymunedau'r ddinas fydd yn gorffen gyda digwyddiad aml-gelfyddydol epig fydd yn dathlu hunaniaeth unigryw Bangor ac yn ei rannu gyda'r byd

Mwy o wybodaeth: Frân Wen | Cymuned creadigol Bangor (franwen.com)

Ymgeisydd: CYNGOR GWYNEDD
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £1,864,500
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r rhaglen adfywio Canol Trefi yn cynnwys sawl cynllun gyda’r bwriad o osod sylfaen i'r trefi ar gyfer buddsoddiad a balchder i'r dyfodol.  Bydd y prosiect yn codi safon cyfleusterau a gwasanaethau ein trefi, ac yn cynnwys gwella diogelwch cymunedol, arwyddion a dodrefn stryd, ymgyrchoedd marchnata, cefnogaeth i fusnesau, a chynlluniau i gefnogi’r sector greadigol.

Ymgeisydd: UCHELGAIS GOGLEDD CYMRU
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £211,542
Crynodeb o’r prosiect: Cynllun ar draws siroedd Gwynedd, Môn, Conwy, Dinbych a Fflint. Nod y prosiect yw sicrhau'r buddion a'r cyfleoedd mwyaf posibl i drigolion, busnesau a chymunedau ar draws Gogledd Cymru drwy fuddsoddiadau sy'n cyd-fynd â'r Weledigaeth Twf gan gynnwys Cynllun Twf Gogledd Cymru.


Mwy o wybodaeth: Uchelgais Gogledd Cymru | Uchelgais Gogledd Cymru

Ymgeisydd: PRIFYSGOL BANGOR
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £250,000
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y cynllun yn datblygu arlwy Ecoamgueddfa Llŷn sydd wedi bodoli ers 2015, drwy gydweithio i hyrwyddo safleoedd ac adnoddau penodol ym mhenrhyn Llŷn. Bydd yn datblygu gweithgareddau sy’n ymwneud ag archaeoleg, bioamrywiaeth a diwylliant yr ardal.

Mwy o wybodaeth: CARTREF | Ecoamgueddfa

Ymgeisydd: GOGLEDD CYMRU ACTIF NORTH WALES
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £ 134,000
Cynllun ar draws siroedd Gwynedd, Môn, Dinbych a Fflint.
Crynodeb o’r prosiect:  Cynllun i gefnogi pobl i fod yn fwy actif yn rheolaidd. Bydd y prosiect yn cyd-weithio â’r gymuned mewn 2-3 lleoliad sydd a’r angen mwyaf am gefnogaeth yng Ngwynedd, i ddatblygu sgiliau a hyder er mwyn canfod atebion cynaliadwy er lles y gymuned yn y tymor hir.

Mwy o wybodaeth: Actif North Wales (gogleddcymruactif.cymru)

Ymgeisydd: MENTER MÔN
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd:  £1,100,000
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn gweithio law yn llaw â Cymunedoli Cyf (Rhwydwaith Menter Gymdeithasol Gwynedd) ar gynlluniau amrywiol sy’n creu gwydnwch cymunedol, ac yn creu atebion cymunedol i heriau sy'n wynebu Gwynedd, gan roi pwyslais ar ardaloedd daearyddol heb ddarpariaeth bresennol.

Mwy o wybodaeth: Menter Môn - Grymuso Gwynedd (mentermon.com)

Ymgeisydd: CYMDEITHAS ERYRI SNOWDONIA SOCIETY
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £249,940 
Crynodeb o’r prosiect: Cynllun i ddarparu, datblygu a thyfu rhaglen o waith cadwraeth ymarferol a hyfforddiant gyda gwirfoddolwyr yn Eryri a'r cyffiniau. Byddwn yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i sicrhau bod gwaith yn cyd-fynd â chynlluniau a blaenoriaethau strategol er mwyn sicrhau'r gwerth mwyaf am waith caled gwirfoddolwyr. Bydd yn cynnwys elfennau fel: cynnal llwybrau, rheoli chwyn ymledol, clirio sbwriel, plannu coed a gwaith cadwraeth.

Mwy o wybodaeth: Dwylo Diwyd | Snowdonia Society (snowdonia-society.org.uk)

Ymgeisydd: MENTER TY'N LLAN
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £500,000
Crynodeb o’r prosiect: Cyflawni dwy elfen o brosiect ehangach i ddatblygu menter gymunedol Ty’n Llan, Llandwrog: Y gegin – tynnu’r hen strwythur i lawr a chodi cegin newydd bwrpasol yn ei lle. Datblygu 5 o stafelloedd ymwelwyr ar y llawr cyntaf sydd ar hyn o bryd yn gragen. Bydd yr ystafelloedd yn cael eu dylunio i hybu a dehongli elfennau o hanes a threftadaeth yr ardal

Mwy o wybodaeth: Ein Cynlluniau - Ty'n Llan (tynllan.cymru)

Ymgeisydd: CYNGOR GWYNEDD
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £746,399
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn rhoi cefnogaeth i bobl ac adeiladu gwydnwch cymunedol drwy:
- sefydlu hybiau mewn cymunedau i bobl gael mynediad i gymorth gyda chostau byw, gwasanaethau a gweithgareddau yn lleol
- ddarparu cefnogaeth i wella sgiliau digidol, sgiliau rhifedd ac ariannol mewn gweithdai, sesiynau grŵp neu sesiynau unigol  
- ddarparu cyfarpar TG a chysylltedd i sicrhau cynhwysiad pobl  
- greu cyfleoedd gwirfoddoli i grwpiau arbennig o bobl sy’n ei chael hi’n anodd canfod lleoliad addas i'w hanghenion 

Ymgeisydd: ADRA (TAI) CYFYNGEDIG
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £300,000
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn cyflogi tîm o Wardeiniaid Ynni i annog trigolion ar draws Gwynedd i leihau eu defnydd o ynni, a chynyddu lefelau ailddefnyddio ac ailgylchu er mwyn lleihau gwastraff. Hefyd bydd mesurau effeithlonrwydd ynni yn cael eu gosod mewn sawl canolfan gymunedol leol, fydd yn dangos arferion da i aelodau’r gymuned leol.

Mwy o wybodaeth: Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd - Adra  a Prosiect Sero Net Gwynedd – Datblygiadau Egni Gwledig (DEG)

Ymgeisydd: ABERDYFI COMMUNITY PROJECTS LTD
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £ 500,000
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y cynllun yn hwyluso dod ag adeilad Garej Penrhos a’r Swyddfa Bost yn Aberdyfi i berchnogaeth gymunedol. Bydd hyn yn galluogi parhad o wasanaethau lleol, diogelu swyddi, creu gofod gweithdy newydd a datblygu dau fflat ar gyfer pobl leol.

Mwy o wybodaeth: ACP Projects (aberdyfiprojects.co.uk)

Ymgeisydd: SIOP GRIFFITHS CYF
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £ 299,960
Crynodeb o’r prosiect: Cynllun darparu trafnidiaeth gymunedol ar y cyd gyda mentrau cymdeithasol - sef Siop Griffiths, Partneriaeth Ogwen, Y Dref Werdd, ac O Ddrws I Ddrws. Bydd cydlynydd yn datblygu cydweithrediad rhwng yr ardaloedd, er mwyn manteisio ar y cerbydau trydan sydd gan y mentrau yn barod.

Mwy o wybodaeth: Prosiectau Cymunedol | yn helpu, cefnogi a datblygu’r gymuned (yrorsaf.cymru)

Gweinyddwr: CYNGOR GWYNEDD
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd:
£1,800,000 
Crynodeb o’r Gronfa: 
Cronfa grant gystadleuol fydd yn fodd o gefnogi sefydliadau lleol, yn cynnwys mentrau a grwpiau adfywio, i arwain a datblygu prosiectau sydd yn ymateb i anghenion a blaenoriaethau lleol.

Mae’r Gronfa yn cynnwys tri gris gwahanol o grantiau - Cyfalaf a Refeniw rhwng £25k a £200k, Refeniw rhwng £25k a £75k a grantiau o dan £25k. Bu cais agored i sefydliadau ar draws Gwynedd gyflwyno ceisiadau am grant ar gyfer datblygu prosiectau adfywio o fewn eu cymunedau o fis Mehefin 2023 hyd at ganol Gorffennaf 2023. Derbyniwyd ceisiadau gyda chyfanswm gwerth dros £5 miliwn.
Cronfa Cefnogi Adfywio Cymuned

Prosiect Diwyllesiant yn cynnwys Cronfeydd Cefnogi Diwylliant a Threftadaeth, Digwyddiadau a Byw’n Iach ac Actif

Gweinyddwr:
CYNGOR GWYNEDD
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £1,631,000 
Crynodeb o’r Gronfa: Nod y Gronfa yw hyrwyddo diwylliant a threftadaeth, hybu lles corfforol a byw’n iach, a datblygu economi ymweld cynaliadwy. Cyflwynir y rhaglen ‘Diwyllesiant’ fel prosiect traws wasanaeth o fewn Cyngor Gwynedd sydd a'r bwriad o weithredu ar draws tri maes blaenoriaeth – Diwylliant a Threftadaeth, Digwyddiadau a’r Economi Ymweld Gynaliadwy, a Byw’n Iach ac Actif  - er budd, ac i gefnogi lles trigolion, cymunedau, amgylchedd a busnesau Gwynedd.

Mae’r gronfa yn cynnwys tair cronfa lai ar gael i sefydliadau a mudiadau’r sir.  Mae £350k wedi ei glustnodi ar gyfer y Gronfa Diwylliant a Threftadaeth, a £250k yr un wedi ei glustnodi i’r Gronfa Digwyddiadau a’r Gronfa Byw’n Iach ac Actif.   

Cronfa Cefnogi Diwylliant a Threftadaeth, Digwyddiadau, Byw’n Iach ac Actif

GweinyddwrMANTELL GWYNEDD
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd:
£1,500,000 
Crynodeb o’r Gronfa: 
Mae’r Gronfa yn cynnig cyfleoedd ariannu rhwng £2k a £250k i grwpiau gwirfoddol neu gymunedol wedi eu lleoli yng Ngwynedd. Rhagwelir bydd amrywiaeth eang o grwpiau a phrosiectau yn cyflwyno gweithgareddau gwahanol gyda thraws doriad o gymunedau/pobl yn elwa. 

Bu cais agored i sefydliadau ar draws Gwynedd gyflwyno ceisiadau am grant i yn ystod mis Medi 2023 a derbyniwyd ceisiadau gyda chyfanswm gwerth o £4.9 miliwn.
Mantell Gwynedd

 

Yn ôl i brif dudalen Cronfa Ffyniant Gyffredin