Prosiectau Pobl a Sgiliau

Ymgeisydd: ADRA (TAI) CYFYNGEDIG
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £256,508
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn cyflwyno rhaglen o gyrsiau pythefnos, gan gyfuno hyfforddiant achrededig a phrofiad gwaith mewn sector gwaith a ddewiswyd gan y cyfranogwyr. Bydd hyn yn cynnwys atgyweirio a chynnal a chadw, adeiladu, gofal/cefnogi pobl a gwasanaethau cwsmeriaid/gweinyddiaeth. Yn dilyn ymlaen o'r cwrs bydd 24 o gyfleoedd cyflogaeth yn cael eu cynnig gan Adra a phartneriaid eraill.

Mwy o wybodaeth: Academi Adra - Adra

Ymgeisydd: GRŴP LLANDRILLO-MENAI
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £700,000
Cynllun ar draws siroedd Gwynedd, Môn a Conwy.
Crynodeb o’r prosiect:  Bydd y cynllun yn darparu pecyn pwrpasol o gymorth mentora i bobl ifanc 16-25 oed sy’n symud i Addysg Bellach, yn ogystal â chynnig gwasanaeth Iechyd Meddwl a Lles Cofleidiol i gefnogi rhai sy’n symud ymlaen o’r coleg i gyflogaeth.

Ymgeisydd: GRŴP LLANDRILLO-MENAI
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £499,647
Crynodeb o’r prosiect: Nod y prosiect, fydd yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth ag Adra, yw creu canolfan hyfforddi bwrpasol ar gyfer datgarboneiddio ac ôl-osod tai, yn Nhŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes.  Bydd rhaglenni hyfforddiant yn canolbwyntio ar ddiwallu’r angen am sgiliau sy’n gysylltiedig â datgarboneiddio, gyda phwyslais arbennig ar adeiladau traddodiadol a hanesyddol yng Ngwynedd.

Mwy o wybodaeth:

Hyfforddiant Net Sero Training Gwynedd | Busnes@LlandrilloMenai (gllm.ac.uk)

Ymgeisydd: GRŴP LLANDRILLO-MENAI
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £ 96,250
Cynllun ar draws siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.
Crynodeb o’r prosiect:  Mae’r cynllun yn darparu cyfleoedd cyffrous i sefydliadau addysgol yn y maes lletygarwch a thwristiaeth, fydd yn cynnwys profiad gwaith a sgiliau sylfaenol. Bydd cyfres o weithdai yn cynnig profiad gwaith mewn lleoliadau sy’n rhan o’r Rhwydwaith Talent Twristiaeth - Portmeirion, ZipWorld, Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Choleg Llandrillo. Nod y cynllun fydd hyrwyddo’r cyfleoedd ar gael ac annog pobl i hyfforddi ar gyfer y diwydiant.

Ymgeisydd:  Cyngor Gwynedd
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £700,000
Crynodeb o’r prosiect: Nod y prosiect yw cefnogi pobl ifanc ac oedolion ar draws Gwynedd i gyrraedd eu potensial personol drwy gynnig cefnogaeth i unigolion unai i baratoi am waith; symud mewn i gyflogaeth a/neu gynnig cyfleoedd i unigolion hyfforddi a datblygu sgiliau tra mewn cyflogaeth.

Mwy o wybodaeth: Gwaith Gwynedd

Ymgeisydd: GRŴP LLANDRILLO-MENAI
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £ 250,000
Cynllun ar draws siroedd Gwynedd, Môn a Conwy.
Crynodeb o’r prosiect:  Cynllun fydd yn cefnogi cyflogwyr i adnabod a diwallu anghenion hyfforddiant a bylchau sgiliau yn eu gweithlu. Bydd hyn yn caniatáu i’w gweithwyr ddatblygu sgiliau ychwanegol fydd yn ei dro yn creu twf a chyflawni amcanion strategol y busnes. Bydd hyfforddiant yn cael ei gynnig mewn sesiynau grŵp ac unigol yn y gweithle.

Mwy o wybodaeth: 

Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru: Cyllid i… | Busnes@LlandrilloMenai (gllm.ac.uk)

Ymgeisydd: GISDA cyf
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £499,956
Crynodeb o’r prosiect: Bydd TAPI 2 yn brosiect sydd yn darparu cefnogaeth ddwys, person canolog wedi ei deilwra o amgylch pobl ifanc bregus Gwynedd sydd bellach oddi wrth y farchnad lafur. Byddem yn darparu cefnogaeth therapiwtig i gefnogi pobl ifanc gyda’u sgiliau sylfaenol a byw’n annibynnol, i’w galluogi i fentro ymlaen o gefnogaeth yn nes at gyflogaeth a gwasanaethau prif lif. Hefyd bydd gofod therapiwtig aml-ddefnydd yn cael ei ddatblygu ar lawr isaf hwb Lle Da yng Nghaernarfon.

Mwy o wybodaeth: Newyddlen Gaeaf 2023 (Cymraeg) (gisda.org)

Ymgeisydd: CYNGOR AR BOPETH GWYNEDD
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd:  £249,337
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y cynllun yn cynnig cyfres o gyfleoedd hyfforddiant (gyda chyflog) fydd yn gwella sgiliau pobl mewn gwasanaethau canolfan alwadau, helpu cwsmeriaid, sgiliau derbynfa a sgiliau gweinyddol.  Bydd cyrsiau mis i gychwyn, fydd yn arwain at gwrs pellach o 3 mis, ac ymhellach i gymhwyster galwedigaethol.

Mwy o wybodaeth:  Cyfle Hyfforddiant gyda Thâl – CAB Gwynedd


 

Pobl a Sgiliau – Lluosi

Ymgeisydd: GRŴP LLANDRILLO-MENAI
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £1,202,737
Cynllun ar draws siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.
Crynodeb o’r prosiect:  Cynllun i hyrwyddo rhifedd oedolion mewn ystod eang o gymunedau a lleoliadau gwaith yng Ngwynedd, gan wella sgiliau mewn cyd-destun ymarferol sy’n berthnasol iddyn nhw. Bydd cefnogaeth yn cael ei gynnig mewn sesiynau grŵp ac unigol.

Mwy o wybodaeth:  Lluosi - Cyrsiau Mathemateg am Ddim i Oedolion | Grŵp Llandrillo Menai (gllm.ac.uk)

Ymgeisydd: Adra (Tai) Cyf.
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £152,563
Crynodeb o’r prosiect:  Bydd 4 swyddog lles ariannol yn cefnogi datblygiad sgiliau rhifedd ymhlith tenantiaid tai cymdeithasol yng Ngwynedd.  Bydd y cymorth a ddarperir yn anelu at helpu tenantiaid i ddeall eu hincwm a'u gwariant arferol, i reoli unrhyw filiau neu ddyledion yn effeithiol,  ac i adnabod unrhyw fudd-daliadau sydd ar gael iddynt.

Mwy o wybodaeth: Cefnogaeth i chi - Adra

 

Yn ôl i brif dudalen Cronfa Ffyniant Gyffredin