Prosiectau Cefnogi Busnesau Lleol

Ymgeisydd: GRŴP LLANDRILLO-MENAI
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: 
£250,000  
Crynodeb o’r prosiect: 
Cynllun sy’n darparu cymorth gwerthuso a mentora arbenigol i fusnesau i wella eu galluoedd digidol a Sero Net. Bydd yn cefnogi busnesau bach a chanolig i fod yn fwy effeithlon, yn fwy cynhyrchiol, i leihau eu hôl carbon, ac arbed costau. 

Mwy o wybodaeth: Academi Ddigidol Werdd | Busnes@LlandrilloMenai (gllm.ac.uk)

Ymgeisydd: ANTUR WAUNFAWR
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: 250,000
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn cyflwyno amrywiaeth o sesiynau a gweithgareddau beicio yng Ngwynedd er mwyn gwella sgiliau, magu hyder ac annog pobol o bob oedran a gallu i feicio. Bydd y gweithgareddau yn cynnwys cyrsiau mewn ysgolion , sesiynau beicio presgripsiwn cymunedol, sesiynau beicio pobl hŷn, llogi beics am ddim i bobl ifanc difreintiedig a dyddiau llesiant corfforaethol.

Mwy o wybodaeth: Beics Antur Bikes | Antur Waunfawr

Ymgeisydd: ALWAYS AIM HIGH EVENTS
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £500,000
Crynodeb o’r prosiect: Cwblhau rhan 1 o gynllun ehangach i ddatblygu Hwb digwyddiadau ar safle Glyn Rhonwy, Llanberis. Bydd yn cynnwys adeiladu warws a gofod amlbwrpas allai gael ei ddefnyddio fel swyddfa / ystafell gyfarfod ac ar gael i’w logi gan y gymuned.

YmgeisyddCWMPAS
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £ 199,580
Cynllun ar draws siroedd Gwynedd a Môn.
Crynodeb o’r prosiect:  Cynllun gyda dwy ffrwd gwaith:
- Darparu cymorth busnes arbenigol i fentrau cymdeithasol
- Hyrwyddo cynlluniau perchnogaeth gan y gweithwyr i fusnesau, fel eu bod yn parhau mewn cymunedau, a chynnig cymorth arbenigol i wireddu’r cynlluniau

Mwy o wybodaeth: Busnes Cymdeithasol Cymru - twf - Cwmpas  a Employee Ownership Solutions (employeeownershipwales.co.uk)

Ymgeisydd: PRIFYSGOL BANGOR
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £150,000
Cynllun ar draws siroedd Gwynedd, Môn a Fflint.
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y cynllun Taleb Sgiliau ac Arloesedd  yn cefnogi busnesau bach neu ganolig ac entrepreneuriaid graddedig i fanteisio ar arbenigedd, cyfleusterau, sgiliau a thalent Prifysgol Bangor sy’n berthnasol i’w hymchwil ac anghenion datblygu. Bydd talebau yn gallu cael eu defnyddio yn erbyn costau ymgynghorwyr, gofod arbenigol neu gyrsiau.

Mwy o wybodaeth: Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd

Ymgeisydd:  MENTER MÔN CYF
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £299,982
 Cynllun ar draws siroedd Gwynedd a Môn
Crynodeb o’r prosiect:. Bydd y prosiect yn cynnal a datblygu gwasanaeth cymorth busnes yr Hwb Menter, gan ddarparu gwybodaeth, cyngor, cyfleoedd rhwydweithio, a lle i entrepreneuriaid ddatblygu eu syniadau cychwynnol i mewn i fusnes llwyddiannus.  Bydd yr Hwb Menter hefyd yn darparu gweithgareddau SMART Gwynedd a Môn sy’n hybu defnydd o dechnoleg SMART mewn trefi yn yr ardal. 

Mwy o wybodaeth: Hwb Menter  a Menter Môn - Smart Gwynedd a Môn (mentermon.com)

Ymgeisydd: NORTH WALES MERSEY DEE BUSINESS COUNCIL
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £63,002
Crynodeb o’r prosiect: Cynllun ar draws siroedd Gwynedd a Conwy
Gweithgareddau sy’n galluogi, cefnogi ac arwain busnesau a sefydliadau ar draws pob sector ar dwf busnes, wrth anelu at Sero Net a hybu’r economi gylchol. Mae elfennau allweddol yn cynnwys creu ymwybyddiaeth o brosiectau datgarboneiddio mawr yn yr ardal, a rhoi llwyfan i ddarparwyr godi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael.

Mwy o wybodaeth: 

North Wales Mersey Dee Business Council (nwmdbusinesscouncil.org)

Ymgeisydd:  ANTUR NANTLLE CYF
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £500,000
Crynodeb o’r prosiect: Gwneud gwelliannau hanfodol i unedau gwaith presennol, gwella eu heffeithlonrwydd ynni, a sicrhau eu bod yn addas at ddefnydd busnesau lleol i greu a chynnal swyddi am flynyddoedd i ddod.

Mwy o wybodaeth: Antur Nantlle Cyf

Ymgeisydd: CWMNI BRO ANTUR AELHAEARN (1974)
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd; £350,000
Crynodeb o’r prosiect: Prynu safle becws yn Llanaelhaearn sy’n cynnwys dau adeilad gwag, gyda’r nod o sicrhau parhad i fusnes lleol.  Bydd y cynllun hefyd yn moderneiddio’r becws trwy ddatblygu cynllun ynni adnewyddadwy i leihau costau.

Mwy o wybodaeth: Menter gymdeithasol yn prynu becws hanesyddol Llanaelhaearn - BBC Cymru Fyw a Prynu Becws - Fideo | Facebook  

Ymgeisydd: PRIFYSGOL BANGOR
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £400,000
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn ymgysylltu â’r sector pysgota ar draws y Sir i asesu’r angen, gyda’r bwriad o greu sector mwy gwydn ac amrywiol. Bydd y prosiect hwn yn helpu i gadw profiad a hwyluso arallgyfeirio wrth gefnogi treftadaeth forwrol gref a sgiliau cynaliadwy. Bydd gweithgareddau hyfforddi a threialu technegau newydd sy’n ymwneud â’r diwydiant, yn defnyddio adnoddau’r Brifysgol. 

Mwy o wybodaeth: Môr Ni Gwynedd - Prifysgol Bangor

Ymgeisydd: ADRA (TAI) CYFYNGEDIG
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £400,000
Crynodeb o’r prosiect: Prosiect ar y cyd gyda Phrifysgol Bangor fydd yn cynnwys adeiladu dwy siambr a reolir yn atmosfferig, ar gyfer profion dan reolaeth o ddeunyddiau adeiladu mewn amodau amgylcheddol amrywiol ac eithafol.  Bydd y cyfleuster unigryw hwn yn chwarae rhan allweddol wrth gyflymu'r cynnydd tuag at ddylunio tai carbon isel a sero net.

Mwy o wybodaeth: Buddsoddiad sylweddol wedi ei gadarnhau ar gyfer gweithgaredd datgarboneiddio yng Ngwynedd - Adra

Gweinyddwr: CYNGOR GWYNEDD
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd:
£1,800,000 
Crynodeb o’r prosiect: 
Pwrpas y prosiect yw darparu cymorth, gwybodaeth a chefnogaeth ariannol sydd ei angen ar fusnesau Gwynedd i ddechrau, datblygu, a ffynnu. Mae pum ffrwd gwaith fydd yn gweithio fel pecyn i gynnig y cymorth mwyaf priodol i fusnesau’r Sir, sef: 

  • Gweithredu strategaeth ymgysylltu busnes Cyngor Gwynedd, 
  • Prosiect Catalyddion Cymunedol,  
  • Prosiect Ailwefru,  
  • Prosiect Platfform Digidol, a 
  • Chronfa Datblygu Busnes


Cronfa Datblygu Busnes
Mae’r gronfa yn cynnwys dau fath gwahanol o gymorth ar gael i fusnesau - Cronfeydd Datblygu Busnes (Sbarduno a Trawsnewid) a Grantiau Gwella Eiddo. Mae cyfanswm o £1.7 miliwn ar gael i gefnogi busnesau, sy’n gyfuniad o arian SPF ynghyd â chyfraniad o arian wrth gefn gan y Cyngor, a chyfraniad gan Lywodraeth Cymru.  

Mae’r Gronfa bellach wedi’i hoedi - roedd modd ymgeisio am grantiau bach o dan £25k a grantiau rhwng £25k a £250k ar gyfer pob math o grant.  Bu i’r Gronfa agor i geisiadau gan fusnesau ar draws Gwynedd am grant i ddatblygu eu busnes ym mis Awst 2023, a derbyniwyd ceisiadau gyda chyfanswm gwerth dros £10.7 miliwn.

 

Yn ôl i brif dudalen Cronfa Ffyniant Gyffredin