Cronfa Cefnogi Adfywio Cymunedau
Fel rhan o raglen Ffyniant Cyffredin DU, mae arian wedi ei glustnodi ar gyfer sir Gwynedd gyda peth o’r arian wedi ei ymrwymo ar gyfer sefydlu cronfa ar gyfer cefnogi prosiectau yn y maes Adfywio Cymunedau.
Mi rydym yn gwahodd ceisiadau gan sefydliadau nid-er-elw (ond sy’n cynnwys mentrau cymdeithasol) i Gronfa Cefnogi Adfywio Cymunedau gan brosiectau fydd yn cyfrannu at adfywiad cymunedau Gwynedd.
Dyddiad cau: 15 Mehefin 2025
Beth ydi pwrpas Cronfa Cefnogi Adfywio Cymunedau?
Nod y gronfa yw darparu cefnogaeth ddwys i gefnogi grwpiau newydd a chynnar mewn ardaloedd â chapasiti cymunedol isel drwy ariannu cynlluniau fydd yn dod a budd uniongyrchol. Bydd y cynlluniau yn rhai sydd wedi eu hadnabod fel blaenoriaethau yng nghynlluniau gweithredu lleol ‘Ardal Ni’ ac bydd y gronfa yn hwyluso partneriaethau lleol a ysgogi cydweithio mewn ardaloedd lle nad ydi hyn yn digwydd i adeiladu ar y gwaith cynllunio adfywio lleol.
Mae’r Gronfa’n cynnig grantiau sy’n adlewyrchu amcanion a thargedau Cynllun y Cyngor a chynlluniau adfywio lleol Ardal Ni
Beth sydd ar gael?
- Grantiau rhwng £10,000 a £100,000
- Ni all elfennau refeniw fod yn fwy na £50,000
- Am brosiectau o dan £10,000 cyfeiriwch at y Gronfa Cefnogi Cymunedau
Gellir ariannu prosiectau sydd yn gallu cyflawni erbyn Ionawr 31ain, 2026.
Canllawiau
Disgwylir i brosiectau:
- Annog cymunedau i gymryd rôl mwy rhagweithiol yn eu hardaloedd
- Hybu buddsoddiad a datblygiad yr economi leol
- Gwella lleoliadau sy’n bwysig i gymunedau
- Cynyddu cyfleoedd gwaith, datblygiad sgiliau ymhlith unigolion o fewn cymunedau a hybu cyfle cyfartal i bawb
- Cyfrannu tuag at ddatblygiad cynlluniau gweithredu ‘Ardal Ni
- Sefydliad gwirfoddol neu gymunedol anghofrestredig (ond gyda Cyfansoddiad)
- Cwmni Di-elw
- Elusen Cofrestredig
- Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO neu SCIO)
- Cwmni Buddiannau Cymunedol (CIC)
- Corff statudol (Cynghorau Cymuned)
- Ni allwn ariannu ceisiadau gan unigolion
- Offer neu welliannau i warchod asedau cymunedol
- Prosiectau i ddarparu a/neu wella gwasanaethau newydd
- Prosiectau gwella amgylchedd lleol
- Cynllun Busnes
- Asesiad Dichonoldeb
- Ffioedd proffesiynol
Sylwer mai enghreifftiau yn unig yw’r rhestr uchod.
- Costau cynnal a chadw offer ac adeiladau
- Costau cynnal gweithgareddau sydd eisoes yn bodoli
- Cyflogau swyddi
- Gweithgareddau sy’n cael eu cynnal y tu allan i ffiniau Gwynedd
- Ceisiadau gan unigolion neu geisiadau gan gwmnïau er elw i’w ddosbarthu i aelodau ac eithrio mentrau cymdeithasol)
- Ni fydd yn bosib ariannu unrhyw weithgaredd sydd wedi cychwyn cyn bydd llythyr cynnig wedi ei arwyddo a’i ddychwelyd i swyddogion Cyngor Gwynedd
Sylwer mai enghreifftiau yn unig yw’r rhestr uchod.
Bydd y broses ddethol prosiectau i’w cefnogi yn gystadleuol a disgwylir i ymgeiswyr gwblhau pob cwestiwn gan ddilyn y canllawiau manwl.
- Ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried am gefnogaeth gan y gronfa.
- Ni fyddwn yn cysylltu gyda chi i ofyn am fanylion pellach
- Bydd panel yn sgorio ceisiadau ar sail yr hyn sydd wedi ei gyflwyno yn y ffurflen gais.
- Bydd sicrhau dosbarthiad yr arian grant ar draws 13 ardal adfywio Gwynedd yn ystyriaeth flaenllaw wrth ddethol prosiectau i’w cefnogi
- Bydd cefnogi gweithgareddau a sefydliadau NAD ydynt wedi cael cymorth ariannol yn flaenorol trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn flaenllaw wrth ddethol prosiectau i’w cefnogi.
Gwneud cais
Dyddiad cau: 15 Mehefin, 2025
Mae’n bwysig eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau yn ofalus ac yn sicrhau bod eich cynllun yn ymateb i’r canllawiau a’r meini prawf.
- Llenwi'r ffurflen gais
- E-bostio i cronfacefnogiadfywio@gwynedd.llyw.cymru
Byddwn yn anelu i asesu a chymeradwyo ceisiadau erbyn 27 Mehefin, 2025
Mi fydd yn rhaid i bob prosiect cwblhau erbyn 31 Ionawr, 2026
Cyn cyflwyno eich cais, rydym yn eich annog i gysylltu â’ch Swyddog Cefnogi Cymunedau Lleol i drafod eich syniadau ac i dderbyn cymorth pellach i benderfynu beth sy’n gymwys ar gyfer eich cynllun.
Dalgylch Bro Lleu/Nantlle a Bro Peris
Dalgylch Caernarfon, Bangor a Bro Ogwen
Dalgylch Penllŷn a Pwllheli
Bro Ardudwy, Dolgellau a Dysynni
Dalgylch Bro Ffestiniog, Penrhyndeudraeth a Porthmadog
Dalgylch Bala Penllyn, Dinas Mawddwy a Rhydymain
Cysylltu â ni
Am unrhyw cymorth pellach, cysylltwch â ni: