Cyllid Myfyrwyr
Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru, sydd wedi ei leoli yng Nghyffordd Llandudno, nawr yn gyfrifol am brosesu, asesu a thalu cyllid i fyfyrwyr ar gyfer pob cais.
Am fanylion ar sut i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk (yn agor mewn tab newydd)
Os oes gennych ymholiad am eich cyfrif cyllid i fyfyrwyr, dylech gysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru ar 0300 200 4050.
Gall tudalennau facebook (yn agor mewn tab newydd) a Twitter (yn agor mewn tab newydd) hefyd ddarparu gwybodaeth a diweddariadau rheolaidd.
Cronfeydd ymddiriedolaeth
Mae grantiau bychan ar gael i helpu pobl ifanc â'u haddysg. Mae rhai o'r grantiau hyn ar gael i bobl o ardal benodol yn unig.
Hola yn yr ysgol / coleg am fwy o wybodaeth, neu cysyllta â'r adran Addysg: 01766 771000 / e-bost: galwgwynedd@gwynedd.llyw.cymru
Cronfa Ymddiriedolaeth Addysgol Sir Gaernarfon
Addysg bellach
Ar ôl TGAU, gelli fynd i'r chweched dosbarth yn un o'r ysgolion hyn:
- Ysgol Friars, Bangor (yn agor mewn tab newydd)
- Ysgol Tryfan, Bangor (yn agor mewn tab newydd)
- Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda (yn agor mewn tab newydd)
- Ysgol Brynrefail, Llanrug (yn agor mewn tab newydd)
- Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes (yn agor mewn tab newydd)
- Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon (yn agor mewn tab newydd)
- Ysgol Godre'r Berwyn, Y Bala (yn agor mewn tab newydd)
Neu gelli fynd i goleg addysg bellach:
Mae gwybodaeth am sut bydd ysgolion a cholegau Arfon yn cydweithio yn y Prosbectws 16+ (yn agor mewn tab newydd).
Teithio i'r ysgol / coleg
Er mwyn cael teithio i'r ysgol / coleg ar drafnidiaeth gyhoeddus, rhaid prynu tocyn bob tymor.
Cyngor gyrfaoedd
Gall nifer o bobl dy helpu: