Cronfa Ymddiriedolaeth Addysgol Sir Gaernarfon

Am y gronfa

Mae Cronfa Ymddiriedolaeth Addysgol Sir Gaernarfon yn darparu cymorth ariannol i helpu pobl ifanc sydd wedi mynychu ysgolion yn ardal Arfon a Dwyfor gyda'u haddysg, hyfforddiant neu ddatblygiad gyrfaol.

Gall y gronfa helpu gyda chostau sy'n gysylltiedig â:

  • addysg bellach neu uwch;
  • hyfforddiant galwedigaethol;
  • astudiaeth ôl-raddedig;
  • paratoi ar gyfer proffesiwn, crefft neu alwedigaeth;
  • offer, cyfarpar, dillad neu lyfrau sydd eu hangen at ddibenion addysgol neu hyfforddiant.

Pwy all wneud cais?

Mae'r gronfa hon ar gael i ddisgyblion yn ardal Arfon a Dwyfor sydd angen cymorth ariannol ar gyfer addysg neu hyfforddiant, yn cynnwys astudiaeth ôl radd mewn prifysgol neu fan dysgu arall.


Sut mae gwneud cais?

Anfonwch lythyr neu e-bost yn cynnwys:

  • eich enw a'ch manylion cyswllt;
  • manylion eich cwrs, addysg neu hyfforddiant;
  • diben eich cais;
  • sut y bydd y cymorth yn eich helpu; ac
  • unrhyw wybodaeth ategol berthnasol.

Anfonwch eich cais at:

E-bost: CronfaYmddiriedolaethAddysgolSirGaernarfon@gwynedd.llyw.cymru

Llythyr:
Robert John Roberts
Gwasanaethau Adnoddau Addysg
Cyngor Gwynedd
Stryd y Jêl
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH


Dyddiad cau

Dyddiad cau ar gyfer blwyddyn academaidd 2027/28 ydi 06/12/2027.