Am y gronfa
Mae Cronfa Huw Owen yn darparu cymorth ariannol at ddibenion addysgol i blant a phobl ifanc a dderbyniodd eu haddysg yn Hen Ysgol Llanegryn neu sy'n derbyn, neu wedi derbyn, eu haddysg yn Ysgol Craig y Deryn. Mae'r gronfa at ddibenion addysgol yn unig.
Pwy all wneud cais?
Gallwch wneud cais os ydych:
- wedi derbyn eich addysg yn Hen Ysgol Llanegryn
- yn derbyn, neu wedi derbyn, eich addysg yn Ysgol Craig y Deryn.
Sut mae gwneud cais?
Anfonwch lythyr neu e-bost yn cynnwys:
- eich enw a'ch manylion cyswllt;
- manylion eich addysg neu gwrs;
- diben eich cais;
- sut bydd y cymorth yn eich helpu; ac
- unrhyw wybodaeth ategol berthnasol.
Anfonwch eich cais at:
E-bost: CronfaHuwOwen@gwynedd.llyw.cymru (yn agor mewn tab newydd)
Llythyr:
Robert John Roberts
Gwasanaethau Adnoddau Addysg
Cyngor Gwynedd
Stryd y Jêl
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH
Dyddiad cau
Anfonwch eich cais erbyn 8 Mawrth 2027.