Ein huchelgais yw sicrhau fod pob disgybl a addysgir yng Ngwynedd yn cael:
- Eu trin yn gyfartal, eu hannog i drin eraill yn gyfartal a sicrwydd bod eu llesiant a'u hapusrwydd yn flaenoriaeth gennym.
- Addysg o’r safon orau gan gynnwys mynediad at ystod eang o bynciau academaidd a galwedigaethol er mwyn cyflawni gofynion y ‘Cwricwlwm i Gymru’ newydd.
- Mynediad at Addysg cyfrwng Cymraeg drwy gydol eu cyfnod mewn addysg.
- Eu haddysgu mewn adeiladau sydd mewn cyflwr da, yn ddiogel ac yn addas i bwrpas hyd orau ein gallu.
- Y cyfle i ddatblygu i fod yn bobl gyflawn, hapus a hyderus yn y byd.
- Cefnogaeth gan wasanaethau proffesiynol wedi eu teilwra i gwrdd ag anghenion dysgu ychwanegol.
- Y cyfle i gael pryd maethlon yn yr ysgol yn ddi-gost i gymaint o ddisgyblion â phosibl.
- Mynediad at gyfarpar a thechnoleg sy’n hybu dysgu cyfoes ac effeithiol.
- Sicrhad fod caeau chwarae a chyfleusterau addas ar gael i blant a phobl ifanc yn eu hamser hamdden.