Mae Cyngor Gwynedd wedi datgan argyfwng hinsawdd, a’n nod yw i fod yn gyngor carbon sero net ac ecolegol gadarnhaol erbyn 2030. Ein huchelgais yw i sicrhau:
- Lleihad sylweddol mewn allyriadau carbon.
- Ymateb i effeithiau newid hinsawdd.
- Cynnydd mewn bioamrywiaeth a chynefinoedd natur.
- Rhwydwaith rhagorol o lwybrau i drigolion gael y dewis o deithio llesol i’w man gwaith, addysg neu hamdden.
- Rhwydwaith cludiant cyhoeddus sy’n cwrdd ag anghenion cymunedau Gwynedd.