Ein huchelgais yw sicrhau ein bod yn rhoi trigolion Gwynedd yn gyntaf gan eu trin yn deg.
Prosiectau Gwynedd Gyfartal
Byddwn yn parhau gyda gwaith sydd eisoes ar y gweill er mwyn sicrhau fod y Cyngor, yn ei holl weithredoedd, yn rhoi sylw dyledus i gydraddoldeb. Byddwn yn adnabod gwaith sydd angen ei wneud er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn trin pawb mewn ffordd sy’n deg, beth bynnag eu nodweddion cydraddoldeb, eu cefndir a’u hanghenion.
Mae nifer y merched sy’n cyflawni swyddogaeth reolaethol o fewn y Cyngor yn anghymesur â rhaniad y gweithlu cyfan. Byddwn felly yn parhau gyda rhaglen datblygu potensial ar gyfer merched, cynnal awdit o'n dulliau recriwtio a phenodi ar gyfer swyddi rheolaethol, a chreu fforwm ar gyfer arweinwyr a darpar-arweinwyr benywaidd fel rhan o’r rhaglen i annog mwy o ferched i ymgeisio am uwch-swyddi o fewn y Cyngor.