Map ydi Cynllun y Cyngor sy’n arwain y ffordd at y lle yr ydym yn dymuno ei gyrraedd. Mae’n ein cadw ni ar y trywydd cywir. Rydym ni am weld Gwynedd gyfartal, lewyrchus, glyd, ofalgar, Gymraeg, werdd, effeithlon sy’n edrych i’r dyfodol.
Mae ystyr y blaenoriaethau hyn yn cael eu hesbonio’n fanylach yn ein cynllun. Mae rhestr hefyd o’r holl brosiectau y byddwn ni’n eu gweithredu i wireddu’n hamcanion.
Y flaenoriaeth sy’n arbennig o agos at fy nghalon i yw Maes Blaenoriaeth newydd Gwynedd Gyfartal. Rydym yn ceisio rhoi’r egwyddor o drin pawb yn gydradd wrth wraidd pob peth, dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod gwasanaethau’n gweithio i bawb yng Ngwynedd. ‘Sicrhau tegwch i bawb’ a ‘Merched mewn arweinyddiaeth’ yw’r prosiectau fydd yn cael eu gweithredu yn enw Gwynedd Gyfartal er mwyn mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n cyfyngu ar gyfleoedd pobl.
Rydym ni’n adolygu Cynllun y Cyngor bob blwyddyn oherwydd mae’n byd ni’n un sy’n newid mor gyflym. Rydym yn byw drwy gyfnod lle mae costau byw yn cynyddu o hyd ac o hyd ac yn rhoi straen ar deuluoedd a phobl ein sir. Rydym yn gwbl ymwybodol fod rhaid gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein cynllun yn mynd i’r afael ag anghenion pobl Gwynedd.
Rwyf yn ddiolchgar am ymroddiad pob Cynghorydd, pob un o weithlu'r Cyngor, ein partneriaid a’n cymunedau, sy’n gweithio’n galed gyda ni i wneud y gorau bob dydd dros ein sir a’n pobl.
Plant Gwynedd ydi ein dyfodol, ac mae’r maes blaenoriaeth Gwynedd Yfory yn sicrhau ein bod yn rhoi’r cychwyn gorau posibl mewn bywyd i’n plant a’n pobl ifanc. Mae gweld Gwynedd yn sir sy’n gyfeillgar i blant ac yn sir trawma-wybodus yn holl bwysig i mi.
Rwyf yn hynod falch o’r ffaith fod Gwynedd yn sir unigryw sydd â hunaniaeth ddiwylliannol a chymunedol gref. Mae prosiectau’r maes blaenoriaeth Gwynedd Gymraeg yn hybu ffyniant y Gymraeg ym mhob rhan o’r sir gan sicrhau cyfleoedd i bawb allu defnyddio’r Gymraeg yn eu cymunedau.
Mae sicrhau bod pobl yn gallu byw a ffynnu yn eu cymunedau nhw eu hunain yn addewid arall, ac mae’r prosiect newydd ‘Nol i Wynedd’ efo’r nod o gryfhau poblogaeth Gwynedd er mwyn cyfrannu at gymunedau bywiog a thwf economaidd.
Yn ychwanegol, mae Cynllun Ymateb: Cyfiawnder Trwy Ein Dewder yn cael ei nodi ar ddechrau Cynllun y Cyngor. Mae’n tanlinellu’r ffaith bod y gwaith hwn yn ymrwymiad parhaus gennym ni.
Fel Arweinydd y Cyngor, dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda chi, a’r holl bartneriaid drwy Wynedd sydd wirioneddol yn credu mewn gwneud beth mae’r cynllun hwn yn siarad am wneud. Gweld Gwynedd yn ffynnu yw’r nod i ni i gyd.
Cynghorydd Nia Wyn Jeffreys
Arweinydd Cyngor Gwynedd