Defnyddir yr wybodaeth bersonol a gasglwyd i gadarnhau eich bod yn derbyn Budd-Dal Tai neu Gredyd Cynhwysol, i weld pa gymorth sydd yn addas i'ch anghenion,helpu i wella'r gefnogaeth da chi ac eraill yn ei dderbyn, fod y cymorth yma yn werth am arian, a'n helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Gall eich gwybodaeth bersonol gael ei rhannu a'i ddefnyddio gan Llywodraeth Cymru, Gwasanaethau Gwybodaeth GIG Cymru, Cronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Dienw Prifysgol Abertawe, Swyddfa Archwilio Cymru, Y Comisiwn Ewropeaidd, Timau Cefnogi Pobl mewn Awdurdodau Lleol eraill ar draws gogledd Cymru, Budd-dal Tai, Darparwyr Cefnogi a'r Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae angen prosesu eich gwybodaeth bersonol i ddibenion gweinyddu grant Rhaglen Cefnogi Pobl Gwynedd (wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru), ac rydym yn gwneud hyn fel rhan o'n swyddogaeth fel awdurdod cyhoeddus. Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol, bydd Cyngor Gwynedd yn cadw eich gwybodaeth am 6mlynedd, o ddiwedd eich cefnogaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn prosesu eich data personol, am eich hawliau a sut i wneud cwyn, edrychwch ar ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan (yn agor mewn tab newydd) neu gofynnwch am gopi gan y Cyngor.

Os ydych yn credu fod y Cyngor wedi camdrafod eich data personol ar unrhyw adeg,gallwch wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i'w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.