Digartrefedd

Cefnogaeth os ydych yn ddigartref neu'n cysgu allan ar hyn o bryd.

Mewn argyfwng – dwi’n ddigartref ar hyn o bryd

Os ydych yn ddigartref / cysgu allan ar hyn o bryd, neu os ydych yn poeni am rywun arall, cysylltwch â ni:
01286 685100
digartref@gwynedd.llyw.cymru
(cael ei fonitro yn ystod oriau swyddfa yn unig)
Gallwn asesu eich anghenion a thrafod y gefnogaeth sydd ar gael.

Mae digartrefedd yn golygu mwy na 'chysgu allan' yn unig. Mae’n gallu golygu:

  • bod gennych chi ddim cartref lle gallwch fyw gyda’ch teulu agos, neu gydag unrhyw berson y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddyn nhw fyw gyda chi – er enghraifft, gofalwr llawn amser.
  • bod eich cartref yn un dros dro.
  • bod gennych chi ddim caniatâd i fyw lle rydych chi.
  • eich bod chi wedi cael eich cloi allan.
  • eich bod chi ddim yn gallu byw yn eich cartref oherwydd trais neu gamdriniaeth.
  • bod hi ddim yn rhesymol i chi aros yn eich cartref am unrhyw reswm (er enghraifft, os yw’r cartref mewn cyflwr gwael iawn).
  • eich bod chi ddim yn gallu fforddio aros lle rydych chi.
  • eich bod chi’n byw mewn cartref symudol, carafán neu gwch a bod gennych chi ddim lle i’w roi.

Gallwch hefyd gysylltu â ni am gyngor a chefnogaeth os yw'n debygol y byddwch yn ddigartref yn yr 8 wythnos nesaf (56 diwrnod).

Dwi mewn perygl o fod yn ddigartref

Os ydych yn poeni am gael eich gwneud yn ddigartref, cysylltwch â thîm Siop un Stop tai Cyngor Gwynedd cyn gynted â phosib:

Mae sawl rheswm all olygu bod pobl mewn perygl o fod yn ddigartref:

  • cartref mewn cyflwr gwael
  • trafferthion gyda phartner / teulu / landlord
  • cartref ynghlwm â swydd sy’n dod i ben
  • dyledion morgais / rhent.

Gallwn gynnig cefnogaeth a chyngor ar yr opsiynau sydd ar gael er mwyn gwneud yn siŵr na fyddwch y mynd yn ddigartref.

Os oes gennych chi eiddo cymdeithasol ac yn poeni am golli eich gartref, cysylltwch â’r gymdeithas dai perthnasol:

Cefnogaeth bellach:

Protocol tywydd garw: Cefnogaeth i bobl sy'n cysgu allan yn ystod cyfnodau o dywydd eithafol

Penderfyniad Cyngor Gwynedd i gael ‘ystyriaeth o fwriadoldeb’ (yn agor mewn tab newydd)