Mae sawl ffordd wahanol y gallwch dalu eich Treth Cyngor.
Mae Treth Cyngor i’w thalu bob mis am ddeg mis o'r flwyddyn (oni bai eich bod chi wedi gwneud trefniadau eraill).
Mae sawl dull ar gael i dalu:
Talu drwy Ddebyd uniongyrchol
Dyma'r ffordd hawsaf o dalu. Gallwch ddewis talu ar y 5ed, 15ed, 21ain , 28ain o'r mis neu yn wythnosol bob Dydd Llun. Gallwch drefnu taliad debyd uniongyrchol drwy:
- Lawrlwytho ffurflen debyd uniongyrchol (yn agor mewn tab newydd)
(a'i dychwelyd drwy'r post i'r cyfeiriad sydd ar y ffurflen.) - gallwch ffonio (01286) 682700 i drefnu taliad Debyg Uniongyrchol, neu i addasu eich debyd uniongyrchol
(byddwch angen eich manylion banc wrth law).
Talu ar-lein
Talwch yn ddiogel gan ddefnyddio eich cerdyn debyd neu gredyd. Bydd angen i chi gael eich rhif cyfrif Treth Cyngor a manylion talu i wrth law.
Mae angen i'r taliad gyrraedd y Cyngor erbyn y 1af o'r mis.
Talu dros y ffôn
Gallwch dalu dros y ffôn gyda cherdyn debyd neu gerdyn credyd rhwng 8:30am a 5pm dydd Llun i ddydd Gwener. Bydd angen i chi gael eich rhif cyfrif Treth Cyngor a manylion talu i wrth law.
- Rhif ffôn: 01766 771000
Mae angen i'r taliad gyrraedd y Cyngor erbyn y 1af o'r mis.
Bilio electronig
Helpwch yr amgylchedd drwy roi'r gorau i ddefnyddio papur! Erbyn hyn mae’n bosib dewis derbyn eich bil Treth Cyngor drwy e-bost yn hytrach na drwy’r post. Mwy o wybodaeth