Gallwch ddewis derbyn eich bil Treth Cyngor drwy e-bost yn hytrach na derbyn eich bil drwy'r post.

Mae hon yn ffordd fwy cyflym ac effeithlon o dderbyn eich bil neu unrhyw hysbysiadau eraill, ac mae’n fwy caredig i’r amgylchedd.

Cofrestru i dderbyn bil drwy e-bost (yn agor mewn tab newydd)

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Byddwn yn cadarnhau derbyn eich cais o fewn 10 diwrnod gwaith. Wedi i chi gofrestru byddwn yn anfon e-bost atoch pan fydd bil newydd ar gael, neu os bydd addasiad i’ch bil.

Sut ydw i'n canslo derbyn fy mil drwy e-bost?

Os ydych yn penderfynu eich bod eisiau mynd yn ôl i'r drefn o dderbyn bil drwy'r post, rhowch wybod i ni: rhoi'r gorau i filio electronig (yn agor mewn tab newydd)

Wedi newid eich cyfeiriad e-bost?

Rhowch wybod os ydych yn newid eich cyfeiriad e-bost drwy ail-lenwi'r ffurflen bilio electronig (yn agor mewn tab newydd) gyda'ch manylion newydd.

Beth arall ddylwn i ei wybod ynghylch derbyn fy mil drwy e-bost?

Os bydd bil sy'n cael ei anfon i chi drwy e-bost yn cael ei ddychwelyd i ni fel e-bost 'heb ei anfon' ddwy waith ni fyddwn yn anfon bil drwy e-bost i chi eto. Byddwn yn rhoi eich manylion yn ôl ar y rhestr i dderbyn bil drwy'r post. Pe baech chi eisiau derbyn eich biliau drwy e-bost eto byddai'n rhaid i chi lenwi'r ffurflen ar-lein (yn agor mewn tab newydd) eto.

Cysylltu â'r Adran Treth Cyngor

Am help, cyngor neu wybodaeth bellach am Dreth Cyngor, cysylltwch â ni:
Revenue Unit, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH