Os ydych yn cael trafferth talu eich Treth Cyngor, mae'n holl bwysig eich bod yn cysylltu â ni i weld beth ellir ei wneud.
Cysylltu â'r Adran Treth Cyngor
Am help, cyngor neu wybodaeth bellach am Dreth Cyngor, cysylltwch â ni:
Ffôn01286 682700
Revenue Unit, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
Cymorth ar gael
Byddwn yn ymdrin â phob achos yn unigol felly nid oes modd rhoi manylion yma o bopeth a ellir ei ystyried. Efallai y gall y cymorth fod yn drefniant talu arbennig neu gyngor am ostyngiadau/eithriadau
Dyledion eraill
Os oes gennych ddyledion eraill yn ychwanegol i Dreth Cyngor sy'n eich poeni, fe'ch cynghorir yn gryf i gysylltu â CAB Gwynedd (yn agor mewn tab newydd) sy'n darparu cyngor ar ddyledion yn rhad ac am ddim.