Bydd y swm yr ydych yn ei dalu yn dibynnu ar:

  • Band Treth Cyngor y tŷ
  • Yr ardal / cymuned y mae'r tŷ wedi ei leoli.

Mae'r ddogfen isod yn nodi y swm sydd angen ei dalu ar gyfer gwahanol fandiau Treth Cyngor ym mhob cymuned yng Ngwynedd.

Treth Cyngor holl gymunedau Gwynedd fesul band (2026/27) (yn agor mewn tab newydd)

Dod o hyd i'ch band eiddo

Rhowch eich côd post yn y blwch i ddod o hyd i fand treth cyngor y tŷ:


Apelio yn erbyn eich band Treth Cyngor

Yr Asiantaeth Brisio sy'n gyfrifol am fandio tai - cysylltwch â nhw os ydych am apelio.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y VOA: apelio yn erbyn eich band Treth Cyngor (yn agor mewn tab newydd)


I lle mae'r arian yn mynd?

Mae tair elfen i Dreth Cyngor:

1. mae rhywfaint yn mynd i Gyngor Gwynedd,

2. peth i Awdurdod yr Heddlu

3. a pheth i Gynghorau Cymuned.

Cyngor Gwynedd sy'n casglu Treth Cyngor ar ran bawb, ond yr Heddlu a'r Cynghorau Cymuned sy'n penderfynu faint o dreth mae'n nhw eisiau codi.

Mwy o wybodaeth:


Cysylltu â'r Adran Treth Cyngor

Am help, cyngor neu wybodaeth bellach am Dreth Cyngor, cysylltwch â ni:
Revenue Unit, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH