Gall unrhyw un fynd ar ei hôl hi gyda biliau, ond dydi hi BYTH yn rhy hwyr i ofyn am help.
Os ydych chi’n cael trafferth talu eich biliau ynni mae'n bosib y gall eich cyflenwr helpu.
Cyngor gan Ofgem (yn agor mewn tab newydd)
Mae Cyngor Gwynedd yn gallu eich helpu gyda biliau’r cartref hefo’r taliadau yma:
- Gostyngiad bil Treth Cyngor: Os ydych yn cael trafferth talu eich Treth Cyngor cysylltwch â ni.
- Budd-dal Tai
- Taliadau Tai Dewisol (DHP)
- Cyngor Ynni
Help efo bil dŵr
Help efo bil ffôn a rhyngrwyd
I weld pa gymorth sydd ar gael, ewch i:
Cardiau SIM am ddim
Chwilio am help i gael mynediad i’r rhyngrwyd ar eich ffôn symudol? Mae'n bosib cael cerdyn SIM am ddim o lyfrgelloedd Gwynedd
- I wneud cais am gerdyn SIM am ddim rhaid bod dros 18 oed ac yn byw, astudio neu weithio yng Ngwynedd.
- Mae’r cardiau SIM yn gweithio gyda ffonau neu dabledi sydd a chyswllt cellular (h.y gallu gwneud galwadau ffon).
- Mae cardiau SIM a O2 ar gael, a gallwch wneud cais ar ran unigolyn neu cyfeirio ymlaen.
- Gall y cerdyn SIM ei yrru drwy’r post, neu gall unigolyn gasglu’r cerdyn o unrhyw un o lyfrgelloedd Gwynedd trwy drefniant ymlaen llaw.
- Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: llyfrgelloeddgwynedd@gwynedd.llyw.cymru
Help i fynd ar-lein
Cofiwch ei bod yn bosib cael mynediad am ddim i’r we yn bob un o lyfrgelloedd Gwynedd
Neu cysylltwch gyda Gwynedd Digidol i gael help personol i wneud mwy ar lein, neu i gael benthyg dyfais a data:
- digitalgwynedd@citizensonline.org.uk
- 0808 196 5883.
Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP)
Grant i helpu â chostau hanfodol, megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn achos o argyfwng:
Cynlluniau Cefnogaeth
I weld y cynlluniau cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Prydain ewch i:
Hybiau Cymunedol
Gallwch hefyd gael help a gwybodaeth am fwyd, ynni ac arian drwy’r hwb yn eich ardal lleol.