Mae tŷ pâr gyda 2 ystafell wely a thir ychwanegol wedi ei ddatblygu trwy gynllun Tŷ Gwynedd, Cyngor Gwynedd ar safle Coed Adda ym Mangor ar gael i’w prynu trwy Gynllun Rhannu Ecwiti.
Mae’r eiddo yn cynnwys lolfa, cegin/ystafell fwyta, tŷ bach lawr grisiau, cyntedd, gofod storio, 2 ystafell wely, ystafell ymolchi a chwpwrdd cynnes. Mae hefyd opsiwn i addasu’r eiddo i ychwanegu ystafell yn y dyfodol. Yn ogystal, mae gardd ac ardal parcio.
Pris farchnad agored: £250,000

Gweld mwy o luniau o'r eiddo
Gwneud cais
Dyddiad cau cyflwyno cais: 12pm, 2 Rhagfyr
I ddechrau'r broses ymgeisio ar gyfer yr eiddo hwn, llenwch y ffurflen gais:
Ffurflen Gais Tŷ Gwynedd (Cam 2) (yn agor mewn tab newydd)
Gweld mwy o wybodaeth am y broses o wneud cais
Lluniau o'r eiddo






Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gynllun Tŷ Gwynedd neu os hoffech drafod eich amgylchiadau a’ch anghenion tai, cysylltwch â’r Siop un Stop Tai: