Mae’r dudalen yma’n cynnig atebion i gwestiynau ynglŷn â chynllun Tŷ Gwynedd.
Mae Tŷ Gwynedd yn rhaglen adeiladu tai gan Gyngor Gwynedd sy’n anelu at ddarparu cartrefi fforddiadwy i bobl leol ar draws y sir.
Mae’r cynllun wedi’i anelu at bobl sy’n ei chael hi’n anodd prynu neu rentu tŷ ar y farchnad agored ond sydd efallai ddim yn gymwys am dŷ cymdeithasol. Wrth ddylunio’r cartrefi, rhoddir pwyslais ar bedair egwyddor graidd:
- fforddiadwyedd
- addasrwydd
- cynaliadwyedd
- effeithlonrwydd ynni.
Bydd y cartrefi hyn ar gael i’w prynu drwy Gynllun Rhannu Ecwiti, neu i’w rhentu am rent gostyngedig o’i gymharu â’r farchnad agored.
- Mae’r Cynllun Rhannu Ecwiti yn cynnig benthyciad ecwiti ar gyfer prynu tŷ, lle mae benthyciwr (yn yr achos yma, Cyngor Gwynedd) yn rhoi cyfran o'r arian i chi brynu'r eiddo.
- Mae eiddo Tŷ Gwynedd yn cael eu gwerthu gyda benthyciad ecwiti o rhwng 30% a 50% o werth yr eiddo, er mwyn anelu i’w gwneud yn fwy fforddiadwy.
- Bydd angen i ymgeiswyr fodloni meini prawf y cynllun (gweler isod).
- Mae’r benthyciad ecwiti yn gallu amrywio a bydd yn ofynnol i chi allu cyllido’r canran sy’n weddill drwy gyfuniad o forgais a blaendal.
- Mae rhaid i chi gael morgais ad-dalu ar gyfer y canran o’r cartref yr ydych yn ei brynu.
- Bydd y benthyciad ecwiti yn cael ei sicrhau yn erbyn yr eiddo, ni fydd rhent na llog yn daladwy ar y benthyciad.
- Mae’r benthyciad yn gysylltiedig â gwerth yr eiddo ac y gall y swm y byddwch yn ei ad-dalu fod yn fwy os yw gwerth yr eiddo wedi cynyddu.
- Bydd angen isafswm blaendal o 5%, yn amodol ar ofynion y benthyciwr morgais.
Cyn penderfynu prynu eiddo, dylech gael cyngor ariannol annibynnol i gael syniad clir o gostau a rhwymedigaethau sydd ynghlwm wrth berchen ar gartref.
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, rhaid i chi fodloni'r meini prawf canlynol:
- Rhaid bod gennych gysylltiad lleol o leiaf 5 mlynedd ag ardal yr eiddo (gweler manylion pob safle unigol).
- Rhaid i chi allu dangos nad yw eich trefniadau tai presennol yn addas i'ch anghenion neu nad ydych yn gallu fforddio eich cartref presennol.
- Rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig neu'r UE/AEE, neu fod gennych ganiatâd amhenodol i aros.
- Ni ddylech allu fforddio prynu eiddo addas i faint eich teulu ar y farchnad agored heb gefnogaeth y cynllun.
- Rhaid bod gennych fynediad i Forgais mewn Egwyddor neu gynilon digonol i brynu eiddo.
- Rhaid i incwm gros eich aelwyd fod rhwng £16,000 a £60,000 y flwyddyn.
- Rhaid eich bod yn 18 oed neu'n hŷn.
Safleoedd sydd ar y gweill:
- Morfa Nefyn (yn agor mewn tab newydd)
- Llanystumdwy (yn agor mewn tab newydd)
- Llanberis (yn agor mewn tab newydd)
Noder: Nid oes eiddo ar gael i ymgeisio amdanynt bob amser. Mae tai newydd yn cael eu hysbysebu wrth i ddatblygiadau gyrraedd camau penodol yn y broses adeiladu a gwerthu, felly rydym yn argymell eich bod yn edrych yn rheolaidd am y newyddion diweddaraf ar ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol, neu chofrestrwch â’n rhestr bostio i dderbyn newyddion yn syth i’ch mewnflwch: Ymuno â'r rhestr bostio (yn agor mewn tab newydd)
Y Siop un Stop Tai, o fewn Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd, sy’n gyfrifol am weinyddu cynllun Tŷ Gwynedd a phrosesu’r holl geisiadau a gyflwynir.
Bydd yr eiddo Tŷ Gwynedd sydd ar gael yn cael eu hysbysebu ar wefan Cyngor Gwynedd:
Bydd yr eiddo hefyd yn cael eu hysbysebu ar brif dudalen Facebook Cyngor Gwynedd (yn agor mewn tab newydd) a thudalen Facebook Cynlluniau Tai Cyngor Gwynedd. (yn agor mewn tab newydd)
Bydd unrhyw un sydd wedi cofrestru i dderbyn diweddariadau am ddatblygiadau Tŷ Gwynedd hefyd yn derbyn e-bost yn rhoi gwybod pan fydd eiddo ar y safle y maent wedi dangos diddordeb ynddo yn cael ei hysbysebu. Gallwch gofrestru i dderbyn y diweddariadau hyn drwy ddefnyddio'r ddolen hon: Ymuno â'r rhestr bostio (yn agor mewn tab newydd)
Noder: Ni fydd cofrestru i’r rhestr bostio yn eich cofrestru ar gyfer yr eiddo. Fodd bynnag, bydd manylion am sut a phryd i ymgeisio yn cael eu hanfon at bawb sydd wedi cofrestru i’r rhestr bostio pan fydd yr eiddo’n cael eu hysbysebu. Bydd yr wybodaeth hon hefyd ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd ac ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
Bydd. Bydd cyfnod penodol yn cael ei nodi ar yr hysbyseb.
I dderbyn diweddariadau am ddatblygiadau Tŷ Gwynedd mewn ardal benodol, gallwch gofrestru i’n rhestr bostio yma: Ymuno â'r rhestr bostio (yn agor mewn tab newydd)
Noder: Ni fydd cofrestru i’r rhestr bostio yn eich cofrestru ar gyfer yr eiddo. Fodd bynnag, bydd manylion am sut a phryd i ymgeisio yn cael eu hanfon at bawb sydd wedi cofrestru i’r rhestr bostio pan fydd yr eiddo’n cael eu hysbysebu. Bydd yr wybodaeth hon hefyd ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd ac ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
Bydd yr eiddo yn cael eu hysbysebu ar y wefan hon:
Bydd angen i ymgeiswyr gwblhau a chyflwyno ffurflen gais o fewn y cyfnod ymgeisio a nodir yn yr hysbyseb.
Mwy o wybodaeth am y broses o wneud cais
Bydd pris pob eiddo Tŷ Gwynedd yn cael ei nodi'n glir yn yr hysbyseb berthnasol pan fydd yr eiddo'n cael ei farchnata.
Pan fyddwch yn gwerthu’r cartref a brynwyd gyda chymorth y cynllun hwn, bydd rhaid i chi ad-dalu'r benthyciad.
Nid oes unrhyw log na thaliadau credyd eraill ar y benthyciad, felly nid oes cyfradd ganrannol flynyddol (APR) yn berthnasol. Fodd bynnag, mae’r swm y byddwch yn ei ad-dalu yn gysylltiedig â gwerth eich cartref pan gaiff ei werthu. Os yw gwerth eich cartref wedi gostwng, bydd y swm i'w ad-dalu yn gostwng hefyd. Os yw gwerth eich cartref wedi cynyddu, bydd y swm i'w ad-dalu yn cynyddu.
Er enghraifft, os wnaethoch chi fenthyg 50% o werth yr eiddo, bydd angen i chi ad-dalu swm sy’n cyfateb i 50% o werth yr eiddo pan gaiff ei werthu. Bydd prisiad annibynnol yn cael ei wneud ar yr eiddo er mwyn sefydlu’r swm y bydd rhaid i chi ei ad-dalu.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gynllun Tŷ Gwynedd neu os hoffech drafod eich amgylchiadau a’ch anghenion tai, cysylltwch â’r Siop un Stop Tai:
- tai@gwynedd.llyw.cymru (yn agor mewn tab newydd)
- 01286 685 100