Os ydych chi’n gwneud cais am eiddo Tŷ Gwynedd, dilynwch y broses isod.
Defnyddiwch y gyfrifiannell i weld os ydych yn debygol o fod yn gymwys ar gyfer eiddo Tŷ Gwynedd.
Cyfrifiannell Tŷ Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)
Os yw’r gyfrifiannell yn dangos eich bod chi’n debygol o fod yn gymwys, ewch ymlaen i cam 2.
Pan fydd modd gwneud cais am eiddo, bydd yn cael ei hysbysebu ar wefan Tŷ Gwynedd:
Gweld rhestr o'r eiddo sydd ar gael ar hyn o bryd
Bydd pob hysbyseb yn cynnwys dolen i'r ffurflen gais, sy'n eich galluogi i ddechrau'r broses ymgeisio.
Bydd gofyn i chi, ac unrhyw ymgeisydd ar y cyd, ddarparu gwybodaeth bersonol ynghyd â chopïau o’r dogfennau canlynol:
- Prawf of Hunaniaeth (I.D) (pasbort/ tystysgrif geni / trwydded yrru)
- Prawf preswylio (llythyr treth cyngor, biliau cartref, datganiadau banc neu gofrestr etholiadol)
- Cynnig Morgais mewn Egwyddor sy’n dangos yr uchafswm y gallwch fenthyg, gan gynnwys datganiad sy’n nodi ad-daliad misol a’r gyfradd llog ar y morgais (Mortgage Illustration).
Bydd rhaid darparu’r wybodaeth dim hwyrach na 5 diwrnod gwaith o ddyddiad y gwahoddiad i rannu dogfennau. Os oes unrhyw reswm pam na allwch gyflwyno’r dogfennau o fewn y terfyn amser, cysylltwch â ni i adael i ni wybod. Os na chawn ymateb gennych yn ystod y cyfnod, byddwn yn cau’r cais.
Bydd Cyngor Gwynedd yn asesu’r cais yn erbyn meini prawf y cynllun. Os ydych yn gymwys, byddwn yn eich gwahodd i gwblhau Rhan 2 o’r ffurflen gais.
Os yw eich cais yn bodloni’r meini prawf, bydd y Cyngor yn gofyn am wybodaeth bellach, gan gynnwys:
- 3 mis o ddatganiadau banc diweddar (pob cyfrif)
- 3 mis o slipiau cyflog diweddaraf
- Prawf o unrhyw incwm arall
- Prawf o flaendal (cynilion, ISA, cyfrannau, bondiau)
- P60
- Manylion benthyciadau banc (os yn berthnasol)
- Manylion cardiau credyd (os yn berthnasol)
- Manylion cyfrifon neu gardiau siop (os yn berthnasol)
- Ffioedd gofal plant (os yn berthnasol)
- Os yn hunangyflogedig: Tystysgrif SA302 am y 3 blynedd diwethaf
- Tystiolaeth unrhyw setliad ariannol
- Copi o’r Datganiad Cwblhau gan eich cyfreithiwr os ydych yn gwerthu eich eiddo (os yn berthnasol)
Bydd rhaid darparu’r wybodaeth o fewn 5 diwrnod gwaith o ddyddiad y gwahoddiad i gwblhau Rhan 2 o’r ffurflen gais. Os oes unrhyw reswm pam na allwch gyflwyno’r dogfennau o fewn y terfyn amser, cysylltwch â ni i adel i ni wybod. Os na chawn ymateb gennych yn ystod y cyfnod, byddwn yn cau’r cais.
Bydd Cyngor Gwynedd yn gwirio bod eich amgylchiadau personol yn gymwys ac yn bodloni amodau Cynllun Tŷ Gwynedd. Noder – gallwn dderbyn nifer uchel o geisiadau ar gyfer pob eiddo.
Sylwch: Dim ond ceisiadau Rhan 2 sydd wedi’u cyflwyno'n llawn (sy’n cynnwys yr holl ddogfennau perthnasol a nodir uchod) fydd yn cael eu hasesu.
Bydd y ceisiadau’n cael eu hasesu’n unigol, yn nhrefn y dyddiad y cânt eu derbyn, er mwyn gwirio eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd. Bydd yr ymgeisydd cyntaf sy'n bodloni'r meini prawf ac sydd wedi cyflwyno'r holl ddogfennaeth yn cael ei enwebu ar gyfer yr eiddo. Felly, mae’n bwysig cyflwyno’r holl ddogfennau gofynnol cyn gynted â phosib
- Bydd angen i chi gwblhau cais llawn am forgais.
- Bydd angen penodi cyfreithiwr i weithredu ar eich rhan os nad ydych wedi gwneud hyn yn barod.
- Bydd y cyfreithiwr yn delio gyda phryniant yr eiddo a’r dogfennau cyfreithiol perthnasol.
Ar ddiwrnod cwblhau gallwch gasglu’r allweddi i’ch cartref newydd.