Dros oes cynllun Tŷ Gwynedd, mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu adeiladu 90 o gartrefi ledled Gwynedd.
Mae’n gynllun allweddol o fewn Cynllun Gweithredu Tai (yn agor mewn tab newydd) ehangach y Cyngor.
Pwy all wneud cais am eiddo Tŷ Gwynedd?
Cynllun ar gyfer y farchnad ganolraddol yw Tŷ Gwynedd, sydd wedi’i anelu at rai sy’n ei chael hi’n anodd prynu neu rentu tŷ ar y farchnad agored ond sydd efallai ddim yn gymwys ar gyfer tŷ cymdeithasol.
Mae’r swm y gallwch ei fenthyg i brynu un o’r tai yn gysylltiedig â’ch sefyllfa ariannol a’r uchafswm y gallwch fenthyg drwy forgais.
Os ydych yn bodloni’r meini prawf y cynllun, bydd Cyngor Gwynedd yn cadarnhau’r swm y gallwch ei fenthyg, os o gwbl, yn dilyn asesiad ariannol. Gallwn fenthyca gwerth rhwng 30% a 50% o werth eiddo Tŷ Gwynedd yr ydych wedi ymgeisio amdano. Bydd Cyngor Gwynedd yn cadw’r hawl i gael y cyfle cyntaf i brynu’r eiddo, neu i enwebu rhywun i brynu’r eiddo, yn unol â thelerau gweithred rhagbrynu.
Nid yw’r cynllun hwn ar gyfer pobl sy’n gallu fforddio prynu cartref sy’n addas ar gyfer eu hanghenion, nac ar gyfer y rheiny sy’n byw mewn cartref digonol ond sy’n dymuno symud i gartref drytach.
Meini prawf cymhwysedd
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, rhaid i chi fodloni'r meini prawf canlynol:
- Rhaid bod gennych gysylltiad lleol o leiaf 5 mlynedd ag ardal yr eiddo (gweler manylion pob safle unigol).
- Rhaid i chi allu dangos nad yw eich trefniadau tai presennol yn addas i'ch anghenion neu nad ydych yn gallu fforddio eich cartref presennol.
- Rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig neu'r UE/AEE, neu fod gennych ganiatâd amhenodol i aros.
- Ni ddylech allu fforddio prynu eiddo addas i faint eich teulu ar y farchnad agored heb gefnogaeth y cynllun.
- Rhaid bod gennych fynediad i Forgais mewn Egwyddor neu gynilon digonol i brynu eiddo.
- Rhaid i incwm gros eich aelwyd fod rhwng £16,000 a £60,000 y flwyddyn.
- Rhaid eich bod yn 18 oed neu'n hŷn.
Rhowch gynnig ar ein cyfrifiannell Tŷ Gwynedd i weld os ydych yn gymwys
Mae’r cyfrifiannell hon wedi ei dylunio er mwyn rhoi syniad os yw eich sefyllfa ariannol yn debygol o olygu eich bod yn gymwys ar gyfer cynllun Tŷ Gwynedd cyn mentro i wneud cais am eiddo:
Cyfrifiannell cynllun Tŷ Gwynedd – Cynllun Rhannu EcwitiSut mae cyflwyno cais?
Gweld gwybodaeth am y broses o gyflwyno cais